Cynan ap Hywel

brenin (d. 1005)

Cynan ap Hywel (teyrnasodd 999 - 1005), oedd Brenin Gwynedd ac efallai Deheubarth.[1]

Cynan ap Hywel
Ganwyd10 g Edit this on Wikidata
Bu farw1005 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd, Teyrnas Deheubarth Edit this on Wikidata
TadHywel ab Ieuaf Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ar ôl marwolaeth Maredudd ab Owain, oedd wedi cipio gorsedd Gwynedd oddi ar linach Idwal Foel, yn 999, dychwelwyd Gwynedd i ddwylo disgynyddion Idwal yn ffurf ei or-wyr Cynan ap Hywel. Teyrnasodd Cynan hyd 1005 ond ychydig iawn a gofnodir amdano. Mae'n ymddangos iddo hefyd lwyddo i gipio teyrnas Deheubarth. Nid oes gwybodaeth am y modd y collodd ei orsedd i Aeddan ap Blegywryd, nad oedd o linach Idwal Foel i bob golwg.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).