Tref ar arfordir dwyreiniol Iwerddon yw Dún Laoghaire.[1] Saif tua 12 km i'r de o'r brifddinas, Dulyn. Mae hi'n rhan o sir hanesyddol Swydd Dulyn. Erbyn hyn mae'n ganolfan weinyddol i sir weinyddol newydd Dún Laoghaire-Ráth an Dúin (Dun Laoghaire-Rathdown).

Dún Laoghaire
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth23,857 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBrest, Izumo, Caergybi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Dulyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Uwch y môr24 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3°N 6.14°W Edit this on Wikidata
Cod postA96 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r enw yn golygu "caer Laoghaire". Roedd Laoghaire yn ard-rí (brenin uchel) ar Iwerddon yn y 5g. Ef oedd wedi caniatáu i Sant Padrig deithio drwy'r wlad a lledu Cristionogaeth.

Yn y 19g, pan oedd Lloegr yn rheoli Iwerddon, "Kingstown" oedd enw Dún Laoghaire yn Saesneg, ond ni ddefnyddir yr enw hwnnw ers i'r Weriniaeth ennill hunanlywodraeth. Mae Dún Laoghaire yn un o'r ychydig o drefi yn Iwerddon y defnyddir dim ond ei henw Gwyddeleg ar ei chyfer.

O'i phorthladd prysur mae llongau fferi yn hwylio i Gaergybi i gysylltu Iwerddon â Chymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.