Set o ddawnsfeydd partner sy'n cael eu mwynhau yn gymdeithasol ac yn gystadleuol yw dawns neuadd. Oherwydd yr elfennau perffomiadol ac adloniannol, mae dawns neuadd hefyd yn cael ei fwynhau ar lwyfan, mewn ffilm ac ar y teledu.

Vernon ac Irene Castle, arloeswyr y ddawns neuadd yn ei ffurf gyfoes, tua 1910–18

Gall 'dawns neuadd', yn ei ystyr ehangaf, gynnwys bron unrhyw fath o ddawnsio partner, ond mae ei ddatblygiad fel gweithgaredd cystadleuol wedi cyfyngu ei ddiffiniad i rai mathau penodol o ddawnsfeydd. Mae rhain yn rhannu'n ddau gategori, sef y pum dawns Safon Rhyngwladol - Wals, Wals Fiennaidd, Tango, Ffocstrot a Chwimgam - a'r pum dawns Lladin Rhyngwladol - Cha-cha, Rymba, Samba, Paso Doble a Jeif.

Mae'r rhaglen deledu Strictly Come Dancing, a gafodd ei darlledu gyntaf yn 2004, wedi cyfrannu'n fawr at boblogrwydd dawns neuadd.