Defnyddiwr:Lesbardd/Ffeiliau Dewi Humphreys

Mi ges i wahoddiad i ymweld a Moira Humphreys wr wythnos diwethaf. Mae Moira'n weddw Dewi Humphreys, un o'r enwogion y pentref yn ôl y dudalen Coedpoeth (a dw i'n credu bod Moira wedi bod yn bwysig yn y byd dawns werin hefyd). Mae ganddi hi sawl ffeil o ddarnau o'r bapurau newydd, lluniau, a nodiadau gan Dewi. Mae Cymdeithas Hanes Coedpoeth wedi mynd trwy'r ffeiliau ac wedi defnyddio darnau ar eu gwefan (Saesneg yn unig). Mynnodd hi mod i'n benthyg y ffeiliau hefyd. Mae 'na ddarnau basai'n addas i dudalen wicipedia, a dw i'n bwriadu eu creu nhw pan mae gen i amser. Ond mae 'na pethau eraill, nodiadau gan Dewi (yn y dwy iaith), sy ddim yn cyfeirio at bethau bwysig, ond sy'n rhoi blas o'r amserau yn y pentref. Dyma un ohonynt:-

ÂâêÔÃÁÖëŴŴŴŴŴŴŴŴ'Testun praff'ÊëÌ'ŴŴ==MRS THOMAS OWEN WILLIAMS==

Ganed hi yn 36 High St, Coedpoeth.

A hi'n 9 oed, symud i Wern Hywel, 3 thŷ yn Park Rd, Coedpoeth. Roedd ei thad wedi eu prynu nhw. Pobl eraill yn ei helpu i'w prynu ac yn ei berswadio eu prynu. Dywedodd nad oedd ganddo bres ac yntau'n lowr Mr Gibbons, y drygist, yn ei swcro. Ymhen tua deunaw mis cafodd ei thad, John Richards ddamwain ddifrifol i lawr pwll....

Ar y pryd, yr oeddent yn ailadeiladu Capel Salem a phob aelod yn helpu – cymysgu mortar, cludo cerrig, ac ati. JR yn gofyn i'r gweinidog beth oedd iddo fo ei wneud i helpu ar ôl y ddamwain. Cafodd o swydd o ysgrifennu at bobl a danfon llyfr trwy'r post yn apelio am gyfraniadau at y gwaith a chafodd llawer o arian at y capel. Daeth y llyfr byth yn ôl heb gyfraniad.

Cafodd JR gynnig i godi ffens o gwmpas rhan o'r tir glas ar ben Uchaf Pantwyll i ffurfio mynwent. Llawer o lanciau'n helpu. Ac wedyn gofynnwyd iddo wneud llwybrau.

JR gafodd swydd goruchwyliwr cyntaf Mynwent Coedpoeth er bod eraill yn ceisio, a symudodd y teulu i'r tŷ newydd yn y fynwent tua 1893.

Tŷ unig oedd hwm, a Mrs R weithiau yn rhoi cannwyll yn y ffenestr fach yn gysur i'r plant wrth ddod adref. Dim golau stryd ac ofn mawr Mrs W fel plentyn oedd cyfarfod dyn meddw. Cael ei herian gan blant eraill am ysbrydion, ac yn cofio unwaith gorfod mynd yn y tywyllwch i gloi'r giât uchaf – ei thad yn ei gorfodi am iddi anghofio.

Ni chafodd Mr & Mrs R awr o ysgol. Mr R, fel bachgen, wedi bod i dŷ yn Heol Maelor, lle oedd Saesnes yn dysgu bechgyn. Un diwrnod, yr oeddynt eisiau gwyliau a dringodd un ohonynt ar y to, rhoi llechen ar y simnai, a chafodd pawb ddiwrnod i ffwrdd am fod y tŷ yn llawn mwg.

Dysgodd Mr R ei wraig sut i ysgrifennu ei henw er mwyn iddi nôl ei phensiwn. Ond dyna'r cwbl fedrai hi.

Yr oedd 'oel John Richards' yn enwog yn yr ardal. Yn cynnwys finegr, ŵy, turpentine, whisky, triog du, lard, saltpetre, ac ati; y cwbl yn lliw brown tywyll.

Glowyr yn ei nôl mewn potel a gofyn am werth tair ceiniog neu werth chwech. Stwff da at lawer clwyf – cryd cymalau, briwiau, doluriau, hyd yn oed i geffylau i lawr pwll.

Roedd rhaid lapio'r cwbl mewn gwlanen goch ac roedd digon o hynny ymhob tŷ. Gwlanen goch oedd y peth pwysig i bob clwyf yr adeg honno.

Nid oedd JR yn barod i roi rysêt ei oel i neb er i lawer o bobl geisio. Rhai eisiau iddo gymryd hawlfraint. Sôn efallai iddo roi'r rysêt mewn banc.

Mrs W yn gadael ysgol yn 13 oed a mynd i Manchester House, Coedpoeth, fel prentis i wniadwraig. Tua chwe geneth yno. A gweithiodd hi am ddwy flynedd heb gyflog o gwbl, ac wedyn cafodd hanner coron yr wythnos. Dechrau'n fore, pawb yn mynd adref i ginio, gweithio'r p'nawn, adref i de, yna'n ôl tam 7pm. Weithiau câi'r genethod a waelod y Nant ddod â'u te i'r siop i arbed siwrnai.

Mynd adref yn y tywyllwch. Lampau olew oedd gan bawb bryd hynny cyn amser trydan a nwy. Y strydoedd fel bol buwch. Gweld golau yn lloft yn golygu bod rhywun yn wael.

Yn 19 mlwydd oed, dechreuodd weithio ar liwt ei hun yn gwneud dillad merched a phlant yn ei chartref. Pobl yn dod â defnydd eu hunain o Wrecsam iddi, a hithau'n codi 8/6 am wneud ffrog merch. Oriau o waith oherwydd dillad llaes a'r addurno – 'ffigiari'.

John Carrington oedd yn cadw Gwesty Cross Foxes ac yr oedd y maes parcio presennol, gyferbyn, fel lawnt hyfryd. Ac ambell i nos Wener deuai Sipsiwnyno yn eu carafannau, gosod llwyfan, cynnau golau naptha, a dawnsio.

Cofio dyn yn dod ag arth â chortyn am ei gwddf ar hyd y ffordd fawr. Yr arth yn gwneud triciau a phobl yn taflu pres i lawr o ffenestri'r llofftydd. Daeth yr arth i Goedpoeth yn weddol aml.

Cofio dyn a'r hyrdi-gyrdi, a'r mwnci'n dawnsio.

Cofio gyrroedd o wartheg yn mynd trwy'r pentref ar eu ffordd o Ruthun i'r ffair yn Wrecsam. Rhaid bod y gyrwyr ar eu traed yn fore iawn – yn mynd trwy Coedpoeth yn gynnar, ac wedi cerdded bob cam.

John Richards, ei thad, yn gweithio ym mhwll glo Plas Power yn wyth oed, pan oedd ef a'i deulu yn byw yn melin y Mwynglawdd. Yr oedd ganddo chwaer yn forwyn mewn plas o'r enw Windy Hill neu Windy Mill tua chyfeiriad Rossett. Ac ar ambell fore Sul, aeth hi ar gefm mul o'r Mwynglawdd at ei chwaer i gymryd dillad glân iddi a dod â dillad budr yn ôl i'w golchi.

Mrs W yn edrych ymlaen yn arw at p'nawn Sadwrn pan oedd ei thad yn dod adref o'r pwll. Diwrnod cyflog. Ac ar ben y pwll yr oedd gwraig yn gwerthu byniau siwgr. JR yn prynu un iddi, a hithau fel un wedi cael sofren.

JR yn shot-lighter neu fireman tm Mhlas Power. Cafodd ddamwain ddifrifol pan ffrwydrodd y powdr ac yntau yn ymyl. Bu bron iddo colli'r dydd.

Bu'n gorwedd yn hir i lawr grisiau. Dim pres yn dod i mewn fel yswiriant cenedlaethol. Sut lwyddodd i dalu am y tri thŷ yng Ngwern Hywel? Cadw dau fochyn – un i dalu'r siop a'r llall at y tai yn ychwanegol at rent y ddau dŷ arall. Yna prynu dau foch bach a'u magu nhw eto.

