Cymdeithas Pêl-côrff Cymru

Cymdeithas camp pêl-côrff (korfball) yng Nghymru

Sefydlwyd Cymdeithas Pêl-côrff Cymru (Saesneg: Welsh Korfball Association) yn 2002 fel y corff i hyrwyddo a datblygu pêl-korf yng Nghymru.[1] Mae'n gyfrifol am gystadlaethau pêl-korf Cymru, y gynghrair genedlaethol a thîm cenedlaethol Cymru. Mae'n gysylltiedig â'r British Korfball Association a Ffederasiwn Rhyngwladol Pêl-Korf.

Cymdeithas Pêl-côrff Cymru
Enghraifft o'r canlynolCorff Cenedlaethol i Gymru, corff llywodraethu chwaraeon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2002 Edit this on Wikidata
Tîm Pêl-korf Cymru yn yr Eurobowl yn 2013
Tîm Cymru'n cystadlu yng nghystadleuaeth y byd yn 2011

Er mai yn 1902 y crewyd pêl-korf yn yr Iseldiroedd, ni ddaeth i ddiddordeb critigol yng Nghymru hyd bron i ganrif yn hwyrach. Noder nad oes gan y gair côrff dim oll i'w wneud â'r gair Cymraeg "corff" ond, yn hytrach, yn sillafiad "Gymraeg" o'r gair "korf" sef y gair Iseldiereg am "fasged".

Yn 2016 bu i dîm Cymru chwarae gêm ryngwladol yn erbyn Catalwnia. Mae Cymru bellach ymhlith y 25 gwlad orau sy’n cystadlu yn y gamp[2] [3]

Cystadlaethau Cymru

golygu
 
Tîm Pêl-korf Cymru, Gemau'r Gymanwlad 2006

Mae'r Gymdeithas yn gyfrifol am gynnal y tîm cenedlaethol ac am gynghrair

Pencampwriaeth

golygu

Mae'r Bencampwriaeth yn cael ei hymladd gan bob tîm yng Nghymru. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei hadu gan ddefnyddio safleoedd terfynol Cynghrair Cenedlaethol Cymru a Chynghrair Rhanbarthol y Gorllewin. Cwpan Cymru yw’r haen uchaf gyda’r enillydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Nghwpan Europa IKF. Tlws yw'r haen ganol a phlât yr haen olaf sy'n agored i bob tîm.

Trefnwyd Cwpan Cymru yn gyntaf fel digwyddiad gala oedd yn agored i un tîm yn unig o bob clwb. Rhedodd hyn o 2008-14 nes iddo gael ei ddileu o blaid defnyddio safleoedd cynghrair i bennu'r pencampwr cenedlaethol. Cafodd y fformat hwn anawsterau wrth i dimau gystadlu mewn cynghreiriau gwahanol; felly, ailgyflwynwyd Pencampwriaeth Cymru, gan ychwanegu’r haenau Tlws a Phlât, er mwyn caniatáu i bob tîm yng Nghymru gystadlu.[4]

Cwpan Europa IKF

golygu

Mae gan Bencampwr Cenedlaethol Cymru hawl i gymryd rhan yng Nghwpan Europa IKF yn erbyn pencampwyr cenedlaethol eraill o bob rhan o Ewrop. Mae’r pencampwr cenedlaethol wedi’i benderfynu’n amrywiol gan enillydd Cynghrair Cymru neu Gwpan Cymru, yn dibynnu ar y fformat ar gyfer pob tymor. Does dim un clwb o Gymru erioed wedi symud ymlaen heibio Rownd Gyntaf y gystadleuaeth. Mae hanes clybiau Cymru sy’n cystadlu yng Nghwpan Europa i’w weld .[5]

Ceir oddeutu 7 tîm pêl-korf yng Nghymru yn 2024 sef, Dinas Caerdydd a'r Met, Cardiff Raptors, Newport Centurions, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd.[6]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "History". Gwefan Cymdeithas Pêl-côrff Cymru. Cyrchwyd 8 Mai 2024.
  2. "Wales v Catalonia". gwefan swyddogol Cymdeithas Pêl-côrff Cymru. Cyrchwyd 8 Mai 2024.
  3. Will Hayward (8 Hydref 2016). "Korfball: the sport you've probably never heard of that's actually really popular in Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mai 2024.
  4. "Championship". Gwefan Cymdeithas Pêl-côrff Cymru. Cyrchwyd 8 Mawrth 2024.
  5. "Europa Cup". Gwefan Cymdeithas Pêl-côrff Cymru. Cyrchwyd 8 Mai 2024.
  6. "Clubs". Gwefan Cymdeithas Pêl-côrff Cymru. Cyrchwyd 8 Mai 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.