Ffrwydrad Ysbyty al-Ahli

ffrwydrad yn Gaza ar 17 Hydref 2023

Ar 17 Hydref 2023, yn ystod Rhyfel Gaza a gychwynnodd y mis hwnnw, bu ffrwydrad yng nghowrt Ysbyty al-Ahli yn ninas Gaza,[1] lle'r oedd miloedd o Balesteiniaid a ddadleolwyd gan y rhyfel yn llochesu.[2] Lladdwyd 471 yn ôl gweinyddiaeth iechyd Gaza.[3]

Ffrwydrad Ysbyty al-Ahli
Enghraifft o'r canlynolffrwydrad, lladdiad torfol, saethu cyfeillgar, cyrch awyr Edit this on Wikidata
Dyddiad17 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
Rhan oymosodiadau gan fyddin Israel ar ysbytai yn ystod Rhyfel Israel-Palesteina yn 2023 a 2024 Edit this on Wikidata
LleoliadYsbyty al-Ahli Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthLlain Gaza Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae anghytundod ynghylch achosiad y ffrwydrad. Dywedodd Hamas, llywodraeth Llain Gaza, y cafodd yr ysbyty ei fomio mewn cyrch awyr gan yr Israeliaid, gan ei alw'n 'drosedd rhyfel'. Yn ôl Israel, achoswyd y ffrwydrad gan roced a daniwyd gan Fudiad Jihad Islamaidd Palesteina.[4] Cefnogodd arlywydd Unol Daleithiau America, Joe Biden, ddehongliad Israel o'r digwyddiad.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Brown, Paul; Cheetham, Joshua; Seddon, Sean; Palumbo, Daniele (18 Hydref 2023). "Gaza hospital: What video, pictures and other evidence tell us about Al Ahli hospital blast" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
  2. Flemming, Tessa (18 Hydref 2023). "Al-Ahli Arab hospital was sheltering thousands of displaced Gazans when a blast occurred. Here's what we know" (yn Saesneg). ABC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
  3. Al-Mughrabi, Nidal; Holland, Steve (18 Hydref 2023). "Biden says Gaza militants appear to be behind hospital blast as protesters vent fury with Israel" (yn Saesneg). Reuters. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
  4. "Hundreds feared dead at Gaza hospital as Israel denies strike" (yn Saesneg). BBC News. 17 Hydref 2023. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.
  5. Evans, Gareth (18 Hydref 2023). "Biden backs Israel's account of deadly Gaza hospital explosion" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2023.