Cyngres yr Unol Daleithiau

Deddfwriaeth dwy siambr llywodraeth ffederal Unol Daleithiau America ydy Cyngres yr Unol Daleithiau. Mae'n cynnwys dau dŷ sef y Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Dewisir seneddwyr a chynrychiolwyr drwy etholiadau uniongyrchol.

Cyngres yr Unol Daleithiau
Enghraifft o'r canlynolDwysiambraeth Edit this on Wikidata
Rhan oLlywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Mawrth 1789 Edit this on Wikidata
LleoliadCapitol yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Senedd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddCongress of the Confederation, Continental Congress Edit this on Wikidata
Isgwmni/auUnited States Government Publishing Office, Office of Congressional Workplace Rights, United States Congress Office of the Attending Physician Edit this on Wikidata
Enw brodorolUnited States Congress Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthWashington Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.congress.gov Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sêl Cyngres yr Unol Daleithiau

Cynrychiola pob un o'r 435 aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr ardal ac maent yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd. Rhennir seddau'r tŷ ymysg y taleithiau yn ôl poblogaeth. Mae'r 100 o Seneddwyr yn gwasanaethu am gyfnodau o chwe mlynedd. Mae gan bob talaith ddau seneddwr, waeth beth fo poblogaeth y taleithiau. Bob dwy flynedd, etholir tua traean o'r Senedd ymhob etholiad.

Rhydd Erthygl I o'r Cyfansoddiad bwerau deddfwriaethol i'r Gyngres. Mae'r Tŷ a'r Senedd yn bartneriaid cyfartal yn y broses deddfwriaethol (ni ellir gwireddu deddfwriaeth heb gytundeb rhwng y ddwy siambr); fodd bynnag, rhydd y Cyfansoddiad rai pwerau unigryw i bob siambr. Dim ond gan y Senedd y mae'r pŵer i gadarnhau cytundebau a chytuno i apwyntiadau arlywyddol. Rhaid i fesurau codi-cyllid ddeillio o Dŷ'r Cynrychiolwyr, sydd hefyd yn meddu ar y pŵer i ddwyn ag achos o uchelgyhuddo yn erbyn rhywun, tra bod gan y Senedd yn unig y pŵer i roi rhywun ar brawf mewn achos o uchelgyhuddo.

Mae'r Gyngres yn cyfarfod yn Capitol yn Washington, D.C.

Yn aml, defnyddir y term Cyngres i gyfeirio at gyfarfod penodol am ddeddfwriaeth cenedlaethol, yn unol a thermau'r cynrychiolwyr. O ganlyniad, mae "Cyngres" yn para am ddwy flynedd. Cyfarfu'r 111fed Gyngres presennol ar 6 Ionawr, 2009.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.