Dadansoddiad PESTEL

Dadansoddiad PESTEL yw techneg a ddefnyddir i ddadansoddi macro-amgylchedd sefydliad gan edrych ar ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasegol a thechnolegol, yn osgytal â ffactorau amgylcheddol a chyfreithiol. Daw'r acronym o'r Saesneg – political, economic, sociological, technological, environmental, legal. Mae'r dadansoddi hwn yn gymorth wrth wneud penderfyniadau strategol. Mae'n galluogi'r sefydliad i adnabod ac asesu tueddiadau, bygythiadau posibl a chyfleoedd mewn marchnad, ac i ymateb i newidiadau yn gynt na'i gystadleuwyr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.