Defnyddiwr:"coelhen"/Pwll Tywod

Swyddogaeth corffilod cochion ydyw cludo'r hollbwysig hufelai, neu oxygen, yng ngwaed y rhedwelioedd o'r galon i bedwar ban y corff dynol, os mynner, yn ben, corff ac aelodau, i gelloedd asgwrn, cnawd, organ, pob cnodwe gewin, blewyn a chroen. wedi dosbarthu eu llwyth hufelai gwerthfawr hyd eithafon y corff, dychwel y gwaed disbyddedig yn y gwythennau i'r galon ac o'r fan honno ar ei union i'r ysgyfaint i godi'r llwyth nesa o'r nwy bywiol, yn ol i'r galon wedyn fel cychwynle y gylchdaith ddiddiwedd.