Cyngor Gofal Cymru

Cyngor Gofal Cymru oedd y corff rheoleiddio ar gyfer gwaith cymdeithasol, y gweithlu gofal cymdeithasol a hyfforddiant gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 2001 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, deddfwriaeth yn San Steffan oedd yn sefydlu corff cyfatebol yn Lloegr hefyd.[1]

Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru oedd Rhian Huws Williams.[2] Daeth y Cyngor Gofal i ben yn dilyn pasio Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, deddf gan Senedd Cymru oedd yn diddymu'r Cyngor Gofal ac yn sefydlu corff newydd yn ei le, sef Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Annual Report and Accounts 2009-10" (PDF) (yn Saesneg). Cyngor Gofal Cymru. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2023.
  2. "Rhian Huws Williams - Regulation for success". EWC Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2023.