Dafydd Davis
Adeiladwr llwybrau beicio mynydd yw Dafydd Caradog Davis MBE, sy'n adnabyddus am ei waith yn adeiladau llwybrau mewn canolfannau megis Coed-y-Brenin, Gwynedd.
Dafydd Davis | |
---|---|
Ganwyd | 20 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon |
- Gweler hefyd Dafydd Dafis (gwahaniaethu).
Mae Davis yn athletwr mynydd mewn amryw o ddisgyblaethau. Mae wedi cynyrchioli ei wlad fel rhedwr cwymp ac mae'n ddringwr craig medrus ac alpinwr. Cafodd ei gyfla cyntaf i ddablygu llwybrau beicio mynydd yng Nghoed-y-Brenin yng nghanol yr 1990au, pryd cyflogwyd o gefndir cyfarwyddyd addysgol chwaraeon yr awyr agored, gan y Fenter Coedwigaeth i ddatblygu llwybrau ar gyfer y chwaraeon newydd o feicio mynydd. Roedd y gyllid yn gyfyngedig ond roedd Davis yn arloesol gan ddefnyddio gwirfoddolwyr, y lluoedd arfog a chymdeithasau ieuenctid i ddarparu'r gwaith dynol oedd ei angen i adeiladu llwybrau cynnaladwy trwy'r goedwig. Yn fuan, datblygodd y parc a chafodd enw da am ei amgylchiadau reidio gwych. Galluogodd hyn i Davis fynd at y Cynulliad i ennill fwy o arian ar mwyn datblygu llwybrau pellach ar draws Cymru. Fe lwyddodd i wneud hyn ac yn 2002 datganodd IMBA fod Cymru yn un o gyrchfannau gorau'r byd ar gyfer beicio mynydd.
Derbynnodd Davis MBE yn 2004 am 'wasanaethau i goedwigaeth'. Fe adawodd ei swydd gyda'r Fenter Coedwigaeth ac mae'n ddatblygwr llwybrau llawrydd erbyn hyn, yn gweithio yn Iwerddon, Lloegr, Israel, Canada a Siapan, gan ddatblygu dulliau adeiladu cynnaladwy sy'n cyflenwi llwybrau gwydn sy'n rhoi sialens i'r reidwyr ond eto'n hygyrch i reidwyr o pob gallu.
Mae Davis yn byw tua dwy fillti'r o'r pentref lle'i magwyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'n rhedeg, dringo neu'n reidio bron pob dydd.