Yr oedd y teulu yn dlawd yr adeg honno. Cofio cael chwe ceiniog i nôl torth o siop Noah Price ar waelod Bryn Tabor. Daeth i lawr y Shade a chollodd y pres ar y ffordd. Diflanodd y chwech yn y llwch. Dynion yn gomio wrth siop Dodd yn ei helpu, ond yn ofer. Cofio dagrau mawr.

Yr angladd cyntaf yn y fynwent ar Dydd Sul. Yr oedd pawb yna. JR wedi cael gorchymyn i gloi'r giatau a gadael neb i mewn tan amser y claddu. Daeth Elis Richards, ei dad, dyn bach yn cerdded gyda dwy ffon, a gwthio ei ffordd hebei'r bobl at y giât a gofyn am gael dod i mewn. Yr ateb distaw oedd “Na, mae'n rhaid i chi aros am funud neu ddau.”

Yr arferiad oedd casglu pres i'r teulu wrth y tŷ ar ddiwrnod angladd. Ychydig iawn o flodau oedd.

Geneth fach yn byw yn y tai ar draws y ffordd (lle mae Hafod y Grug) yn dod i helpu yn nhŷ'r fynwent. Wrth gael cornel bleind a gweld claddu mawr un diwrnod, dywedodd “rydych yn siŵr o wneud lot o bres heddiw.”

Mewn angladd oedd popeth yn ddu a pharchus. Ceffylau du sgleiniog yn tynnu'r hers a'r gots neu ddwy i'r teulu; pluen ddu yn chwifio ar ben pob ceffyl; y gyrwyr mewn dillad a hetiau silc du; y galarwyr i gyd mewn du hefyd.

Daeth dynes o'r enw Mrs Edwards i fyw yng Nghoedpoeth; ymaelodi yn Salem; a phrynu tŷ yn yr Adwy a'i enwi yn Chama ar ôl lle yn America. Arferai mynd yn ôl ac ymlaen i America at ei gŵr yno ac aros am ychydig o fisoedd. Un tro aeth Parch TE Thomas, gweinidog Salem, efo hi ac aros yno am dri mis.Pan fu farw ei gŵr, daethpwyd â'i gorff i Goedpoeth i'w gladdu. Mewn arch fetel. Pan gyrhaeddodd gorsaf Coedpoeth yr oedd yn rhy fawr i'r hers. Ei chludo ar drol.

Bu farw Mr a Mrs John Richards o fewn diwrnod i'w gilydd a'u claddu yr un diwrnod. Cynhebrwng mawr. Y bleinds i lawr ym mhobman. Cloch Eglwys Coedpoeth yn curo, a chlychau Egtlwys y Mwynglawdd yn canu 'Lead kindly light'.

Enoc Den a'i chwaer Mary yn byw mewn bwthyn lle mae Westminster House rŵan a choed tal o gwmpas. Un digri oedd o a braidd yn ddiniwed. Plant yn ei herian a rhedeg at y tŷ. Ond Mrs W yn ei ofni trwy'i chalon. Pan symudodd y ddau, aethant i Chapelyard wrth ochr Capel Adwy'r Clawdd; a Taid Nant, V J Astley, yn cofio ambell lwyth o lo tu allan i dŷ Enoc Den ac yntau yn ei helpu i gludo'r glo mewn berfa trwy'r tŷ i'r cut glo yn y cefn.

'Dr' Sidney Rigden yn cadw siop yn stryd fawr Coedpoeth ac yn byw yn rhif – yn wych gyda'i gamera. Bu'n helpu Dr Griffith gyda'r cleifion. Pan ddaeth Dr adref o'r Rhyfel Byd Cyntaf mae Mrs W yn cofio iddo gael ei godi a'r ysgwyddau dynion ifanc a'i gludo ar hyd y stryd.

'Dr' Gibbons – fferyllydd a'i siop bron gyferbyn â chapel Adwy'r Clawdd. Aeth Mrs W yn eneth fach i'r siop i nôl ffisig at boen stumog gan ei thad. “Gofyn iddo wneud dôs o lodom.” Dr G yn gwaredu gweld geneth felly yn nôl y fath stwff. Pwy oedd ei thad? I be' oedd y ffisig? Be' oedd ei hoed? Fe'i cafodd yn y diwedd a thorrodd i grio a'r ôl cyrraedd adref. Ofn cyfarfod plismon.

Daeth Dr Griffiths o gyfeiriad Wigan yn briod â Saesnes a chanddynt un ferch May, a ddaeth yn Mrs Murphy yn ddiweddarach. Digon tlawd oeddynt i ddechrau.

Dr Clare, Gwyddel, yn helpu Dr Griffiths. Fo dynnodd lawer o ddannedd Mrs W, a hi'n ifanc iawn. Ei thad yn ei chymryd bob Dydd Iau am wythnosau at Dr C am 2 o'r gloch. Tynnu dau neu dri bob wythnos. Cael nwy a mynd i gysgu.

Dr Worrall yn Southsea. Ato fo oedd rhaid cerdded cyn cael meddyg yng Nghoedpoeth, a cherdded adref. Cymerodd ei thad hi ato yn ddeg oed i dynnu dant mawr drwg. Gweld bowlen a'r taclau. Dim anaesthetig. Meddwl ei fod yn tynnu ei phen i ffwrdd.

Ar y pryd hefyd, i Southsea oedd rhaid mynd pan oedd pethau'n gyfyng iawn ar deulu. I weld y Relieving Officer. Cael esgidiau efallai. Peth atgas iawn."

Abel Davies golygu

6 Smelt Rd Ganed 4ydd Mawrth 1894 yn Llanarmon yn Iâl. Siarad â fo Mehefin 1969 Dod iddo yn 4 oed i Goedpoeth ar ôl colli ei fam. Ei dad yn gweithio ym Mhlas Power glofa. Wedi bod yn lletya yng Nghoedpoeth, yn y Calch, mynd adref bob penwythnos. Cafodd ei dad ei ladd ym Mhlas Power yn 54 oed ac Abel yn 16 oed. Yr oedd y 'fireman' newydd fod atyn nhw a testio'r to. Talu'r plwy yng nghapel Presbyteriadd, Park Rd Diwrnod cyn i'w dad farw, agorwyd Reheboth fel y mae heddiw. Tu mewn newydd (1910?) Y noson gynt, aeth ei dad efo Meth Thomas, gofalwr y capel, i weld y lle newydd cyn ai agor. Aeth i'r pulpud i weld ffasiwn bregethwr a wnâi. Cafodd ei ladd mewn codwm. O 8am tan 1pm yn eu cael nhw allan. Cyhoeddi ei gladdu y ddiwrnod nesaf yn y cyfarfod agoriadol.

1914 golygu

Rhyfel – Capel Offa – 7 milwr wedi ymuno â'r fyddin. -Golygydd- beth am gyhoeddi rhestr o enwau? Pwyllgor Rhyfel Help gan yr ysgol. - hyd at diwedd Tachwedd – 46 pâr o sanau, 2 bâr o sanau gwely, 1 pâr o flancedi, 10 pâr o fenyg, 5 scarff, 5 belt, 1 pecyn cardiau post, 5 pensil, 2 bin ysgr, 1,290 sigaret, 1 tun eli, 5/6 i'r Daily News Xmas Pudding Fund.

Manion – Rhyw 2000 yw poblogaeth Dolgellau. Y mae 170 ohonynt wedi ymuno â'r fyddin ac yn ysu am gael torri crib y Caisar. Mae anudon Caernarfon wedi dweud wrth dafarnwyr y dref honno am beidio ag estyn yr un dafn o ddiod i'r un ferch cyn hanner dydd nac ar ôl hanner awr wedi wyth y nos.

Y mae'n debyg y byddem yn gywir wrth ddweud fod pob gwlad sy'n ymladd heddiw yn credu ei bod yn ymladd yn gyfiawn. Y ffaith fod pob gwlad yn credu ei bod yn ymladd dros ryw egwyddor fawr sy'n cyfrif am frwdfrydedd y bobl tros y rhyfel.

Milwyr yn ysgr adref i ofyn am sigarets.

