Defnyddiwr : Adda'r Yw/drafftiau/Gwrthwynebiad i'r Natsïaid
Grwpiau'r gwrthwynebiad heb gyfuno neu gydweithio
dim hyd yn oed undeb o fewn yr eglwysi
yn ôl adroddiadau'r Gestapo, roedd y sosialwyr yn newid tactegau (o wrthwynebiad ysgrifenedig i lafar), ac roedd y Comiwnyddion yn fwy o fygythiad na'r Sosialwyr
Y Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd (SPD)
golygu
1 miliwn o aelodau, 5 miliwn o bleidleiswyr ar ddechrau 1933
pleidleisio'n erbyn y Ddeddf Alluogi
diddymu'r blaid gan y Natsïaid yn haf 1933
arweinwyr y blaid yn ffoi i Lundain, Paris, a Phrâg
ar ôl 1933: sefydlu system soffistigedig danddaearol
y grŵp Siocfilwyr Cochion (Red Shock Troop - Alm.?): 3000 o aelodau erbyn diwedd 1933, myfyrwyr yn bennaf, cyhoeddi papur newydd. Erbyn diwedd 1933, arweinwyr y Siocfilwyr wed'u harestio gan y Gestapo a'u danfon i'r gwersylloedd crynhoi
arweinwyr wnaeth ffoi yn anfon arian
dosbarthu'r papur newydd sosialaidd (Socialist Action - Alm.?) o amgylch Berlin
mwy o arweinwyr yn cael eu harestio gan y Gestapo
adroddiadau SOPAD: ar ôl 1939, yr SPD yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am y farn gyhoeddus ynglŷn â'r Natsïaid
sefydlu'r grŵp Dechreuad Newydd (New Beginning - Alm.?), yn dymuno cyfuno ideolegau'r comiwnyddion a'r sosialwyr. Erbyn 1935 cafodd y mwyafrif o'r arweinwyr eu harestio.
Y Blaid Gomiwnyddol (KPD)
golygu
Tân y Reichstaf → anghyfreithloni gweithgareddau'r Comiwnyddion, felly bu'n rhai iddynt ymgyrchu yn danddaearol.
1933-39: 150,000 mewn gwersylloedd crynhoi, 30,000 wedi'u lladd
1933-35: 36,000 o aelodau (10% ohonynt) yn weithredol yn y cudd-wrthwynebiad (underground resistance )
dan oruchwyliaeth y Gestapo: targedu'r Comiwnyddion mwy nag unrhyw grŵp arall oherwydd y bygythiad o gomiwnyddiaeth fel grym rhyngwladol
dosbarthu papurau a phamffledi gwrth-Natsïaidd mewn gweithleoedd a neuaddau cwrw
Rote Fahne ("Y Faner Goch") oedd y prif bapur newydd
llên y Comiwnyddion yn canolbwyntio ar weithredoedd treisgar y blaid (yr SA a'r SS) yn erbyn y dosbarth gweithiol
1.2 miliwn o bamffledi wedi'u cymryd gan y Gestapo yn 1934; 1.67 miliwn yn 1935
anodd i weithredu'r rhwydwaith tanddaearol
1934: 14,000 wedi eu harestio gan y Gestapo
1938: 3800 yn cael eu harestio - yr ymgyrch yn lleihau
1941: trobwynt Ymgyrch Barbarossa - gwrthwynebiad yn atgyfodi
ymgyrch yn cynyddu: 62 o bamffledi'n cael eu cymryd gan y Gestapo yn Ionawr 1941 i 10,227 yn Hydref 1941
nifer o fudiadau yn dod i'r amlwg - Grŵp Uhrig, Ffrynt Gartref, Cerddorfa Goch, Grŵp Baum - ond heb gyswllt i'r KPD
rhai'n credu dylai'r comiwnyddion a'r sosialwyr wedi uno neu gyd-gysylltu i ddod yn fwy pwerus
Sopade
trefniadaeth alltud o'r KPD - rheoli o Brâg, 33-38; Paris, 38-45
creu adroddiadau ar faterion y Natsïaid, e.e. ar ôl Noson y Cyllyll Hirion
cydnabod bod gan Hitler gefnogaeth y mwyafrif, ond dal yn pwysleisio'r gwrthwynebiad
dim arweiniad
cydnabod bod y gwrthwynebiad yn ansicr - dim llawer o gynlluniau hirdymor
dweud mae'r Natsïaid mor gryf oherwydd mae'r gwrthwynebiad mor wan
Yr adain dde a'r lluoedd arfog
golygu
Goerdeler
wedi cydweithio â'r Natsïaid nes 1935
anghytuno â'r syniad o genedl bur: ymladd yn y Reichstag dros hawliau'r Iddewon
