Datstyffylwr

teclyn datod stwffwl
(Ailgyfeiriad o Dad-stwffwlwr)

Mae'r datstyffylwr neu dadstyffylwr, dadstwffwlwr neu crafanc stwffwl yn declyn i gael gwared ar stwffwl wedi'u hoelio fewn i bapur neu bren gan declyn styffylwr.

Datstyffylwr
Datstyffylwr - dull 'sydyn' o ddatod stwfflwr
Datstyffylwr - dull 'saff' o ddatod stwffwl
Datstyffylwr 'llafn'
Dadstyffylwr meddygol

Mae'r datstyffylwr wedi'i ddylunio fel y gellir symud stwffwl mewn un gweithred syml heb niweidio bysedd y person a heb achosi llanast neu rwygiadau i'r papur neu'r pinfwrdd sy'n cynnwys y stwffwl sydd angen ei waredu. At y diben hwn, mae'r dad-stwffwlwr yn dod mewn dau ffurf nodweddiadol.

Mathau o Datstyffylwyr golygu

Y datstyffylwr crafanc - dyma'r un mwyaf cyffredin ar gyfer defnydd mewn swyddfa neu ysgol. Mae'n gweithredu fel crafanc fetal gyda phedwar 'dant' miniog yn bachu o dan y stwffwl a'i dynnu ymaith. Mae'r pedwar crafanc ar ddau 'fraich' wedi eu cysylltu gan sbring.

Gellir ddatod y stwffwl wrth fachu 'bwa' y stwffwl (sydd fel arfer ar flaen y papurau sydd wedi eu styffylu)[1] - dyma'r "dull sydyn". Gellir hefyd ddatod y stwffwl drwy grafangu ar gefn y papur lle breichiau'r stwffwl wedi plygu am i fewn neu allan i amgau'r darnau papur at ei gilydd - dyma'r "dull saff".

Y datstyffylwr llafn - mae'r ddyfais yma yn debycach i lafn cyllell di-fin sy'n raddol lledaetnu tua'r carn, ac, weithiau gyda fforch fach ar y blaen er mwyn bach ar y stwffwl. Bydd person yn ymwthio'r llafn o dan y stwffwl ac wrth ei wythio'n ymhellach mae natur raddol lydan y llafn yn llacio'r stwffwl neu ei ymryddhau.

Hanes golygu

Dyfeisiwyd y datystyffylwyr cyntaf gan yr Americanwwr, William G. Pankonin, o ddinas Chicago, Illinois. Cyflwynodd patent ar gyfer ei ddyfais ar 12 Rhagfyr 1932 a cadarnhawyd y patent ar 3 Mawrth 1936. [2] rhoddwyd patent ar y ddyfais mwy cyfoes gan Joseph A. Foytl, o Kansas. Cyflwynwyd y patent yma ar 28 Mai 1969 ac fe'i gyhoeddywd (patent rhif 3 630 486) ar 28 Rhagfyr 1971.

Datstwffwlwr Meddygol golygu

Mewn meddygaeth, defnyddir peiriannau tynnu styffylau ar gyfer clipiau clwyfau. Defnyddir y clipwyr clipiau croen hyn i gael gwared ar y clipiau llawfeddygol sydd wedi'u mewnosod ar gyfer cau clwyfau mewn clwyfau. Fel rheol, mae'r rhain bellach yn ddeunydd tafladwy wedi'i becynnu'n ddi-haint.[3] Anaml iawn y defnyddir cludwyr styffylau metel na ellir eu hailgylchu heddiw.

Datstwffylwr 'Llafn' golygu

Ceir hefyd teclynnau datstyffylu sydd heb ddefnydd o granfanc na sbring megis y Sailrite[4] sy'n debyg i gyllell di-fin a Kangaroo Stapel Remover. Mae'r rhain yn debycach i gyllell neu ffordd sydd yn mynd o dan y stwffwl ac, yn raddol, ei godi o'r dudalen heb yr angen i adael a thynny allan gyda dannedd.[5] Un mantais o'r rhain yw nad oes tebygrwydd o ddannedd neu crafangau'r teclyn, fel yn y dyfais mwy cyffredin, o niweidio y person na'r defnydd (papur neu decstiliau) lle ech-dynnir y stwffwl. Caiff amryiaethau ar y teclyn yma eu defnyddio i ddatod pwythau mewn tecstiliau a styffylau mewn gwaith coed.

Enw mewn ieithoedd Tramor golygu

Yn ogystal ag enwau safonnol, ceir enwau mwy disgrifiadol o'r datystyffylwr mewn rhai ieithoedd tramor:

  • Almaeneg - Schwiegermutter (mam-yng-nghyfraith), Klammeraffe (mwnci heglog); Affenzahn (dant mwnci), a Hexe (gwrach)
  • Rwsieg - скобоизвлекатель (sgŵpydd), дракон (draig)

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Y dull "sydyn" o ddatod stwffwl
  2. https://patents.google.com/patent/US2033050A/fr
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-05. Cyrchwyd 2019-06-03.
  4. https://www.youtube.com/watch?v=VZotkbDqU2o
  5. https://www.youtube.com/watch?v=A-CRomz3OjY