Defnyddiwr:Cell Danwydd/Pwll Tywod


Archeoleg

golygu

Cafwyd hyd i fynwent Cristnogol, fawr yn dyddio o'r 8g ger Jabalia. Mae'r crefftwaith yn dangos bod y gymuned Gristnogol yn Gaza yn dal i fodoli i raddau helaeth yn y cyfnod Islamaidd cynnar o reolaeth, ym Mhalestina. Mae olion y palmant a arbedwyd gan yr eiconoclastau yn dangos darluniau o helfa adar ac anifeiliaid gwyllt, a golygfeydd gwledig. Dyddiwyd yr eiconoclastau, i rywbryd ar ôl 750, sy'n gwneud y fynwent yn gysylltiedig â cheidwadwyr Abbasid.

Wrth weithio ar Ffordd Salah al-Din, canfuwyd olion mynachlog o'r cyfnod Bysantaidd ar ddamwain. Cloddiwyd y safle gan Adran Hynafiaethau Palestina. Nawr mae mosaigs Bysantaidd syfrdanol y fynachlog wedi'u gorchuddio â thywod i'w cysgodi rhag erydiad a achosir gan effaith uniongyrchol glaw'r gaeaf.[1] Mae cerameg Bysantaidd hefyd wedi'i ddarganfod.[2]

Yr Oesoedd Canol

golygu

Roedd Jabalia yn adnabyddus am ei bridd ffrwythlon a'i goed sitrws. Rheolodd y Llywodraethwr Mamluk Gaza Sanjar al-Jawli dros yr ardal ar ddechrau'r 14g a gwaddolodd rhan o dir Jabalia i'r Mosg al-Shamah ac yna, fe'i adeiladodd. Yn Jabalia mae canoloesol Mosg Omari hefyd. Dim ond y portico a'r minaret sydd ar ol, bellach. Mae gweddill y mosg yn fodern. Mae'r portico'n cynnwys tair arcêd wedi'u cefnogi gan bedair colofn garreg. Mae gan yr arcedau fwâu pigfain ac mae'r portico wedi'i orchuddio gan fwau croes.

Cyfnod Otomanaidd

golygu

Wedi'i hymgorffori yn yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1517 (â'r cyfan o Balestina), ymddangosodd Jabalia yng nghofrestrau treth 1596 fel pe bai yn ardal Nahiya o Gaza. Roedd ganddi boblogaeth o 331 o aelwydydd, pob un yn Fwslim, a dalodd drethi ar wenith, haidd, caeau gwinwydd a choed ffrwythau; cyfanswm o 37,640 akçe. Aeth 2/3 o'r refeniw i waqf (math o dreth Fwslimaidd). [3]

Yn 1838, nododd Edward Robinson fod Jebalia yn bentref Mwslimaidd, wedi'i leoli yn ardal Gaza.[4]

Ym 1863, darganfu’r fforiwr Ffrengig Victor Guérin yn y mosg a'r ffynnon darnau o golofnau.[5] Yn 1870 roedd gan y pentref boblogaeth o 828, a 254 o dai, er bod y cyfrif poblogaeth yn cynnwys dynion yn unig.[6][7]

Yn Arolwg 1883 gan Gronfa Archwilio Palesteina, disgrifiwyd Jabalia fel pentref mawr a godwyd o friciau mwd, gyda gerddi a ffynnon yn y gogledd-orllewin. Roedd ganddo fosg o'r enw Jamia Abu Berjas. [8]

Oes Mandad Prydain

golygu

Yng nghyfrifiad 1922 o Balesteina a gynhaliwyd gan awdurdodau Mandad Prydain, roedd gan Jabalia boblogaeth o 1,775 o drigolion, pob un yn Fwslim;[9] cynyddodd hyn yng nghyfrifiad 1931 i 2,425, pob un yn Fwslim o hyd, mewn 631 o dai.[10]

 
Jabalia 1931 1: 20,000
 
Jabalia 1945 1: 250,000

Ôl-1948

golygu

Yn ystod misoedd cynnar yr Intifada Cyntaf ar 27 Mawrth 1989 curwyd Fares S'aid Falcha, dyn 50 oed, gan filwyr Israel a bu farw 3 wythnos yn ddiweddarach yn Ysbyty Makassed. Lluniwyd adroddiad gan Heddlu Milwrol Israel a throsglwyddwyd y manylion i'r Prif Erlynydd Milwrol.[11]

Demograffeg

golygu

Mae gan Jabalia gyfradd uwch na'r cyfartaledd o enedigaethau Pseudohermaphroditism gwrywaidd, lle mae gan yr unigolyn geilliau ac organau rhywiol benywaidd.

Mae Jehad Abudaia, pediatregydd ac wrolegydd o Ganada-Palesteina, wedi awgrymu bod cydberthynas rhwng priodasau cefndryd yn cyfrif am y genedigaethau hyn. Yn Llain Gaza, mae cyflyrau pseudohermaphroditism yn aml yn mynd heb eu canfod am flynyddoedd ar ôl yr enedigaeth oherwydd safonau is y rhanbarth o driniaeth feddygol a diagnosteg.[12]

Trefi dwbl - chwaer ddinasoedd

golygu

Mae Jabalia wedi'i efeillio â: [13]

Cyfeiriadau

golygu

Llyfryddiaeth

golygu

Dolenni allanol

golygu

[[Categori:Category:Dinasoedd Palesteina]]

  1. Jabalya Mosaic Programme of Assistance to the Palestinian People. p.6. 2004.
  2. Dauphin, 1998, p. 883
  3. Hütteroth and Abdulfattah, 1977, p. 144
  4. Robinson and Smith, 1841, vol 3, Appendix 2, p. 118
  5. Guérin, 1869, pp. 175-176; as referred by Conder and Kitchener, 1883, SWP III, p. 251
  6. Socin, 1879, p. 153
  7. Hartmann, 1883, p. 129, noted 253 houses
  8. Conder and Kitchener, 1883, SWP III, p. 236
  9. Barron, 1923, Table V, Sub-district of Gaza, p. 8
  10. Mills, 1932, p. 4
  11. Talmor, Ronny (translated by Ralph Mandel) (1990) The Use of Firearms - By the Security Forces in the Occupied Territories. B'Tselem. download p. 75 MK Yair Tsaban to defence ministers Yitzhak Rabin & Yitzhak Shamir, p.81 Rabin's reply
  12. Watson, Ivan. "Rare Gender Identity Defect Hits Gaza Families." CNN. December 17, 2009. Retrieved on December 17, 2009.
  13. "Ümraniye Municipality and Palestine Jabalia Al Nazlah Municipality Has Become 'Sister Municipalities' With a Ceremony". umraniye.bel.tr. Ümraniye. Cyrchwyd 2020-06-01.