Dawns werin
Dawnsio traddodiadol y werin bobl yw dawns werin. Ceir sawl math o ddawns werin ledled y byd, ond cysylltir y term yn bennaf â dawnsio traddodiadol gwledydd Ewrop.
Mewn sawl lle yng Nghymru, cynhelir noson gyfan o ddawnsio gwerin, sef y 'twmpath dawns'.