Dead Poets Society
ffilm ddrama am arddegwyr gan Peter Weir a gyhoeddwyd yn 1989
Mae Dead Poets Society yn ffilm o 1989 a gyfarwyddwyd gan Peter Weir. Lleolir y ffilm mewn ysgol fonedd a cheidwadol i fechgyn ym 1959. Adrodda'r ffilm hanes athro Saesneg sy'n ysbrydoli ei fyryrwyr i newid eu bywydau o gydymffurfio trwy ddysgu barddoniaeth a llenyddiaeth. Ystyrir y ffilm yn ddehongliad modern o'r mudiad trosgynolaidd.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Peter Weir |
Cynhyrchydd | Steven Haft Paul Junger Witt Tony Thomas |
Ysgrifennwr | Tom Schulman |
Serennu | Robin Williams Robert Sean Leonard Ethan Hawke Kurtwood Smith Josh Charles Gale Hansen Dylan Kussman Allelon Ruggiero James Waterston Norman Lloyd Alexandra Powers |
Cerddoriaeth | Maurice Jarre |
Golygydd | Pip Karmel |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Touchstone Pictures |
Amser rhedeg | 128 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Lleloir y stori yn Academi Welton yn Vermont a chafodd ei ffilmio yn Ysgol St. Andrew yn Middletown, Delaware. Ysgrifennwyd y sgript gan Tom Schulman, yn seiliedig ar ei fywyd yn Academi Montgomery Bell, ysgol fonedd i fechgyn yn unig yn Nashville, Tennessee. Cyhoeddwyd nofel gan Nancy H. Kleinbaum (ISBN 0-553-28298-0) yn seiliedig ar sgript y ffilm.