Saron, Nant – Y Saboth diwethaf pregethwyd gan y Parch R Rbts Rhos. Y mae eto deimladau cynnes a'r parch dyfnaf yng nghalonnau yr holl aelodau yma. Efe fu yn gyfrwng yn llaw Duw i gychwyn yr achos Annibynnol yn y Nant. Digwyddodd ddod ar ei dro drwy waelod y Nant, gerllaw yr afon a olcha odre y llwyni; gwelai ar ei fawr syndod hanner dwsin o blant gwyllt a diolwg yn chwarae gyda'i gilydd ar y Sul. Siaradodd â hwy, a deallodd mewn moment yr amgylchiadau. Meddyliodd mai byddiol fyddai cael allor i Dduw Jacob yng ngwlad y Philistiaid. Rhoddodd y meddwl euraidd ar unwaith mewn gweithrediad. Dechreuwyd yr achos yn nhŷ tad Mr Edward Foulkes. Buan yr oedd yn orlawn, a chodwyd y capel presennol.

Y mae'n perthyn i fataliwn y Rhondda o'r fyddin Gymreig 91 o fechgyn Traedrhiwfuwch – pentre glofaol a dim ond 95 o dai. Oes rhywle drwy'r deyrnas all guro hyn yna?

Mae 78 y cant o'r rhai ymunasant â'r fyddin yn Nwyrain Morgannwg yn Ymneilltuwyr.

Hysbyseb am Margarine (2/1/15) gan fod menyn mor ddrud. 1/- y pwys. Fyddai neb yn gwybod y gwahaniaeth o'i roi yn eich dysgl menyn.

Rehoboth Nadolig – diangen hysbysu pobl y fro mai hen arferiad yr eglwys uchod ydyw cael Cyf-Pregethwr ar Ddydd Nadolig (1914) a hynny ers dros adeg a thrigain o flynyddoedd , ond wele fwlch yn y gyfres eleni drwy gynhaliad 'Social Tea' cartrefol. Un eitem ymysg llawer?

Cafwyd unawd ar y cornet gan Mr John Edwards a chyfeilid iddo gan ei ferch fach Bessie.

Deintyddiaeth di-boen! Er mwyn dangos hyn bydd Mr Kalton yn tynnu dannedd am ddim dydd Gwener 15 a 22 Ionawr o 4 – 6.30pm yn lle Mr William Hales, Queen's Terrace, Coedpoeth. £50 reward for the name of the person who started the rumour that Mr Kalton is a German.

Mwynglawdd Cartre'r Cleifion – Teimla pawb yn falch o'r adeilad hardd sy'n cael ei godi gan ymddiriedolwyr y John Jones Trust fel Cartre i'r Cleifion gwedi eu trin yn Ysbyty Gwrecsam. Y mae yn addurn i'r Mwynglawdd, a disgwylir gweled to arno cyn hir.

Gwedi ymchwil yn Wrecsam ceir bod prisiau bwydydd wedi mynd i fyny 30% ers dechrau'r rhyfel.

Englynion Tomos Cadwaladr golygu

Y “Keisar” Brwnt

Y Keisar brwnt ac isel – ei duedd

Wnai dywallt gwaed angel;

Neu i Dduw – os ei amcan ddêl,

Rhoddai ergyd yn ddirgel.


Od amlwg llwyr ddideimlad – wir ydyw

Yr adyn yn wastad;

Delw ac ymgnawddoliad

Beliol yw, yn bla i wlad.


Y bod anwar, i'r baw dynnodd – harddwch

Ac urddas lle cerddodd;

Adeiladau clodwych d'lododd

Yn warth i fyd – wrth ei fodd.


O brysied, dweud y dydd – arenyd

Wir annwyl a dedwydd

Ei gwelir – rhag ei g'wilydd

Efo'r sawl yn farw sydd.

Edward James Hughes golygu

Richard James Hughes (Jim Hughes y Leibri)

Ganed 1891. Dechreuais fynd i'w weld ym mis Gorffennaf '76, er mwyn cael goleuni ar rai pethau yn y llyfr. Dechreuodd esbonio, ond toc yr aeth i grwydro. Gan fod y llyfr yn Saesneg, fe aeth yntau hefyd i'r iaith fain ar un waith oherwydd dyma ei iaith gryfaf.

Workhouse – methais â deall cynnwys hwn yn hanes Coedpoeth. Dywedodd Mr H fod plwy Bersham, hyd at tuag ugain mlynedd yn ôl, yn cyrraedd rheilffordd Wrecsam ac felly yn cynnwys Tloty Croesnewydd.

Parch J Williams MA – clywodd Mr H fod hwn yn fath o feddyg gwlad hefyd yn Y Mwynglawdd a phobl wael yn mynd ato am gymorth, ac yntau yn cynghori'r cleifion wrth fynd o gwmpas ar ei waith bugeiliol.

Parch J Brown BA – Yr oedd hwn yn lletya yn Castle House. Yr enw cyffredin ar y rhes oedd Cornish Row gan fod cymaint o bobl yn hannu o Gernyw yn byw yno, wedi dod i weithio yn y plwm.

Y cyntaf oedd Borlase ac fe'i galwyd yn “gapten” y gwaith yn ôl yr arfer. Daeth llawer yma ar ei ôl. e.e. Hawke, Odgers, Warne, Kitto, ag enwau dieithr iawn i'r ardal. Warne oedd teulu mam Mr H.

Eglwys Coedpoeth – Mr H yn cofio bod yn ffenestr lloft ei nain yn Cornish Row yn gwylio'r dyrfa, y ceffylau a'r cerbydauar ddydd agor yr eglwys tua 1894. Clywodd nad oedd un ffenestr yn gyfan yno gan faint y drwg-deimlad yn y cylch. Cyn hir cynhelid gwasanaethau yn yr eglwys “dun” - Y Mission Room – Yn Heol Y Parc; a dyn blaenllaw oedd Evan Williams, taid Willie Wms ac Abel, yn byw yn y bwthyn tu ôl i Rehoboth. Dyn cloff ydoedd, yn cadw gerddi, a gwerthu planhigion a blodau fel bywoliaeth. Ond pan agorwyd yr eglwys, digiodd wrthynt am fod y pwyslais wedi newid i'r Saesneg, ac fe ymaelododd yn Rehoboth.

Tad Mr H oedd Edward Hughes (“Dyn da oedd o”) aeth i lawr pwll i weithio yn 7 a hanner oed. Fe gafodd ychydig bach o ysgol cyn hynny a medrai ddarllenn a chyfrif – cyfrif yn well yn ei ben nag oedd Mr Hughes ei hun ar bapur. Fo oedd tresorydd y Nursing Association yn y pentref am flynyddoedd lawer. A gyda John Jones (Joni Clarc), fe ddechreuodd gangen gyntaf y Miners' Federation ym Mhwll Plas Power oedd i ddatblygu ymhobman fel Undeb y Glowyr. Aethai o'r tŷ cyn pump y bore i gerdded i'r pwll a siarad âr dynion i'w cymell i ymuno.

William Carrington Jones oedd rheolwr Plas Power, a phan ddaliwyd Mr Hughes fel bachgen ifanc yn neidio ar gefn y merlod i lawr pwll a chael reiden, bu rhaid iddo fynd o'i flaen. Dywedodd y rheolwr gymaint barch oedd ganddo i Edward Hughes ac yn synnu fod ganddo fachgen mor ddrwg.

Joe Warburton, mab Henry Warburton (fy nhaid “Shade” - na, “Taid Shade” fy nhad) a thad Harold ac Ernest, yn dipyn o gymeriad. Yn dweud iddo glywed yr adar yn canu wrtho ar ddiwrnod hyfryd o haf ac yntau'n dod adref o'i waith - “Ti am sbri? Ti am sbri?” “Dim pres, Dim pres.” “Chansio hi, Chansio hi”

James Warne oedd ewythr neu daid i Mr H a bu farw ar Fai 9fed 1895 a'i gladdu ym mynwent newydd Coedpoeth Dydd Sadwrn, Mae 11eg, yn 58 oed. Yr oedd 'Miner's tisus' arno neu wenwyn y plwm o'r hen waith ar droed y mynydd. Effaith y gwaith yn dangos ar ddynion tua 35 neu 40 oed, a llawer ohonynt yn marw yr oed hwnnw. Ar ei gerdyn claddu cafwyd pennill gan un o'r teulu.:-

We saw him fade and waste away We saw him gasp for breath We saw upon his sunken brow The fatal sign of death.

