Term am drefn gyfreithiol ydy Cymru'r Gyfraith.

Fe grëwyd Cymru'r Gyfraith fel trefn gyfreithiol newydd i Gymru ar 1 Ebrill 2007. Dileuwyd yr hen uned gyfreithiol ddaearyddol a elwyd yn 'Gylchdro Cymru a Chaer' (Wales and Chester Circuit) - a oedd wedi bodoli ers cyfnod Y Deddfau Uno - ac o hyn allan defnyddir yr enw 'Cylchdro Cymru'.

I ddiffinio'r sefyllfa bathodd Roderick Evans ac eraill y term Cymru'r Gyfraith (Saesneg: Legal Wales).

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.