Cynghrair Rhyngwladol y Codwyr Gwastraff

mudiad rhyngwladol

Mae Cynghrair Rhyngwladol y Codwyr Gwastraff yn rhwydwaith a gefnogir gan filoedd o sefydliadau codi gwastraff mewn mwy na 32 o wledydd sy'n cwmpasu America Ladin, Asia ac Affrica'n bennaf. Yn y DU caiff ei gefnogi gan Women in Informal Employment: Globalizing and Organizing (WIEGO). Sylwer bod 'casglwr gwastraff' yn waith gwahanol iawn.

Cynghrair Rhyngwladol y Codwyr Gwastraff
Codwr gwastraff yn Jakarta Indonesia
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2008 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://globalrec.org/ Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y Gynghrair yn Bogotá, Colombia, yn 2008, pan ddaeth 30 o wledydd at ei gilydd; fe'i trefnwyd gan Gymdeithas Codwyr Gwastraff Bogota, Kagad Kach Patra Kashtakari Panchayat codwyr gwastraff casgliad o Pune, India (KKPKP), Rhwydwaith codwyr Gwastraff America Ladin, Sefydliad Avina a Merched mewn Cyflogaeth Anffurfiol: Globaleiddio a Threfnu (WIEGO). Ers hynny, mae Pwyllgor Llywio Rhyngwladol wedi cyfarfod unwaith y flwyddyn yn Durban, Belo Horizonte, Bangkok a Pune i roi cyfeiriad i'r ymgyrch.[1]

Yn 2023 ymgasglodd cynrychiolwyr codwyr gwastraff o 19 gwlad yn Nairobi i gymryd rhan yng Nghyfarfod Cydlynu Cynghrair Rhyngwladol y Codwyr Gwastraff. Prif amcanion y cyfarfod oedd hybu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth ymhlith codwyr gwastraff o'r gwahanol ranbarthau, a dathlu Diwrnod Rhyngwladol codwyr Gwastraff ar Fawrth 1af.[2]

Ymhlith amcanion y mudiad mae'r canolynol; y dylid:

  • cydnabod hawliau codwyr gwastraff ei hawl i gael mynediad at y gwastraff.
  • talu prisiau teg a gwell i godwyr gwastraff am adennill deunyddiau y gellir eu hailgylchu a'u hailddefnyddio.
  • codi tai fforddiadwy, cyfforddus o safon i bawb sy'n codi gwastraff a'u teuluoedd.
  • rhoi tendrau rheoli gwastraff i gasglwyr gwastraff ayb.
  • rhoi yswiriant iechyd a bywyd ar gyfer pob casglwr gwastraff a'u teuluoedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. globalrec.org; adalwyd 16 Mai 2023.
  2. recycling-magazine.com; adalwyd 16 Mai 2023.