Taid a nain – Mr & Mrs Warne – yn dod o Gernyw ac yn fethodistaidd rhonc oherwydd dylanwad John Wesley yn y sir flynyddoedd cyn eu bod. Pan ddaethant i Goedpoeth, bu iddynt yn ymaelodi yn Rehoboth, fel capel methodist, er na ddeallant Gymraeg.

Darlun Mr H, yn llanc 25 oed a'r ieuengaf o swyddogion y pwll glo. Pawb yn edrych ar y camera ond efe. Pam? Yn swil o'i drwyn cam, mae'n debyg. Cafodd damwain ofnadwy pan darwyd ef gan 'siwrne' o wagenni a chafodd niweidiau ofnadwy i'w ben. “Ond ddaru mi dynnu trwodd.”

Wrth weithio efo'i dad i lawr pwll, yr oedd angen 'eiri' (darn o bren i'w roi ar ben polyn i ddal i fyny'r to), ond nid oedd un yn eu set. Aeth Mr H i chwilio, aeth dros y rwbel rhwngddynt â set Johnny Francis i ddwyn hen ddarn. Pan sylweddolodd Edward Hughes, bu rhaid i Mr H gymryd y darn yn ôl a gofyn am faddeuant. Ys dywedodd ei dad “Mae'n beth drwg i ddwyn ar unrhyw adeg, ond mae'n llawer gwaeth na hynny i ddwyn gan y bobl drws nesaf.”

Mr Abel yn ficer Y Mwynglawdd, ac yn eglwyswr cul iawn, ac yn rhydlyd ei Gymraeg. Daeth ffrind iddo – Dr Maurice Jones, mae'n debyg – i ddarlithio yn Y Felin, ac aeth Mr A a Mr H yno er nad iddynt aelodau. Cynigwyd ac eilwyd diolch i'r siaradwr gan rywrai ac yna gofynnwyd i Mr A ddweud gair. “Mae'n dda gen i drydydd eilio...”

Dyn yn ceisio cael pawb i berthyn i'r eglwys.

Moi John y Plismon (Maurice John Jones, mae'n debyg) yn chwarae billiards yn aml yn y llyfrgell, gan adael ei helm a'i siaced yn y swyddfa i lawr grisiau. Un noson, wrth ei nôl, daeth arogl swper hyfryd iddo ac fe'i wahoddwyd i aros. Wedyn dywedodd “Why the hell did I go to Woolworths for a wife?” Dyna lle oedd hi'n gweithio, ac yr oedd cryn sôn amdani.

Cyngerdd dan nawdd Capel Bethel, yn Neuadd y Plwyf, a'r Parch John Evans wedi neilltio seddau á chotwm i'r bobl bwysig, gan ei roi ar draws rhag i bobl eraill fynd yno. Moi John yn gofyn pwy oedd wedi gwneud hynny. Mr Evans yn dweud “Fi.” Moi John yn dweud bod rhaid tynnu'r cotwm i lawr. Aeth yn helynt rhwng y ddau. Ymddengys fod y ddau yn yr ysgol efo'i gilydd ym Mhwlleli ac nad oeddynt yn cytuno yno chwaith.

Hugh Ellis Hughes a benodwyd yn brifathro yr ysgol uwchradd ym 1910. Disgwyliodd Rowlands, oedd ar y staff eisoes, cael y swydd ond fe'i siomwyd.

Nid oedd teulu Mr H yn rhy gyfeillgar gan y prifathro am fod mam Mr H wedi mynd i'r llys yn Wrecsam fel tyst am y cernodau gafodd fy nhad ganddo.

Cafoff Phyllis, merch hynaf Mr H, gansen gan y prifathro am fod yn hwyr un bore. Gwisga fodrwy ar y pryd, a phlygodd y cnawd ynddi, fel nad oedd modd ei sythu neu symud y fodrwy. Cynhaliwyd cyfarfod rheolwyr yr ysgol y noson honno ac aeth Mr H i weld y prifathro a dangos llaw ei ferch iddo.Methodd Mr H hefyd á symud dim, ymddiheurodd am y drafferth; danfonwyd Phyllis i siop Hywel Davies y watchmaker er mwyn cael lllifo'r fodrwy yn rhydd.

Y dydd cyn i Ken, mab Mr J, sefyll arholiad yr ysgoloriaeth i fynd i'r ysgol ramadeg, cyfarfu'r ddau wrth y swyddfa post.

HEH; a sut fydd Kenneth yn gwneud yfory tybed? M H; Dylech chi wybod gan eich bod yn ei ddysgu bob dydd. HEH; Mae'n dibynnu ar y 'mood' fydd arno. Fe allai wneud yn weddol ddaneu ddod ar ben rhestr y sir.

A dod ar ben y rhestr a wnaeth.

Yr oedd RHR yn arw gyda'r athrawon yn ogystal á'r plant. Yr oedd yn eu hyfforddi i fod yn well athrawon. Danfonwyd Emrys Davies ato gan berthynas – JC Davies, Cyfarwyddwr Addysg – i'w drin, gan ei fod ar fin methu fel athro ac arhosodd am flynyddoedd maith wedyn i fod yn athro cymeradwy iawn.

Vera Jones (died) 10/95 Ei hen daid (?) yn arw am brynu darnau o dir i'w gwerthu rywbryd eto, ac addawodd i ddau o'i deulu y byddai'n prynu'r darn o dir a berthynai i Burton, lle codwyd Eglwys Sant Tudful yn ddiweddarach, er mwyn iddynt godi tŷ bob un arno, ond fe'u siomwyd yn arw wrth glywed bod Burton wedi'i werthu i'r Eglwys. Enw tŷ Vera un adeg oedd Minera View, ond fe'i newidiwyd i High St, wedi i Eglwys Sant Tudful gau i ffwrdd yr olygfa.

Mair Challoner (died) 10/95 Soniodd ei thad yn aml am Moi John y plismon a oedd ei wraig yn gweithio yn siop Woolworth lle roedd pethau'n costio 3d a 6d. “Yr ydw i wedi cael gwraig chwe cheiniog o Siop Woolworth.”

CYFARWYDDIADUR POST SIR Y FFLINT A SIR DINBYCH golygu

Tudalennau 345.6.7

COEDPOETH EFO NANT A THALWRN

Mae Coedpoeth yn bentref poblog, tebyg i dref fechan, ym mhlwyf Bersham, tair milltir a hanner o Lys y Sir Wrecsam. Mae'r pentref yn uchel ac yn ddisgwylfa efo golygfa dda o'r tir o ei gwmpas. Mae Nant a Thalwrn yn bentrefi cyfagos. Roedd poblogaeth, yn cynnwys plwyf Bersham, sy'n cynnwys y tloty yn 4778. Cyfeiriad ar gyfer llythyrau'n cynnwys 'via Wrecsam'.

ADOLDAI:- Yr Eglwys Lloegr (Chapel of Ease) Parch J Williams MA a Pharch J Brown BA (curad) Methodistiadd Calfinaidd (Bethel) heb weinidog preswyl. Methodistiaidd heb weinidog preswyl Anibynnol (Salem) sawl gweinidogion Methodistiaidd Cyntefig – wedi gwasanaethu o Wrecsam Bedyddwyr (Tabernacl) Parch T Davies, gweinidog Wesleyaidd Cymreig (Rehoboth) Parch Wm Davies, gweinidog

SWYDDFA POST, SWYDDFA ARCHEB ARIAN a BANC CYNILION Coedpoeth neu Adwy'r Clawdd. James Price, Postfeistr. Derbynnir post o bobman am 7.30yb, ac anfonir am 6.20yh. Dim gwasanaeth dydd Sul.


