Safle archaeolegol yng nghymuned Llanwnda, Gwynedd, yw Dinas y Pryf[1] (map OS: Dinas y Prif), lle ceir olion math o gytiau anheddog hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn; cyfeiriad grid SH464577. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol. Ceir olion mwnt canoloesol ar y safle hefyd.

Cylch cytiau aneddog Dinas y Prif
Mathcylch cytiau caeedig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.095054°N 4.295184°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN212 Edit this on Wikidata

Cofrestrwyd yr olion hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN212.[2]

Cefndir golygu

Cychwynnwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion. Maen nhw i'w canfod yng Ngwynedd, Môn, Sir Conwy a Sir Gaerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu

  1. 'Iron Age and Roman hut Groups', Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977).
  2. Cofrestr Cadw.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato