Defnyddiwr:Jason.nlw/ysgolheigion Preswyl

Ceisiwch I fod yr ysgolhaig Preswyl Wicipedia cyntaf yn Brydain


Mae'r prosiect yma yn gydweithrediad rhwng

y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Wicimedia DU a’r Wikipedia Library
  Ysgolheigion Preswyl Wicipedia  


See this page in English

Llyfrgell Genedlaethol Cymru golygu

 
Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yw'r llyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru ac mae'n un o'r cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r llyfrgell fwyaf yng Nghymru, yn dal dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a'r casgliadau mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a delweddau a ffotograffig yng Nghymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn gartref i'r casgliad cenedlaethol o lawysgrifau Cymraeg, mae'n gartref i’r Archif Sgrin a Sain Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o baentiadau a phrintiau topograffig yng Nghymru. Y Llyfrgell yw’r sefydliad cynradd am ymchwil ac archifau yng Nghymru ac un o'r llyfrgelloedd ymchwil mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Hefyd mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn aelod o Research Libraries UK (RLUK) a Chonsortiwm Llyfrgelloedd Ymchwil Ewropeaidd.

Yn graidd i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw'r genhadaeth i gasglu a chadw deunydd sy'n gysylltiedig â Chymru a bywyd Gymraeg sydd o ddefnydd i bobl Cymru ar gyfer astudio ac ymchwil. Cymraeg yw prif gyfrwng gyfathrebu'r Llyfrgell mae’n anelu i gyflwyno'r holl wasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ym mis Ionawr 2015 aeth y Llyfrgell mewn partneriaeth â Wikimedia UK gan benodi Wicipediwr Preswyl llawn amser gyda'r nod o ddatblygu ymhellach ei adnoddau ar drwydded agored, i gynulleidfa fyd-eang.

Trosolwg o adnoddau digidol y Llyfrgell golygu

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru eisoes yn darparu mynediad am ddim i adnoddau digidol fel, Ewyllysiau ar-lein, Papurau Newydd ar-lein a Chylchgronau Cymru ac yn cynnig mynediad cyfyngedig i filoedd o e-lyfrau, e-Cylchgronau ac adnoddau academaidd eraill trwy ei gasgliad o E-adnoddau allanol


Cyhoeddi swydd wirfoddol golygu

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cymryd ceisiadau.

Mae'r Llyfrgell yn chwilio am o leiaf un Wicipediwr profiadol i greu a gwella cynnwys Wicipedia yn ymwneud â Chymru a'i phobl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael mynediad o bell i i'r rhan fwyaf o e-adnoddau allanol a byddant yn derbyn arweiniad a chefnogaeth gan y Wikipediwr Preswyl presenol. Mae'r Llyfrgell wedi ymrwymo i'r prosiect a bydd yn ymdrechu i ddarparu cyngor arbenigol ac arweiniad ymchwil i’r ysgolheigion yn ôl yr angen.

Bydd manylion y prosiect yn dibynnu ar ddiddordebau ar sgiliau'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Bydd y rôl ddi-dâl yn rhedeg tan 31 Awst 2016 yn y lle cyntaf

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Ebrill, 2016

Y cyswllt ar gyfer y swydd hon yw Jason Evans.

Er mwyn gwneud cais, cwblhau'r Ffurflen Cais