Cystennin P. Cavafy
Cystennin P. Cavafy | |
---|---|
Constantine Cafaffy ym 1929 | |
Enw | Κωνσταντίνος Καβάφης |
Ganwyd | Alecsandria, Eyalet yr Aifft | 29 Ebrill 1863
Bu farw | 29 Ebrill 1933 Alecsandria, Teyrnas yr Aifft | (70 oed)
Man gowedd | Mynwent Uniongred Groeg, Alecsandria, Al Iskandariyah, Yr Aifft[1] |
Dinasyddiaeth | Groeg |
Gwobr/au | Medal arian Urdd y Ffenics |
Roedd Constantinos Petrw Cafaffy (Groeg: Κωνσταντίνος Πέτρου Καβάφης [ka'vafis]; 29 Ebrill 1863 – 29 Ebrill 1933) yn bardd Groeg, newyddiadurwr, a gwas sifil sy’n dod o Alecsandria. Roedd Cafaffy yn aml yn cael ei ystyried yn fardd Groeg pwysicaf yr 20fed ganrif, a mae'n ffigwr o bwys yn llenyddiaeth Roeg fodern.
Barddoniaeth
golyguMae barddoniaeth Cafaffy wedi cael ei chyfieithu droeon mewn llawer o iaith. Mae gan ei farddoniaeth unigryw sawl thema: ansicrwydd am y dyfodol, pleserau synhwyraidd, (homo)erotigiaeth, hedoniaeth, nihiliaeth, hunaniaeth, cof, a Helleniaeth (beth mae'n ei olygu i fod yn "Groeg"). Disgrifir Cafaffy gan ei ffrind E.M. Forster, awdur a beirniad llenyddol Saesneg, fel “Gŵr bonheddig Groegaidd mewn het wellt, yn sefyll yn hollol ddisymud ar ongl fach i’r bydysawd.” Roedd Cafaffy yn aml yn cael ei ysbrydoli gan brofiad personol, a ddangosir yn aml trwy lens cyfnodau hanesyddol amrywiol, yn enwedig y cyfnod Hellenistaidd. Mae barddoniaeth Cafaffy yn gwneud llawer o ddefnydd o eironi a ffurfiau cyferbyniol gwahanol ar yr iaith a hanes Roeg, yn aml er mwyn mynegi ei awydd homoerotig mewn cyfnod pan waharddwyd cyfunrywioldeb. Mae ei waith, fel y dywedodd un cyfieithydd, "yn dal yr hanesyddol a'r erotig mewn un cofleidiad." Disgrifiodd y bardd ei hun ei farddoniaeth fel un oedd yn cynnwys 3 thema: hanesyddol, athronyddol a synhwyraidd.
Bywyd
golyguCafodd Cafaffy ei eni ym 1863 yn Alecsandria (rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd ar y pryd) i deulu masnachwyr llewyrchus. Wedi marw ei dad ym 1870, Mae Cafaffy ac ei deulu wedi symud i Lundain, lle dysgodd y bardd Saesneg. Ym 1877, oherwydd problemau ariannol, symudodd y teulu yn ôl i Alecsandria. Arweiniodd bomio Alecsandria ym 1882 i'r teulu symud i mewn gyda theulu estynedig yn Caergystennin. Yn ystod y cyfnod hwn yn Caergystennin y cafodd Cafaffy lawer o'i brofiadau homoerotig cyntaf a dechreuodd ymddiddori yn y syniad o hunaniaeth Hellenig. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd farddoni. Ym 1885, dychwelodd Cavafy i Alecsandria lle byddai'n byw gweddill ei oes hyd ei farwolaeth ar 29 Ebrill, 1933, union 70 mlynedd ar ôl ei eni.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Egypt, by Dan Richardson, Rough Guides, 2003, p. 594.