Amrywiol

Bartley, Jesse, tafarnwr, Queen's Head

Bartley, Joseph, peiriannydd a thŷ coffi, Stryd Fawr

Bellis, John, saer maen, Ffordd Manley

Borlase, John Sibley, rheolwr mwynglawdd, Tŷ'r Castell

Cadwaladr, Aaron, saer meini coffa

Carrington, John, groser, Stryd Fawr

Carrington, John, tafarnwr, Cross Foxes

Davies, Edward, gyrrwr injan, Stryd yr Eglwys

Davies, John, cigydd, (agor dydd Sadwrn), Stryd Fawr

Davies, Catherine, groser, Stryd Fawr

Davies, Thomas, crydd, Stryd Fawr

Edwards, Daniel, groser, Nant

Edwards, Edward, siopwr, Stryd Fawr Is

Edwards, Edward, gwerthwr cwrw, Mount Pleasant

Edwards, Peter, cigydd, Stryd Fawr

Edwards, Thomas, siopwr, Stryd Fawr Is

Evans, Griffith, gwerthwr paapur a phapurau newydd, Stryd Fawr

Evans, Peter, groser, Stryd Fawr

Evans, Thomas, melinwr a ffermwr, Melin y Nant

Francis, Evan, siopwr, Nant

Cwmni Glo Fron (Talwrn) – W.F.Butler, rheolwr cyfarwyddwr

George, Jonathan, groser, Talwrn

Griffiths, Edward, saer maen, Stryd yr Eglwys

Griffiths, Robert, saer maen, Ffordd Manley

Griffith, Samuel, cigydd

Harrison, Benjamin, groser, Stryd Fawr

Hughes, Seth, ffermwr, Green Gate

Hughes, Robert, siopwr nwyddau cyffredin a phapurau newydd, Tŷ Birmingham

Jones, Ann, gwerthwraig cwrw a phriddlestri, Y Llew Coch

Jones, David, hoeliwr, Rhes Rogers

Jones, Edward, groser, Tŷ'r Farchnad

Jones, Robert, teiliwr, Talwrn

Jones, George, tafernwr, Butcher's Arms, Talwrn

Jones, Henry, crydd, Rhes Rogers

Jones, Hannah, groser, Nant

Jones, Lydia, groser, Talwrn

Jones, Seth, tafernwr, Y Llew Aur

Jones, Thomas, argraffydd, Stryd Fawr

Jones, Thomas, teiliwr a brethynnwr, Stryd Fawr

Kelly, John, tafarnwr, Telyn Cymreig

Maddocks, John, cigydd, Ffordd y Nant

Morgan, Margaret, groser, Stryd Fawr

1.Moss, Emily, groser, Cobden Place

Mostyn, John, gwerthwr cwrw, Nant

Odgers, Ephraim, rheolwr tan ddaear, Stryd Fawr

Owen, George, tafarnwr a groser, Prince of Wales Inn

Pattinson, G.C. Groser, Star Supply Store a Thŷ Talwrn

Pickering, John, haearnwerthwr, gwerthwr dodrefn a deunydd ysgrifennu, Stryd Fawr

Price, James, fferyllydd a phostfeistr, Neuadd yr Apothecaries a Swyddfa'r Post

Price, Noah, pobydd, groser a gwerthwr esgidiau, Stryd Fawr a Wrecsam

Miss Coralie Williams golygu

Peter Griffiths golygu

Canu oedd ei hoff beth ac yr oedd yn godwr canu yn y cyfarfodydd ar noson waith. Nid penodiad swyddogol oedd hwn ond yr oedd wedi cymryd arnodd y gwaith ar liwt ei hun. Ond yr oeddech yn gwybod fod y canu'n saff os oedd ef yn y seiat. Am donau nod oedd o'n hoffi - “Dydw i ddim yn licio'r tonau ton-ti-rero yma.”

John Thomas golygu

Tresorydd yr eglwys. Os oedd y cyfrif yn fyr cyn y Cyfarfod Chwarter yr oedd yn talu'r ddyled allan o'i boced ei hun. Ni byddai byth yn sôn am gael yr arian yn ôl ond yn gadael y mater i anrhydedd y swyddogion, ac weithiau byddai'n gorfod aros i'r eglwys gynnal rhywbeth i godi'r arian i dalu'n ôl. Yr oedd yn cadw siop fferins ar Heol Bryn Tabor.

J.F.Rogers golygu

Trysorydd yr Ymddiriedolwyr, a materion ariannol oedd ei brif ddiddordeb. Yr oedd teulu Coralie Wms yn galw yn ei gartref, 79 High Street, bob nos Sul, gyda'r plant yn mynd i un ystafell a'r oedolion i'r llall. Os oedd hi'n noson cymun yn y capel, byddai'r plant yn cynnal cymun eu hunain, a hynny o ddifrif. Percy Rogers oedd yn rhannu bara a dŵr, a'r plant yn penlinio ar gadair a phwyso ar ei chefn.

Robert Davies golygu

Blaenor yn eistedd yn y sêt fawr ac yn agos at ddrws yr ysgoldy. Yr oedd yn cael ffitiau, yn griddfan dros y capel, a chael ei gludo i'r ysgoldy. Wedyn byddai'n iawn am wythnosau. Yr oedd rhai o'r plant yn edrych ymlaen at ei glywed.

William Evan Parry golygu

Tad William Evan Parry (ieu) a thaid Emlyn Parry. Yr oedd mor fyddlon fel yr oedd C.Wms yn meddwl buasai rhaid cau'r capel wedi iddo farw. Pan aeth i fyw i Southsea at ei ferch, cerddai i Reheboth bob Sul a chael ei brydau yn nhŷ J.F.Rogers.

John Pritchard golygu

Diod oedd ei elyn mawr nes iddo gael ei argyhoeddi yn ystod gweinidogaeth Parch T.O.Jones (Tryfan), pregethwr cryf, tua 1904.

Henry Warburton golygu

Hen feddwyn ac ymladdwr a gafodd tröedigaeth. Pan adnewyddwyd y capel ym 1909, prynodd y sêt lle cafodd y profiad hwn am 1/6 a dywedodd fod darn ohoni i fod yn ei arch. Cafodd ei ddymuniad.

Caenog Jones golygu

Yn enedigol o Glocaenog. Pan oedd yn weinidog yma yng Nghoedpoeth, cafodd ferch i drwblaeth. (Cariad i'r Parch Lloyd Hughes oedd yma ar ymweliad DCH) a ganwyd bachgen yn 1906 – Ifor Bowen Griffith. Gadawodd Coedpoeth ac aeth i Buxton ac yna Sheffield, ond mynnodd ddychwelyd gan ddweud ei fod eisiau codi ei hun i fyny lle cwympodd. Yr oedd yn hynod ffyddlon yn y capel. Cychwynnodd fusnes brethyn (draper) mewn siop fach ar Heol Maelor cyn symud i'r Stryd Fawr, lle mae siop Jonah Lloyd rŵan, a'i dŷ yn y rhes sy'n gydiol. Yr oedd yn uchel iawn ei barch ar hyd ei oes.

Thomas Williams (Y Cariwr) golygu

Tad Coralie Williams. Cariwr oedd yn cyn cadw siop yn Heol Maelor, a'i henw yn Garth Maelor. Yr oedd ganddo lawer o gerbydau e.e. Brêc, gig. Arferai gyfarfod y pregethwyr mawr yng ngorsaf Wrecsam a'u cludo i Goedpoeth. Unwaith yr oedd râs ofnadwy i gymryd John Evans Eglwysbach i ddal y trên ond fe llwyddodd. Y tro nesaf iddynt gyfarfod, holodd Evans am y ferlen Polly, ac ar ôl clywed am ei marwolaeth dywedodd fod hi'n siŵr o fod yn y nefoedd. Crefydd oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd. Nid oedd yn malio llawer os nad oedd ganddo ddigon o bres i dalu i drafaeliwr am nwyddau i'r siop, ond collai gwsg cyn Cyfarfod Chwarter os oedd diffyg ariannol. Yr oedd yn weddiwr mawr. Gyda rhai o'i hoff emynau, rhoddai ei lyfr emynau ar draws ei frest, rhoi ei ben yn ôl, a chau ei lygaid wrth ganu e.e. Y Gŵr a fu gynt o dan hoelion. Os clywai am ryw aelod yn sâl, yr oedd yn poeni'n arw, a gofalai ymweled â nhw ar ei union.

