Defnyddiwr:Gwyddolwyn Gorr/Pwll Tywod
Ffrynt Refolwshonari Dyfed
golyguMae Ffrynt Refolwshonari Dyfed (FRD) yn blaid wleidyddol leol sydd yn ymgyrchu am annibyniaeth i Ddyfed wrth Brydain a Chymru. Yr arweinydd presennol (ers 2021) yw Jêms Jêms.
Mae'r FRD yn blaid eithaf dadleuol, oherwydd ei weledigaethau ar y syniad o genedlaetholrwydd a Chymreictod. Ystyria'r FRD bobl lleol Gogledd Sir Benfro a Gorllewin Sir Gaerfyrddin fel cenedl arwahân o'r enw Dyfedwys, a nad yw'r Cymry yn un genedl, ond yn gasgliad o genhedloedd gwahanol â thafodieithoedd gwahanol. Mae ymddygiad rhai aelodau (yn bennaf Tomos J. Wiliams a Gwenno Wyn) tuag at bobl o Ogledd Cymru, De-Ddwyrain Cymru, a phobl di-Gymraeg wedi arwain at enw'r blaid cael ei bardduo yng ngweddill Cymru, ond yn ystod 2021, gwelwyd cynnydd cyflym yn y nifer o'i haelodau - bu cynnydd o 5 aelod i 13 aelod o fewn un mis.
Perfformiad mewn etholiadau
golyguEr ei ddechreuad gymharol aflwyddiannus (ni ennillwyd unrhyw sedd mewn unrhyw gyngor cymuned tan 2022), llwyddodd y blaid i gael sedd yng Nghyngor Cymuned Llandudoch yn etholiadau lleol 2022. Oherwydd fod Jêms Jêms (FRD) a Rowan Smeary (Annibynol) wedi cael 59 pleidlais yr un, bu'n rhaid cael cystadleuaeth taflu ceiniog. Dewisodd Rowan "Her Majesty's Graceful Head", a cholli.
Cystadlodd Ffrynt Refolwshonari Dyfed yn rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru yn etholiadau Senedd Cymru 2021, ac ennill 0.000017% o'r bleidlais, sydd yn cyfateb i tua 1 person. Gwnaeth hyn y Ffrynt y blaid gyda'r lleiaf o bleidleisiau yn yr etholiad, ar ôl Plaid Genedlaethol Powys, a gafodd dim mwy na 0 pleidlais.