Dandin
Llenor a gramadegydd barddoniaeth yn yr iaith Sansgrit o India oedd Dandin (fl. tua 600). Credir ei fod yn frodor o Dde India ond ar wahân i hynny ni wyddys dim amdano.
Dandin | |
---|---|
Ganwyd | 6 g South India |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Adnabyddus am | Kavyadarsha, Dashakumaracharita |
Mae'n awdur dau waith pwysig yn hanes llenyddiaeth Sansgrit. Un o'r rhain yw'r Kavyadarsha ('Y Drych Barddonol', cyfansoddair o'r geiriau Sansgrit kavya 'barddoniaeth' ac adarsha 'drych'), sy'n gyfraniad pwysig i ddamcaniaethau barddol Sansgrit, tebyg i ramadegau'r beirdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol.
Mae ei ail lyfr yn gadya (rhamant) dan y teitl Dasa-kumara-charita ('Anturiaethau'r Deg Tywysog'). Ystyrir hyn yn gampwaith am ei ddefnydd o'r iaith Sansgrit i greu rhyddiaith goeth, osgeiddig. Ond bernir y llyfr gan rai am ei gynnwys. Mae'n fath o nofel hir estynedig gyda nifer o is-benodau sy'n cynnwys nifer o chwedlau llên gwerin a straeon am hud a lledrith ac anturiaethau rhyfeddol. Mae'n dilyn anturiaethau deg tywysog Indiaidd ac mae'n ddrych i gymdeithas y llys yn yr hen India. Ceir nifer o ddarluniau o anturiaethau carwriaethol sy'n gadael dim byd i'r dychymyg gyda disgrifiadau manwl o garu yn ei holl amrywiaeth. I gyfleu hyn mae'r awdur yn defnyddio llu o fwyseiriau rhywiol ac iaith liwgar ac awgrymiadol. Nid yw hynny'n beth mor anghyffredin â hynny yn llenyddiaeth India, ond yr hyn sydd wedi ennyn beirniadaeth yw'r diffyg llwyr o unrhyw synnwyr moesol yn y gwaith.
Cyfieithiadau
golygu- M.R. Kale (gol.), Daśakumāracarita of Dandin (New Delhi, 2003). Y testun Sansgrit a chyfieithiad Saesneg, gyda nodiadau. ISBN 8120801717
- Isabelle Onians (cyf.), What Ten Young Men Did (Gwasg Prifysgol Efrog Newydd/JJC Foundation, 2005. Y testun Sansgrit gyda chyfieithiad Saesneg. ISBN 0-8147-6206-9
- A. I. Ryder (cyf.), The Ten Princes (Dandin's Dasakumaracharita) (Chicago, 1927)
Cyfeiriadau
golygu- Benjamin Walker, Hindu World: an encyclopedic survey of Hinduism, 2 gyfrol (Llundain, 1968; arg. newydd Delhi Newydd, 1995). Cyfrol I d.g. Dandin.