Dafydd Jones o Gaeo

emynydd
(Ailgyfeiriad o Dafydd Jones (emynydd))

Bardd ac emynydd Cymraeg oedd Dafydd Jones (171130 Awst 1777), sef Dafydd Jones o Gaeo.

Dafydd Jones o Gaeo
Ganwyd1711 Edit this on Wikidata
Caeo Edit this on Wikidata
Bu farw30 Awst 1777 Edit this on Wikidata
Llanwrda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Yn enedigol o Gwmgogerddan, Caeo, Sir Gaerfyrddin, roedd yn borthmon wrth ei alwedigaeth. Hoffai farddoni yn null y beirdd gwlad cyn cael troedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar ar ei ffordd adref, a dod yn Gristion argyhoedddig. Cynhwysodd William Williams Pantycelyn un o'i emynau yn ei gyfrol Aleluia (1747). Trosodd nifer o salmau'r emynydd Seisnig Isaac Watts i'r Gymraeg a chyhoeddodd dair cyfrol o'i emynau ei hun yn ogystal. Fe'i claddwyd yng Nghrug-y-bar.

Ymhlith yr emynau o'i waith a genir heddiw mae: Pererin wy'n y byd, Wele cawsom y Meseia ac O Arglwydd galw eto.

Llyfryddiaeth

golygu

Gweithiau

golygu
  • Salmau Dafydd (1753). Trosiadau o waith Watts.
  • Caniadau Dwyfol (1771). Eto.
  • Hymnau a Chaniadau Ysprydol (1775). Eto.
  • Difyrrwch i'r Pererinion (3 cyfrol, 1763, 1764, 1770)

Astudiaethau

golygu

Gweler hefyd

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.