Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Diwylliant gwerin yr Wcráin

Llên gwerin golygu

Cerddoriaeth a dawns golygu

Celf werin golygu

Traddodiadau a choelion golygu

Rhennir traddodiadau gwerin Wcreinaidd yn dri chategori: traddodiadau'r calendr; defodau newid byd; ac arferion cymunedol.

Y calendr golygu

Defodau newid byd golygu

Wrth ddwyn plentyn i'r byd, caiff defodau eu perfformio i warchod y plentyn rhag drwg. Wedi'r geni, câi'r fam a'r fydwraig eu hystyried yn aflan, a chaent eu puro drwy ddefod arbennig. Câi'r baban ei dderbyn i'r gymuned drwy seremoni'r bedydd a chroesawiad teuluol.

Cyflawnir priodasau yn draddodiadol ar ddiwedd cyfres o ddefodau cymhleth, sydd yn cynnwys y broses o drefnu'r pâr gan y teuluoedd, y dyweddïo, a pharatoadau ar gyfer y seremoni briodas. Cynhelir y seremoni mewn dwy ran: y briodas eglwysig (vinchannia) a'r briodas ddefodol (vesillia). Wedi hynny, mae'r wraig yn gadael ei theulu hi ac yn symud i fyw gyda theulu'r gŵr. Yn hanesyddol, parhasai'r dathliadau am wythnos gyfan bron, ond bellach nid yw priodas draddodiadol yn y pentref yn para tu hwnt i'r ail neu'r trydydd diwrnod.

Cynhelir defodau angau er mwyn gyrru ysbryd y meirw allan o'r tŷ. Ni cheir gadael corff y meirw heb neb i'w gwylio. Gwneir yr arch o bren masarn neu binwydd gan amlaf, oherwydd credir bod y coed hynny yn erlid ysbrydion a fampirod ymaith. Wrth gludo'r corff allan o'r tŷ, gofelir rhag i ysbryd y meirw ddychwelyd i'w gelain.

Arferion cymunedol golygu

Yn hanesyddol, bu pobl ifainc, dibriod yn cyflawni defodau cymunedol y pentref. Dyletswydd y llanciau oedd paratoi ar gyfer y gwyliau crefyddol, tra'r oedd y merched yn trefnu cymanfaoedd cymdeithasol, gan gynnwys partïon nos (vechornytsi).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Darllen pellach golygu