Deddfau Penyd
Defnyddir y term Deddfau Penyd (Saesneg: Penal Laws against Wales) am gyfres o ddeddfau a basiwyd gan Senedd Lloegr yn erbyn y Cymry o ganlyniad i wrthryfel Owain Glyn Dŵr. Pasiwyd y prif ddeddfau yn 1402.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | deddf Llywodraeth Lloegr ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1402 ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Dan y deddfau yma, gwaherddid unrhyw Gymro, heblaw esgobion, rhag dal unrhyw swydd gyhoeddus, rhag dwyn arfau a rhag byw mewn unrhyw fwrdeisdref Seisnig. Roedd y gwaharddiad ar ddal swydd gyhoeddus hefyd yn ymestyn i unrhyw Sais oedd yn briod â Chymraes.
Ceir sawl cyfeiriad at y deddfau hyn yng ngwaith beirdd y cyfnod, ac yn enwedig yn y Canu Darogan gwladgarol, fel enghraifft arall o orthrwm y Saeson ar y Cymry.
Dilewyd y deddfau hyn gan y Deddfau Uno 1536 a 1543.