Deddfau gwladwriaethol a lleol oedd deddfau Jim Crow a orfododd arwahanu hiliol yn Ne'r Unol Daleithiau[1] Deddfwyd pob un ohonynt ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20g gan ddeddfwrfeydd gwladwriaethol gwyn Democrataidd.[2] Gorfodwyd y deddfau tan 1965.[3] Yn ymarferol, roedd deddfau Jim Crow yn gorfodi gwahanu hiliol yn yr holl gyfleusterau cyhoeddus yn nhaleithiau hen Wladwriaethau Cydffederal America a gwladwriaethau eraill, gan ddechrau yn yr 1870au a'r 1880au. Cadarnhawyd deddfau Jim Crow ym 1896 yn achos Plessy vs. Ferguson, lle nododd Llys Goruchaf yr UD ei athrawiaeth gyfreithiol "cyfartal ond ar wahan" ar gyfer cyfleusterau i Americanwyr Affricanaidd. At hynny, yn y bôn, roedd addysg gyhoeddus wedi'i gwahanu ers ei sefydlu yn y rhan fwyaf o'r De ar ôl y Rhyfel Cartref (1861-65).

Deddfau Jim Crow
Mathcyfraith Edit this on Wikidata
Rhan oJim Crow Era Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1870s Edit this on Wikidata
Daeth i ben1965 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysone-drop rule, literacy test, grandfather clause, sundown town, lynching in the United States Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma’r deddfau a oedd yn arwahanu pobl ddu oddi wrth bobl gwyn ymhob agwedd o fywyd, er enghraifft, roedd rhaid i bobl ddu ddefnyddio bysiau, trenau, theatrau, ysgolion, ysbytai ac eglwysi ar wahân neu adrannau arwahan ar sustemau trafnidiaeth, cyfleusterau adloniant a hamdden, iechyd ac addoli. Nid oedd hawl ganddynt ychwaith i bleidleisio.  Dioddefent anghyfiawnder yn llysoedd y gyfraith gan mai bobl gwyn oedd y cyfreithwyr, y rheithgor a’r barnwyr.  Roedd hyd yn oed y Groes Goch yn cadw banciau gwaed ar wahan i bobl ddu ac adeg yr Ail Ryfel Byd roedd milwyr du yn gwasanaethu mewn unedau ar wahân i filwyr gwyn, sef ‘Byddin Jim Crow’.

Roedd cyfleusterau ar gyfer Americanwyr Affricanaidd ac Americanwyr Brodorol yn gyson israddol heb gyllid digonol o gymharu â'r cyfleusterau ar gyfer Americanwyr gwyn; weithiau, nid oedd cyfleusterau ar gyfer pobl o liw o gwbl.[4][5] Fel corff o gyfraith, sefydlodd Jim Crow anfanteision economaidd, addysgol a chymdeithasol i Americanwyr Affricanaidd a phobl eraill o liw sy'n byw yn y De.[6]

Roedd deddfau Jim Crow a darpariaethau cyfansoddiadol gwladwriaethol Jim Crow yn gorfodi gwahanu ysgolion cyhoeddus, lleoedd cyhoeddus, a chludiant cyhoeddus, a gwahanu tai bach, bwytai, a ffynhonnau yfed ar gyfer gwyniaid a duon. Cychwynnodd yr Arlywydd Woodrow Wilson, arwahanu gweithleoedd ffederal ym 1913.[7]

Ym 1954, datganwyd bodgwahanu ysgolion cyhoeddus (a noddir gan y wladwriaeth) yn anghyfansoddiadol ond mewn rhai taleithiau, cymerodd lawer o flynyddoedd i weithredu'r penderfyniad hwn. Yn gyffredinol, cafodd y deddfau Jim Crow oedd yn weddill eu diystyru gan Ddeddf Hawliau Sifil 1964 a Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 .

Yr Arlywydd Johnson yn arwyddo'r Deddf Hawliau Sifil 1964

Cyfeiriadau golygu

  1. Fremon, David (2000). The Jim Crow Laws and Racism in American History. Enslow. ISBN 0766012972.
  2. Bruce Bartlett (8 Ionawr 2008). Wrong on Race: The Democratic Party's Buried Past. St. Martin's Press. tt. 24–. ISBN 978-0-230-61138-2.
  3. Elizabeth Schmermund (15 Gorffennaf 2016). Reading and Interpreting the Works of Harper Lee. Enslow Publishing, LLC. tt. 27–. ISBN 978-0-7660-7914-4.
  4. Perdue, Theda (October 28, 2011). "Legacy of Jim Crow for Southern Native Americans". C-SPAN. C-SPAN. Cyrchwyd 27 November 2018.
  5. Lowery, Malinda Maynor (Ionawr 1, 2010). Lumbee Indians in the Jim Crow South: Race, Identity, and the Making of a Nation. Gwasg Prifysgol Gogledd Carolina. tt. 0–339. ISBN 9780807833681. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2018.
  6. Wolfley, Jeanette (1990). "Jim Crow, Indian Style: The Disenfranchisement of Native Americans". Indian Law Review 16: 167–202. doi:10.2307/20068694. JSTOR 20068694. http://health-equity.lib.umd.edu/567/1/JimCrowAIStyle.pdf. Adalwyd 27 Tachwedd 2018.
  7. Michael R. Gardner (2002). Harry Truman and Civil Rights. SIU Press. tt. 108–. ISBN 978-0-8093-8896-7.