Model arwahanu Schelling yw model wedi'i seilio ar asiantau (agent-based model) a ddatblygwyd gan yr economegydd Thomas Schelling.[1][2] Nid yw model Schelling yn cynnwys ffactorau allanol sy'n rhoi pwysau ar asiantau i wahanu megis deddfau Jim Crow yn yr Unol Daleithiau, ond mae gwaith Schelling yn dangos y gallai cael pobl â ffafriaeth mewn-grŵp “ysgafn” tuag at bobl o'r un grŵp arwain at gymdeithas wahanedig iawn trwy arwahanu de facto.[3][4][5]

Y model

golygu
 
Efelychiad o'r model. Ym mhob cam bydd asiantau yn symud nes bod y ffracsiwn o'u cymdogion sydd o'r un grŵp â'u hunain yn fwy na neu'n hafal i  . Ar gyfer poblogaethau o'r un maint, mae cael   yn arwain at y grwpiau yn gwahanu ar ben eu hunain.

Mae'r model gwreiddiol wedi'i osod mewn grid  . Mae'r asiantau wedi'u rhannu yn ddau grŵp ac ond un asiant sy'n byw ar un sgwâr o'r grid ar y tro. Mae asiantau eisiau ffracsiwn   o'u cymdogion (yn yr achos hwn a ddiffinnir fel yr wyth asiant cyfagos o'u cwmpas) i fod o'r un grŵp a'u hunain. Mae cynyddu   yn cyfateb i gynyddu anoddefgarwch asiant o fathau eraill o bobl.

Mae pob rownd yn cynnwys asiantau sy'n edrych ar eu cymdogion i weld a yw'r ffracsiwn o gymdogion   y un fath a'u hunain - gan anwybyddu lleoedd gwag - yn fwy na neu'n gyfartal  . Os yw   yna bydd yr asiant yn dewis symud i le gwag lle mae  . Mae hyn yn parhau nes bod pob asiant yn fodlon. Nid oes sicrwydd y bydd pob asiant yn setlo i fod yn fodlon, ac yn yr achosion hyn mae'n ddiddorol astudio patrymau (os o gwbl) dynameg yr asiantau.

Wrth astudio dynameg poblogaethau dau grŵp o'r un maint, darganfuwyd Schelling drothwy  . Mae   yn arwain at gyfluniad poblogaeth ar hap, ac mae   yn arwain at boblogaeth wahanedig. Darganfuwyd ef taw gwerth   yw tua  . Mae hyn yn dangos sut y gall unigolion sydd â hyd yn oed ychydig bach o ffafriaeth mewn-grŵp ffurfio cymdeithasau cwbl wahanedig. Mae gwahanol amrywiadau a pharamedrau'r model yn bodoli,[6] ac mae rhedeg efelychiadau gwahanol yn galluogi archwilio'r trothwyon ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau gwahanu.

 
Defnyddiodd Thomas Schelling darnau arian yn wreiddiol i redeg y model. Pellach mae ymchwilwyr yn defnyddio cyfrifiaduron.

Cyhoeddodd Thomas Schelling y model yn gyntaf mewn dwy erthygl o 1969 ac 1971.[2][7] Roedden nhw'n ymdrin â "theori gyffredinol o dipio" (yn poblogeiddio'r ymadrodd "tipping point" yng nghyd-destun arwahaniad hiliol). Mae'r papurau hyn yn drafod y ffenomenon bod cael dewis neu ffafriaeth i gael cymdogion o'r un lliw, neu hyd yn oed bach o gymysgedd hyd at ryw derfan, yn gallu arwain ar arwahaniad gyfan gwbl. Felly dadleuodd bod ysgogiadau, yn faleisddrwg neu beidio, yn ddiwahaniaeth i esbonio'r ffenomenon arwahaniad cyflawn lleol o grwpiau gwahanol. Defnyddiodd darnau arian ar bapur graff i dangos ei theori trwy osod darnau arian o liw gwahanol mewn gwahanol batrymau at y "bwrdd" papur graff ac yna'u symud os oeddent yn 'anhapus' gyda'u cymdogion.

Mae'r deinameg hwn wedi'i gael ei ddefnyddio i esbonio amrywiadau mewn pethau y ystyrir fel gwahaniaethau ystyrlon - rhyw, oedran, hil, iaith, rhywioldeb, a chrefydd. Unwaith bydd symudiadau gwahanu yn dechrau, efallai mai ganddo fomentwm hunan-gynaliedig. Yn eu llyfr 1978 Micromotives and Macrobehaviour mae Schelling yn ehangu ar y themâu hyn,[1][8] a chaiff ei chyfeirio'n aml yn llenyddiaeth economeg gyfrifiadol wedi'i seilio ar asiantau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Thomas C. Schelling (1978) Micromotives and Macrobehavior, Norton. Description, preview.
  2. 2.0 2.1 Schelling, Thomas C. "Dynamic models of segregation." Journal of mathematical sociology 1.2 (1971): 143-186.
  3. Hatna, Erez, and Itzhak Benenson. "The Schelling model of ethnic residential dynamics: Beyond the integrated-segregated dichotomy of patterns." Journal of Artificial Societies and Social Simulation 15.1 (2012): 6.
  4. Vinković, Dejan, and Alan Kirman. "A physical analogue of the Schelling model." Proceedings of the National Academy of Sciences 103.51 (2006): 19261-19265.
  5. Zhang, Junfu. "Tipping and residential segregation: a unified Schelling model." Journal of Regional Science 51.1 (2011): 167-193.
  6. Tim Rogers, and Alan J McKane "A unified framework for Schelling's model of segregation" Journal of Statistical Mechanics: Theory and Experiment (2011): 07
  7. Thomas C. Schelling (1969) "Models of segregation," American Economic Review, 1969, 59(2), 488–493 Archifwyd 2016-01-02 yn y Peiriant Wayback.    _____ (1971). "Dynamic Models of Segregation," Journal of Mathematical Sociology, 1(2), pp. 143–186.
  8. Schelling, Thomas C (2006). "Some Fun, Thirty-Five Years Ago". Handbook of Computational Economics (Elsevier) 2: 1639–1644. doi:10.1016/S1574-0021(05)02037-X. ISBN 9780444512536.