rhan o grŵp bach o lywodraethwyr oedd yn gwrthwynebu polisïau Hitler
teithio i Ffrainc, UDA, y DU, a Chanada ac yn rhybuddio pobl yn erbyn polisi economaidd (peryglus, yn ei farn ef) yr Almaen Natsïaidd
Beck
cadfridog a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf
dim yn hoff i Hitler - Hitler yn gwneud i'r fyddin ufuddhau i'r Natsïaid ac yn cynllunio rhyfel o goncwest
ymddiswyddo yn 1938 - dim dylanwad rhagor mewn materion milwrol yr Almaen, colli ei statws a mynediad i wybodaeth
Beck yn ynysig - cwrdd â Goerdeler a von Hassell, dechrau cynlluniau i ladd Hitler gyda bom
y grŵp yma oedd tu ôl i'r Cynllwyn Bom
roedd potensial gan y rhein i wneud rhywbeth mawr
y Cownt Helmuth von Moltke yn arweinydd - dechrau yn 1943
credu bod Hitler yn dinistrio'r genedl mewn ymgais i dra-arglwyddiaeth fyd-eang
creu cynllun er mwyn gwella trefn gymdeithasol am bobl yr Almaen yn seiliedig ar egwyddor Gristnogol
dymuniad am ryddid yn eu huno
20 Gorffennaf 1944: cynllwyn i ddymchwel Hitler
Gestapo'n eu harchwilio ac yn lladd yr arweinwyr
sefydliad gwybodaeth milwrol yr Almaen o 1866 i 1944
rhan o'r Swyddfa Dramor
gwrth-ysbïaeth, ysbïaeth, a difethwyr bwriadol (saboteurs ): tair adran yr Abwehr
dan arweiniad Wilhelm Canaris gyda Hans Oster
gweithio'n erbyn peiriant braw yr SS
trosglwyddo gwybodaeth i'r Cynghreiriaid trwy Beck-Goerdeler
Oster yn un o'r rhai cyntaf i gael eu harestio yn 1944
arestio Canaris fel rhan o'r Cynllwyn Bom
20 Gorffennaf 1944
trio lladd Hitler a dod â'r Ail Ryfel Byd i ben
nid yr ymgais gyntaf i ladd Hitler, ond yr un a ddaeth yn agosaf at lwyddiant
9 aelod allweddol tu ôl i'r Cynllwyn
aelodau milwrol yn credu bod Hitler yn achosi'r Almaen i golli'r rhyfel
cynllwynio'n ofalus - ymdrech y gwrthsafiad nid jyst gwrthwynebiad
Claus von Stauffenberg
cuddio bom mewn bag dan fwrdd
methiant - swyddog wedi symud y bag i ben arall y bwrdd
Canlyniadau:
cannoedd o swyddogion yn cael eu diarddel o'r NSDAP - y blaid wedi colli wyneb yn dilyn y Cynllwyn ac eisiau dial
arweinwyr y Cynllwyn i gyd yn cael eu dienyddio neu'n cymryd bywydau eu hunain
dienyddiadau'n cael eu recordio i wneud esiampl
hongian ar wifren piano o fachau cig
bron 5000 o Almaenwyr yn cael eu lladd am ddial
diwedd y gwrthwynebiad
Yr Eglwys Brotestannaidd
golygu
Natsïaid yn caniatáu dim on Aryaid i ymuno â'r Eglwys
cynnid cred wahanol o Natsïaid: ffurfio'r Eglwys Gyffes dan arweiniad Martin Niemoller
Eglwys Genedlaethol y Reich (Müller yn arweinydd): Natsïeiddio'r Eglwys
Niemoller yn pregethu yn erbyn y Natsïaid - nid yn danddaearol, ond yn agored
Eglwys y Reich yn dymuno puro Cristnogaeth o unrhyw syniadau Iddewig o'r Hen Destament
800 o weinidogion wedi'u carcharu gan y Natsïaid
yr Eglwys ddi-Natsïaidd wedi goroesi erbyn diwedd y rhyfel: y ffydd yn gryfach na'r wladwriaeth
Catholigiaeth Rufeinig yn rym rhyngwladol - pŵer allanol y Pab
yr Eglwys Gatholig yn cydweithio gyda'r Natsïaid ar y dechrau
Concordat (Gorffennaf 1933): Pab yn cytuno i Gatholigion cadw allan o system wleidyddol yr Almaen ar yr amod bod y Natsïaid yn cydnabod safle gymdeithasol yr Eglwys Gatholig (ysgolion Catholig, mudiadau ieuenctid Catholig, ayyb)
