Cylchred nitrogen
Y gylchred nitrogen yw'r gylched bioddaeargemegol pan gaiff y nwy nitrogen ei drawsnewid i wahanol ffurfiau sy'n ddefnyddiol mewn prosesau cemegol. Gall y trawsnewid hwn ddigwydd mewn prosesau ffisegol a biolegol.
Math | cylch biogemegol ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | nitrification, nitrogen fixation, denitrification, nitrogen assimilation, Q113906877 ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/96/Reactive_Nitrogen_Global_Annual_Fluxes_CY_SVG.svg/220px-Reactive_Nitrogen_Global_Annual_Fluxes_CY_SVG.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/Nitrogen_Cycle-cy.svg/220px-Nitrogen_Cycle-cy.svg.png)
Nitradau
golyguMae'r nitradau yn cael eu ffurfio gan facteria sy'n sefydlogi nitrogen. Mae'r bacteria yma'n newid y nwy nitrogen yn nitradau.
Mae nitradau'n bodoli'n naturiol mewn pridd. Caiff y nitradau yma eu hamsugno, ac yno'u defnyddio i wneud proteinau. Os yw anifail yn bwydo ar blanhigion, mae'r proteinau'n rhoi bwyd i'r anifail. Bydd y proteinau yno'n pasio ar hyd y gadwynau bwyd.
Sut mae'r gylchred nitrogen yn gweithio?
golygu- Bydd anifail neu blanhigyn yn marw
- Mae dadelfenyddion (bacteria neu ffwng) yn ei ddadelfennu
- Caiff y proteinau eu trawsnewid yn amonia
- Yna bydd nitreiddiad yn digwydd (bydd yr amonia yn cael ei drawsnewid yn nitradau)
- Mae nitreiddiad yn cael ei gyflawni gan facteria nitreiddio
- Mae gwreiddiau'r planhigion yn amsugno'r nitradau
- Mae asidau amino yn cael eu creu gan y nitradau
- Defnyddiwyd yr organebau yr asidau amino i greu proteinau newydd.