Sgwrs efo Dora Edwards (83oed) golygu

(Ei rhieni oedd Johnny a Mary Louise Edwards)

Yr oedd Louise yn forwyn yn plas Gwyn, Y Mwynglawdd, i'r teulu Wynne o'r amser y gadawodd yr ysgol hyd nes iddi briodi, ac yr oeddynt yn meddwl llawer ohoni. Bu Mrs Wynne yn garedig iawn wrthi am flynyddoedd ac yn aml yn rhoi anrhegion iddi pan alwai yno. Cafodd Johnny a Louise saith o blant (Bessie, Nellie, Eric, Dora, Gwyneth, Percy Vaughan ac Edith Mary) a nifer ohonynt wedi'u henwi ar ôl plant teulu Wynne e.e. Nellie ac Eric(enw llawn yn George Frederick). Yr oedd Mrs Wynne yn gofyn weithiau sut oedd y sefyllfa ariannol, ac yn aml yn rhoi pecyn o fwyd i Louise cymryd adref. Yr oedd y plant yn disgwyl i'w mam ddod adref o Blas Gwyn, a dweud “Beth gawn ni heno tybed?”

Glöwr cyffredin oedd Johnny heb ennill fawr o gyflog. Daeth i ddioddef o'r 'stagmas' (astygmatism?) a chollodd ei olwg, fel a digwyddodd i lawer o'r glowyr, a bu rhaid iddo orffen ei waith ymhell cyn oed ymddeol. Nid yw Dora yn cofio gweld ei thad yn darllen llyfr erioed nac yn ysgrifennu unrhyw beth gan fod ei olwg mor wan.

Yr oedd y teulu byw ym Mhenywaun, Coedpoeth, ac yn talu rhent i Hughes, lloft Wen. Daeth yr amser fod Hughes eisiau gwerthu'r tŷ a'r pris oedd un ai £120 neu £130, ond nid oedd gan Johnny y fath arian. Pan soniodd Louise wrth Mrs Wynne am eu penbleth, trefnwyd i Mrs W ei brynu a Johnny yn talu'n ôl fesul tipyn dros y blynyddoedd. Pan orffenodd ei waith oherwydd afiechyd, fe gafodd £15 o daliad gan glwb y Rechabites ac fe benderfynodd ef a Louise, gyda'r pres ar eu bwrdd o'u blaen, ei ddefnyddio i orffen talu am y tŷ. Aeth Johnny i fyny i Blas Gwyn gyda'r arian, ond rhoddodd Mr Wynne y £15 yn ôl iddo a dweud “Yr ydych yn haeddu hwn.”

Yr oedd Johnny yn gerddorol ac yn awyddus i'w blant gael gwell cyfle i ddysgu cerddoriaeth. Un o'r pethau cyntaf a brynodd oedd piano er nad oedd ef ei hun yn medru chwarae, ac adeiladodd fath o sgrin i'w rhoi o flaen y piano i'w amddiffyn rhag nam pan oedd neb yn ei chwarae. Rhoddodd wersi ei hun i'r plant, a'r gorau ohonynt a'r mwyaf awyddus oedd Bessie. Yn Wrecsam yr oedd Wilfred Jones (tad Mabel Wilf) wedi perswadio William Aston i roddi arian ysgoloriaeth i nifer y plant yr ardal cael gwersi piano, a thair o Goedpoeth oedd Bessie Edwards, Millie Edwards (Dodd wedyn) a Bronwen Griffiths. Pan glywodd Wilfred Jones Bessie yn chwarae, gofynnodd pwy oedd yn ei dysgu, a'i hateb oedd “Fy nhad.” Dywedodd ef ei fod eisiau gweld ei thad y tro nesaf y cynhelid Cymanfa Ganu yng Nghoedpoeth, a dywedodd y dylai Bessie gael gwersi gan rywun cymwys. “Ddyn annwyl,” meddai Johnny, “Sut fedrwn i fforddio hynny?” Ac aeth William Jones at Wm Aston eto a llwyddo i gael ychydig mwy o arian er mwyn iddi gael dwy flynedd dan Miss Stainton yn y dref. Byddai Bessie yn aml yn codi yr un amser a'i thad wrth iddo fynd i'w waith, er mwyn cael ymarfer am rai oriau cyn mynd i'r ysgol, a hynny rhag ofn ei than a Miss Stainton.

Yr oedd Johnny yn canu'r cornet ac yn aelod o fand Coedpoeth (Johnny Band) ond yr oedd ei olwg gwan yn rhwystro iddo. Felly gyda phob darn newydd, yr oedd y plant yn gorfod darllen y manylion iddo e.e. Y cywair, yr amseriad, gwerth pob nodyn, er mwyn iddo ddysgu'n drwyadl.

Elizabeth Jane Humphreys (Lizzie Jane) golygu

Cist droriau a'r cloc golygu

Pan oedd fy nhaid, William Humphreys, yn fachgen ac yn byw yn y Nant, daeth ei athro Ysgol Sul i helynt am gymryd pres y capel er mwyn cael triniaeth i'w ferch fach yn Lerpwl. Dechreuodd werthu dodrefn o'i dŷ i dalu'n ôl, a phrynodd fy nhaid y ddau ddernyn a'u cadw yn nhŷ ei rieni dros ddeng mlynedd nes iddo briodi. Yr oedd yr arian ganddo wedi iddo weithio drwy'r dydd bob Sadwrn ar y ddau dŷ Bryn Awel yn Heol Llywelyn ac ennill swllt y dydd. Ei fwriad oedd cael mwy o addysg gan Roberts, Salem Terrace, gyda'r arian ond aeth hynny i'r wal oherwydd prynu'r dodrefn.

Zeppelins golygu

Cafodd Taid Shade (Henry Warburton) ei ddychryn un bore Sul ar ei ffordd i'r capel wrth weld zeppelin uwchben y Royal Oak a'r Cross Foxes, ac yr oedd pawb yn siarad am y digwyddiad. Rhai'n dweud fod un wedi glanio yn Nant y Ffrith i weld dyn y plas yno – Spottiswoode, perchennog y Times.

Spinet golygu

Yr oedd arwerthiant ym Mhlas Nant y Ffrith, a phrynodd fy hen ewythr spinet yno a'i chadw am flynyddoedd wedyn yn y cartref yn y Shade a bu rhaid i Lizzie Jane a Sal ganu lawer gwaith i'r cyfeiliant.

Gwern-To, Bwlchgwyn golygu

Yr oedd Nain Talwrn yn ffrindiau efo Maggie fel morwynion yn Coed Efa, ac ar ôl priodi aeth 'Aunty' Maggie i fyw i Gwern-To. Weithiau cymerai Taid y teulu i gyd am y diwrnod yno, a hurio ceffyl a fflôt o Blas Mostyn Bach i'w cludo, ac yntau yn eu gyrru. Ond un tro cawsant geffyl ifanc gwyllt heb ei dorri, a dim ond y bechgyn aeth efo taid y diwrnod hwnnw.

Toiledau golygu

Yr oedd Mrs Roberts, Nain, Sam Crets, yn lletya athrawesau ac yr oedd gan y teulu doiledau o safon uchel gyda thri thwll yng ngwaelod yr ardd. Dyna lle'r oedd William George Roberts (Dyn a Hanner) yn mynd i ddysgu ac ymarfer ei ddarnau adrodd. Yr oedd pawb o gwmpas yn ei glywed yn mynd trwyddi, a llawer yn agor eu ffenestri er mwyn ei glywed yn well.

Aur golygu

Aeth Tom Lloyd (tad Thomas Edward, John Richard, Joseph, etc) i ymuno â'r Gold Rush, a daeth yn ôl adref wedyn. Pan fu farw ei wraig ymhen blynyddoedd, Nain Warburton a wnaeth y diwethaf iddi. Ond cyn gorffen y gwaith o'i gosod allan, rhoddodd Tom Lloyd lawer o aur, gemau a thlysau yn yr arch gan ddweud “Hi oedd piau nhw.”

Gwaith ysgafn golygu

Daeth Mrs Smith yn aml i ofyn i fy nhaid newid gwaith Albert Vaughan i lawr pwll er mwyn iddo gael gwaith ysgafnach. “Ond Mrs Smith fedraf fi ddim meddwl am waith ysgafnach Y cwbl mae o'n gwneud ydy cario fy laml a fy ffon i mi o gwmpas y pwll.”

Mynd i'r ffair golygu

Uncle Bob yn cymryd Sal a Lizzie Jane bob blwyddyn, a chawsant geiniog gan hwn a'r llall. Trio bob peth. Y brêc yn cychwyn adref o Abbot St, ond yr oedd rhaid aros yn hir iawn weithiau i'r gyrrwr gael llwyth. Yna, ar waelod Pwll y Go, rhaid oedd i lawer o bobl gael allan, yn enwedig y dynion a'r plant.

