Diffyg yng nghyfanswm dŵr y corff, ynghyd â'r effaith mae hynny'n ei gael ar fetabolaeth, yw dadhydriad.[1] Mae'n digwydd pan fydd mwy o ddŵr yn cael ei golli na'i yfed, fel arfer o ganlyniad i ymarfer corff, clefyd, neu dymheredd uchel. Gall dadhydriad ysgafn gael ei achosi gan droethlif troch, sy'n gallu cynyddu'r perygl o salwch datgywasgiad mewn plymwyr.

Claf colera yn cael cymorth am ei fod yn dioddef o ddadhydriad

Gall y rhan fwyaf o bobl oddef gostyngiad o dri i bedwar y cant yng nghyfanswm dwr y corff heb drafferth neu effaith andwyol ar yr iechyd. Gall gostyngiad o bump i wyth y cant achosi blinder a phendro. Gall gostyngiad o ddeg y cant achosi dirywiad corfforol a meddyliol, ynghyd â syched eithafol. Mae gostyngiad o bymtheg i ddau-ddeg pump y cant o ddwr y corff yn farwol.[2] Nodweddion dadhydriad ysgafn yw syched ac anesmwythyd cyffredinol, a gellir ei drin trwy yfed dŵr.

Gall dadhydriad achosi hypernatremia (lefelau uchel o ionau sodiwm yn y gwaed) ac mae'n wahanol i hypofolemia (colli gwaed, yn arbennig plasma).

Cyfeiriadau golygu

  1. "Language guiding therapy: the case of dehydration versus volume depletion". Annals of Internal Medicine 127 (9): 848–53. November 1997. doi:10.7326/0003-4819-127-9-199711010-00020. PMID 9382413.
  2. F. Ashcroft, Life Without Water in Life at the Extremes (Berkeley a Los Angeles, 2000), tt.134-8