Cyngor prifysgol
Cyngor prifysgol yw'r corff sy'n gyfrifol am lywodraethiant prifysgol fel arfer, gan ddwyn y cyfrifoldeb yn y pen draw am holl faterion ariannol prifysgol, ei hasedau a phenodi is-ganghellor. Yn ymarferol, mae llawer o'r gwaith o redeg prifysgol yn cael ei ddirprwyo gan y cyngor i'r is-ganghellor a'i staff.
Cyfrifoldeb senedd prifysgol yw materion academaidd, sy'n atebol i gyngor y brifysgol fel arfer. Mae cyngor prifysgol yn cynnwys aelodau annibynnol o'r tu allan i'r brifysgol, cynrychiolwyr staff a chynrychiolwyr myfyrwyr.