Yr oedd tafarn tu ôl i Neuadd y Dref, a synnodd Sal wrth weld Edward Jones (Ted Bach) yn dod allan ohoni ac yntau'n flaenor yn y capel. Ond deallodd wedyn iddo fod yno ynglŷn â'i waith.

Mawrth 1af, 1929 golygu

Nid oedd Nain Shade (Jane Warburton) yn teimlo'n rhy dda y diwrnod hwnnw, ac ni ddaeth â fi i'r byd fel y bwriadai, a daeth bydwraig gofrestredig i wneud y gwaith. Yr oedd yn enedigaeth galed ac nid oedd llawer o'r bobl yno yn disgwyl i'r baban newydd fyw. Y noson honno yr oedd tân mewn siop pren gyfagos a bu rhaid i'r fam a'r baban fynd i aros yn nhŷ “Anti” Mair ar draws y ffordd.

Marw hen-daid golygu

Yr oedd Thomas Pierce yn “Deep Sea Diver” yn gweithio rhwng Connah's Quay a Lerpwl, yn gweithio yno trwy'r wythnos ac yn dod adref bob penwythnos. Pan aeth i'w waith un tro yr oedd ei ferch fach (fy nain) ar fin gollwng a dechrau cerdded. Trwy'r wythnos fe'i hyfforddwyd i gerdded o'r grât at ei mam nes iddi ddysgu. Ond cyn y penwythnos yr oedd ei thad wedi boddi ac ni welodd hi'n cerdded. (c. 1876)

Lladd golygu

Yr oedd cut moch wrth y domen a'r toilet, hanner ffordd i lawr yr ardd, fel ymhob cartref bron. Yr oedd sinc yng nghanol y buarth yn wynebu drws cefn y tŷ, a dyna le dôi Tommy Moss y cigydd i ladd y moch ar fainc uwchben y sinc. Nid oedd y moch yn cael bwyd am ddiwrnod cyn eu lladd. Yr oedd y genethod yn rhoi eu dwylo dros eu clustiau rhag clywed y gwichio. Yna hongian y moch am ddau ddiwrnod i ddiferu ac i'w sgaldio mewn dŵr poeth. Wedyn daeth y cigydd eto i'w torri i fyny a'r teulu dan oruchwyliaeth Nain Shade yn ei halltu.

Aeth un mochyn cyfan i siop Isaac Roberts ar ben Heol y Castell i dalu am fwyd. Un hanner arall yn cael ei werthu i Lloyd y cigydd ar ben Heol Salem, a'r hanner olaf yn hongian ar fachau yn y seler yn fwyd i'r teulu.

Yr oedd Uncle Bob (ieu) wrth ei fodd gydag anifeiliaid ac yn trin cig. Dyna beth oedd ei waith wedyn - gigydd i lawer o ffermwyr a siopwyr. Nid oedd bob amser yn cael y cyflog iawn am ei waith, ond cymerai digon i brynu peint neu ddau o gwrw. Euthum yn aml efo fo i'r lladd-dy ym Mhenybont, Y Mwynglawdd, i'w helpu. Agorodd siop gig yn y Stryd Fawr, Coedpoeth, ond nid oedd yn llwyddiant. Yr oedd yn gwneud pasteiod, pwdin moch, a selsig yn seler Nain Talwrn i'w gwerthu yn y siop. Wrth i mi ei helpu, yng ngolau'r gannwyll, bu rhaid i mi fwy nag unwaith yfed llond cwpan o waed er mwyn tyfu'n fawr ac yn gryf.

Ond fel bachgyn yr oedd Uncle Bob yn gweithio ar ôl ysgol i Bob Edwards y cigydd yn y siop, yn y lladd-dy, yn cymryd cig allan eto. Ei gyflog bryd hynny oedd naw ceiniog yr wythnos (llai na 5c rŵan).

Jac Fflint golygu

John Rogers oedd ei enw ac yr oedd yn or-hoff o'r ddiod. Yr oedd dwy fraic ganddo, ond un llaw yn unig, a chariai ffon gerdded dros ei fraich. Weithiau gwisgai fachyn. Safai am hydoedd gyferbyn â'r swydda bost yn disgwyl am delegram i'w gymryd rywle er mwyn cael ychydig o bres i brynu mwy o ddiod.

Nid oedd ganddo gartref, ond lletyai mewn tŷ yn y pentref. Yr oedd y bobl am fynd ar bythefnos o wyliau a gofyn iddo ffeindio lle arall. Perswadiwyd Nain a Taid Talwrn i'w gymryd am sbel gan ei fod yn canlyn Auntie Sarah. Ond ni chafodd fynd yn ôl i'r tŷ cyntaf ymhen y penwythnos, ac arhosodd yn y Talwrn am tua blwyddyn. Gwnâi Nain bopeth iddo e.e. Ei ymolchi a'i wisgo, cau ei esgidiau, ac yr oedd yntau mor anghynnes.

Ar ôl marw Nan Shade tua 1933 priodwyd Jac ac Anti Sarah ac aethant i fyw yn yr hen gartref yn y Shade.Gwerthodd Jac bopeth o'r cynnwys oedd o werth, fel spinet Uncle Bob a hyd yn oed lyfr emynau Nain Shade, er mwyn cael mwy a mwy o ddiod. Yr oedd gan Anti Sarah siop fach yn Heol Llewelyn yn gwerthu mân bethau fel fferins, ond nid oedd yn fawr o le. Fe aeth hi'n rhyfedd erbyn y diwedd.

Dr Yates golygu

Yn byw ym Mhenygarth ar allt Penygelli cyn Dr D.B. Evans. Bu'n feddyg yn y fyddin, ac yr oedd yn un garw am ddefnyddio'r gyllell. Yr oedd gan Uncle Bob, brawd fy nhad, dyfiant tu fewn i'w geg ac yr oedd wedi chwyddo'n ofnadwy. Cymerodd ei dad ef ar fore Sul at y feddyg, a thorrwyd allan y drwg gyda Nain Shade yn dal ei ben, Nain Nant yn dal ei draed, ac Uncle Willie yn helpu. Ni chafodd y bachgen tair oed unrhyw anasthetic ac yr oedd yn gwichian fel mochyn. Yr oedd y graith ar ei wyneb am weddill ei oes.

Coes glec Taid Nant golygu

Wrth gerdded i'w waith ym mhwll Plas Power syrthiodd ar y rhew i lawr yr Allt Glai a dechreuodd ei goes waedu. Mynnodd fynd i'w waith, ond aeth llwch glo i fewn i'r clwy, trôdd yn ddrwg, ac ymhen amser, bu rhaid ei thorri i ffwrdd, a chafodd goes glec yn ei lle. Yr oedd y goes newydd o ledr brown ac yn sgleinio fel gwydr. Yr oedd teclyn haearn bob amser yn gynnes wrth y tân, a rhwbiai Taid ei stwmpyn o goes â hwn cyn gwisgo ei goes ledr.

Rhent tŷ Nain a Taid Talwrn golygu

Yn ôl Lizzie Jane, hi dalodd y rhent o'r amser yr aeth hi i ffwrdd gyntaf fel morwyn ifanc i wasanaethu mewn lle hyd nes ei symud o'r tŷ tua'r flwyddyn 1964. Ei thasg gyntaf bob mis, pan gawsai ei chyflog, oedd postio'r rhent i'w rhieni.

Nain Shade ar iechyd golygu

Yr oedd hi'n fydwraig ac yn nyrs i lawer teulu, gan ofalu amdanynt dros gyfnod o wythnosau weithiau. Cymerai'r dillad gwely adref i'r Shade, neu gael un o'i hŵyrion i'w cludo, er mwyn eu golchi a'u smwthio.

Dywedai'n aml,” If money could buy health, the rich would never die.”

Ar ddiwedd stem golygu

Deuai Taid Shade ac Uncle Bob, ei fab, adref o'r gwaith tua chanol y p'nawn, mynd i'r golchdy yn yr ardd lle'r oedd Nain Shade wedi berwi dŵr yn barod, a chael bath yno o flaen y tân. Wedyn caent fowlen o fara llefrith a chysgu yn y gadair am awr cyn mynd i'r tŷ i wisgo dillad gwell.

