Wicipedia:Archifo tudalen sgwrs

Tudalen gymorth i esbonio sut i archifo tudalen sgwrs yw hon. Awgrymir ichi archifo eich sgwrs pan yw'r dudalen yn dechrau mynd yn anghyfleus o hir.

Creu archif

golygu

Mae archifo eich tudalen sgwrs yn hawdd; dewiswch y testun i'w symud a thorri. Yn y blwch chwilio (ar ochr dde brig eich sgrin), rhowch enw eich tudalen sgwrs a rhif yr archif yr ydych eisiau creu (dyweder "Archif 1"), e.e.

Sgwrs Defnyddiwr:Enw/Archif 1,

gan roi'ch enw defnyddiwr chi yn lle "Enw". Cofiwch y flaensleis hefyd!

Cliciwch "Mynd" a bydd tudalen newydd yn agor. Gludwch y testun a gopïwyd gennych yno a chadwch y dudalen: mae eich archif wedi ei chreu.

Pan ddaw'r amser i greu archif newydd, ewch drwy'r un broses eto, ond cofiwch ddefnyddio'r teitl "Archif 2".

Dolen i'r archif

golygu

Cewch greu dolen syml i'r archif trwy roi testun fel hyn ar ddechrau eich tudalen Sgwrs, ar ôl creu'r archif:

[[:Sgwrs Defnyddiwr:Enw/Archif 1|Archif 1]]

Mae nodyn arbennig ar gael hefyd, sy'n rhoi'r dolen(ni) mewn blwch archif. Cewch weld y nodyn yma.

Rhowch y nodyn i mewn ar ddechrau eich tudalen, reit ar y top, fel hyn:

{{Blwch archif|[[/Archif 1]]}}

I ychwanegu ail archif, ar ôl ei chreu, ychwanegwch [[/Archif 2]].

Archifo heb greu archif

golygu

Hyd yn oed os na chrëwch archif, cedwir yr hen negeseuon yn hanes y dudalen. Ond mae o gymorth pe os crëwch ddolenni i'r hen fersiynau perthnasol. Fel dewis arall, felly, dilëwch y negeseuon yn syml (heb eu copïo unrhyw le), ond wedyn, ewch i'r dudalen hanes, a chymerwch gyfeiriad URL fersiwn olaf y dudalen cyn eu dilead. Ychwanegwch ddolen i'r cyfeiriad hwnnw mewn blwch archif, fel y disgrifir isaf (ond fydd angen math o ddolen a ddefnyddir dros gysylltiadau allanol).