torri'r Concordat gan Hitler - cau'r ysgolion Catholig
gwrthwynebwyr ar lefel offeiriaid lleol - dim fawr o ymateb gan y Pab
gwrthwynebu rhaglen ewthanasia'r Natsïaid
Mit brennender Sorge (with burning concern ) - Pab yn cyflwyno yn erbyn Natsïaeth yn 1937
y Cardinal von Galen yn arwain y gwrthwynebiad yn erbyn ewthanasia
protestiadau yn erbyn gwrth-Semitiaeth yn 1941
ymdrechion unigolion
crefydd yn goroesi'r Natsïaid unwaith eto
absenoldeb o waith
difrodi peiriannau ar bwrpas
gweithio'n araf ac aneffeithlon ar bwrpas
gwrthod ymuno â'r fyddin neu wneud arfau
mynd ar streic yn 1935: prisiau bwyd yn cynyddu
streicwyr a gweithwyr aneffeithlon ar bwrpas yn cael eu harestio a'u danfon i'r gwersylloedd crynhoi
Georg Elser: gosod bom yn Neuadd Cwrw München yn Nhachwedd 1939 i ladd Hitler (Hitler heb droi lan)
grwpiau o weithwyr yn weithredol yn erbyn y Natsïaid
dim arweinydd, dim trefn: gwrthwynebiad llafur yn methu
gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau Ieuenctid Hitler
ymladd Ieuenctid Hitler ar strydoedd Dusseldorf, Essen, a Chwlen
mwyafrif yng Ngorllewin yr Almaen ac o'r dosbarth gweithiol
troseddu (e.e. fandaleiddio) fel ffordd o wrthod cydymffurfio
y nifer fwyaf rhwng 16 a 18, rhai yn ferched
grwpiau o tua 10 i 15 person
dim agenda wleidyddol ganddynt - gwrthwynebu ar lefel fach
dod yn ddewrach: graffiti gwrth-Natsïaidd, dwyn arfau a bomiau o orsafoedd milwrol, lladd pennaeth Gestapo Cwlen
Natsïaid yn ymateb: rhybuddio, arestio, danfon yn ôl i'r ysgol, rhoi ar brawf, danfon i wersylloedd crynhoi
Cwlen: taflu briciau trwy ffenestri ffatrïoedd a rhoi dŵr siwgr mewn tanciau petrol y Natsïaid
1944: rhai'n cael eu harestio gan y Gestapo a'u harteithio
10 Tachwedd 1944: Gestapo'n crogi 13 ohonynt yn gyhoeddus
myfyrwyr o Brifysgol München a'u hathro athroniaeth (Kurt Huber)
danfon taflenni anhysbys yn galw am wrthwynebiad i gyfundrefn Hitler
Mehefin 1942 i Chwefror 1943: cyfnod bach iawn
dim agenda wleidyddol - yn dymuno rhyddid a thegwch i bawb
chwe phamffled - dyfynnu o'r Beibl, Aristoteles, Novalis; targedu Bafaria ac Awstria
prif aelodau: Sophie a Hans Scholl, Alex Schmorell, Willi Graff, Christoph Probst
cael eu harestio gan y Gestapo (18 Chwefror 1943) am ddarparu taflenni ym Mhrifysgol München
cael eu dienyddio
llwyddodd y chweched pamffled i gael ei ddarparu gan awyrennau'r Cynghreiriaid ym Mehefin 1943
mudiad cerddoriaeth swing a jazz yn gwrthwynebu'r Almaen, yr heddlu, y blaid a'i pholisïau, Ieuenctid Hitler, gwaith, y lluoedd milwrol, a'r rhyfel
dim agenda wleidyddol
eisiau dilyn y ffordd Brydeinig o fyw
yn erbyn y syniad o genedl bur
gwrando ar orsafoedd radio tramor
lledaenu propaganda gwrth-Natsïaidd
ffurfio gangiau strydoedd
gwrthod gwrando ar gerddoriaeth y Natsïaid
Ieuenctid Hitler yn ysbïo arnynt
300 wedi'u harestio a'u danfon yn ôl i'r ysgol dan arolwg
gwrando ar Glenn Miller a Louis Armstrong
rhai'n cael eu hanfon i'r gwersylloedd crynhoi
smyglo recordiau jazz i mewn i'r wlad
heddychwr democrataidd
cael ei ddanfon i wersyll crynhoi
ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 1935 - y Natsïaid yn gwrthod rhoi pasbort iddo i deithio i dderbyn y wobr