Daeargi Gwyn Gorllewin yr Ucheldiroedd

Daeargi sy'n tarddu o'r Alban yw Daeargi Gwyn Gorllewin yr Ucheldiroedd neu Westie ar lafar gwlad. Mae'n debyg ei fod yn tarddu o Poltalloch yn hen sir Argyll. Cafodd ei fridio yno gan y teulu Malcolm ers oes Iago, Brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI). Credir ei fod yn rhannu'r un linach â daeargwn Albanaidd eraill: Daeargi Dandie Dinmont, y Daeargi Albanaidd, a'r Daeargi Byrgoes.[1]

Daeargi Gwyn Gorllewin yr Ucheldiroedd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
GwladYr Alban Edit this on Wikidata
Enw brodorolWest Highland White Terrier Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ganddo daldra o 25 i 28 cm (10 i 11 modfedd) ac yn pwyso 6 i 8.5 kg (13 i 19 o bwysau). Mae ganddo gôt wen o isflew meddal a chôt allanol syth a chaled. Mae'n gi byrgoes sy'n eofn ac yn llawn hwyl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) West Highland white terrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Hydref 2014.