Cysyniadau ffiseg
Dyma restr o gysyniadau ffiseg mwyaf adnabyddus.
Enghraifft o'r canlynol | amlinelliad o erthygl |
---|---|
Prif bwnc | ffiseg |
Gwefr (Q)
golyguGwefr yw craidd trydan. Y gwefriad lleiaf sydd ar gael yw gwefriad electron sy'n 1.6 X10−19.
Cerrynt (I)
golyguCerrynt yw'r gyfradd llif gwefr trydanol.
Pellter (S)
golyguDyma un o'r mesuriadau anniffiniedig ffiseg, mae'n mesur gwahaniad dau beth.
Newidyn
golyguPan mae dau newidyn yn gysylltiedig, dwedwn fod un yn dibynnu a'r y llall. Mewn arbrofion defnyddir y newidyn annibynnol i fesur y newidyn dibynnol.
Egni (E)
golyguMesurir egni mewn jouleau, defnyddir egni ym mhob achlysur o fywyd, trwy egni gemegol, biolegol, cinetig, potesial a thrydanol. Gellir cysylltu'r egniau yma drwy nifer o fformiwlâu.
Grym (F)
golyguMae maint y grym yn dibynnu ar y gyfradd mae'r grym yn gallu cyflymu 1 kg o fas.
Egni Cinetig (K)
golyguDyma'r egni sy'n gwneud i wrthrych symud. Mesurir eto mewn jouleau.
Mas (m)
golyguMesuriad anniffiniedig arall yw mas. Mesuriad interia yw mas. Uned mas yw Kilogram (Kg).
Lleoliad (x)
golyguMae lleoliad yn dibynnu ar y pellter o sero. Mae'r lleoliad yn dibynnu ar darddiad y mesuriad.
Pwer (P)
golyguPwer yw cyfradd gwaith. Lluosir foltedd a cherrynt i greu pwer mewn trydan. Mesurir pwer mewn wattiau.
Buanedd a chyflymder (v)
golyguCyfradd newid lleoliad yw cyflymder.
Foltedd (V)
golyguMesuriad o egni dros wefr ydy foltedd. Defnyddir y mesuriad yma pan yn sôn am gryfder trydan.