Dillad newydd golygu

Yr oedd Robert Jones neu McKinley yn dod i dŷ Taid a Nain Talwrn tua dwy waith y flwyddyn i fesur rhywun am ddillad newydd. Yr oedd Uncle Maldwyn, brawd fy nhad, yn cael dau bâr o drowsus i'w siwt bob tro er mwyn edrych yn dwt yn ei waith yn swyddfa'r pwll. Teimlai'r lleill yn eiddigeddus ohono braidd, ac yr oedd fy nhad yn awyddus iawn i gael dau bâr ei hun ryw ddiwrnod. Yr oedd Robert Jones yn byw yn Lerpwl, lle'r oedd ei fusnes, ond deuai o gwmpas i fesur ei gwsmeriaid; ond gwnaethpwyd y pwytho gan Jones y teiliwr, Stryd Fawr, Coedpoeth (tad Spider) lle'r oedd ganddo siop ddillad o safon uchel. Yna talwyd am y dillad bob wythnos gan Taid a Nain, efallai swllt y tro.

Yr Eryr golygu

Clefyd poenus ofnadwy yn achosi doluriau mawr ar y corff, ac os oedd y crachod ar ddwy ochr y corff yn cyfarfod ar draws y canol yna yr oedd y claf yn ddifrifol wael. Yr oedd pryder mawr yn y teulu pan oedd hyn ar fin digwydd i Uncle Ted (Ted Bach, tad Auntie Doris etc).

Ers talwm, tua dechrau'r ganrif, yr oedd rhai teuluoedd yn galw Windsor at y claf i chwythu ar y dolurau i'w cadw'n oer. Yr oedd ef wedi bwyta cig yr eryr rywbryd ac felly yr oedd ganddo anadl oer bob amser. Ye oedd gan Nain Shade hefyd y ddawn hon, meddai Lizzie Jane.

Bwriad Lizzie Jane i briodi golygu

Yn y 1930au cynnar yr oedd Lizzie Jane yn gweithio fel morwyn i deulu Peck ac yn byw yn eu tŷ yn Southport. Tua 1935, gadawodd nhw er mwyn priodi Isaac Lloyd (brawd Jonah, Bob, etc) ac yr oedd popeth yn barod. Yr oedd eu tŷ yn y sgwâr ym Mryngwyn wedi'i ddodrefnu'n llawn, a hyd yn oed bwyd yn y gegin. Ond penderfynnodd LJ y noson gynt beidio â phriodi, a daeth Uncle Jack yn fore i Wasg y Seren i ddweud wrthym, ac i gael ffônio o gwmpas e.e. Pobl y nwy. Ar y dechrau, meddyliasom mae tynnu ein coes oedd, gan ein bod ar fin cael yn barod.

Yr wythnos nesaf, aeth LJ efo'i thad (fy nhaid) i ofyn i gwmni Aston gymryd y dodrefn yn ôl. Yr oedd fy nhaid a William Aston yn gyfeillion wrth iddynt fod yn gyd-aelodau ar gynghorau a phwyllgorau ac aeth y tri ohonyny i'r swyddfa i drefnu pethau.

Pam y penderfynnodd hi beidio â phriodi? Dywedodd wrthaf (Rhagfyr '85) am rai o wendidau a diffygion Isaac e.e. Yr oedd yn hynod dawedog ac yn dweud dim wrthi na neb arall; nid oedd ganddo arian o gwbl; yr oedd yr holl deulu yn dlawd ac yn methu â fforddio lliain bwrdd i'w prydau bwyd. Clywodd hefyd ei fod ef a Grace, morwyn arall yn nhŷ Peck, yn gohebu â'i gilydd er mwyn hel straeon amdani.

Ond mae'n rhaid ei bod hi'n gwybod am lawer o'r ffaeleddau cyn bod sôn am briodi na dyweddio na ddim. Clywais innau wedyn fod Isaac wedi ceisio benthyg pres gan Uncle Maldwyn (brawd JJ!)

Mynd i America golygu

Yr oedd Uncle Bob, brawd fy nhaid, yn gweithio gyda chwmni Brown, bragwyr a gwinwyr yn Wrecsam, ac yn cerdded yn ôl ac ymlaen i'w waith bob dydd o Goedpoeth. Cynilodd digon o arian i fudo i America ac yntau'n 16 oed. Ond ar y diwrnod mawr pan cyrhaeddodd Lerpwl cafodd fod y tocyn yn ddrutach na'r disgwyl. Felly trefnodd weithio fel gweinydd ar y llong i dalu am y gwahaniaeth.

Aeth Uncle Charlie, brawd arall, allan i America ar ei ôl, a phwyswyd ar fy nhaid ac Uncle Tomi ddilyn ei esiampl, ond nid aethant. Daeth y ddau ewythr yn ôl i'r wlad hon adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fel aelodau o fyddin America. Daeth Uncle Bob ar ymweliad â Choedpoeth am ychydig oriau yn unig, yn ei lifrai, a phluen enfawr yn ei het. Ond pan ddaeth Uncle Charlie arhosodd am rai dyddiau efo'r teulu.

Tân yn Y Talwrn golygu

Cedwid Brigâd Dân Coedpoeth yn yr Armoury Room, Neuadd y Plwyf. Tanc mawr o ddŵr, bwcedi ac ysgolion ar drol, a dynion yn ei gwthio, nid ceffyl.

Yr oedd LJ yn cychwyn am yr ysgol pan welodd hi'r frigâd ar ei ffordd i dŷ Sam Price ar Heol Y Talwrn. Yr oedd y tŷ ar rhent gan Thomas Charles Griffiths. Llosgwyd y lle yn ulw a'r teulu mawr o blant yn colli popeth. Yr yswiriant mae'n debyg a dalodd am y tŷ newydd, Delfryn, ond pobl yr ardal helpiodd y teulu gyda helfa, cyngherddau, etc. Yr oedd Sam Price yn bregethwr lleol, yn traethu hanner Cymraeg a hanner Saesneg pan ddeuai i'n capel ni. Er mwyn iddo barhau i bregethu ar Suliau, rhododd Taid Talwrn ei siwt orau iddo.

Gwneud helfa golygu

Yr oedd Taid Talwrn (Humphreys) yn trefnu helfa i rywun neu ryw deulu o hyd oherwydd eu salwch, neu eu tlodi, neu ddiweithdra, neu am fod teulu mawr ganddynt. Deuai adref o'i waith ym mhwll Plas Power, ymolchi, bwyta, a gwisgo ei ddillad prynhawn. Yna dechreuai ysgrifennu a chyfeirio pamffledi i'w dosbarthu o gwmpas y pentref yn hysbysebu cyngerdd efallai. Erbyn i'r plant gyrraedd adref o'r ysgol yr oedd popeth yn barod wedi'u trefnu yn ôl y “districts” a Taid yn rhannu'r pamffledi i'r plant eu cymryd allan.

Adeg Nadolig yr oedd yn hel bwyd i bobl gan siopau y pentref, dafad gan rywun wrth troed y mynydd, tatws a maip gan Fitzhugh bob blwyddyn (“Here comes the Cadger”). Yr oedd rhestr o bobl anghenus wedi'i pharatoi a storiwyd y bwyd tan y Nadolig yn Neuadd y Plwyf.

Yr oedd Taid wrthi o hyd gyda rhyw weithgaredd neu gilydd e.e. Y cyngor plwyf, rheolwyr yr ysgol, y capel, ffederasiwn y glowyr, trefnu helfa, cael eitemau cyngerdd.

Elizabeth Jones golygu

Siarad a hi yn ei chartref, 2 Heol y Fynwent, Coedpoeth ym Mai 1969.

Ganed hi yn y City Arms ar Chwefror 4ydd 1885. Priododd a David Jones (Cymro da) a chawsant dri mab – Ernest, Arnold a Randolph.

Yr oedd ei thad yn gwerthu dŵr ar Sadwrn yng Nghoedpoeth a'i gael o'r Pistyll yn Y Mwynglawdd. Yr oedd poteli yn ffitio mewn basgedi ar bob ochr o'r tri mul. Yr unig ddŵr gan pobl oedd o'r ffynhonnau ac yr oeddynt yn barod i'w brynu ar Sadwrn. Dyna oedd diwrnod prysuraf ei thad ac yr oedd wrthi trwy'r dydd. Yr oedd Dr D.B. Evans yn gyrru llawer o bobl i fyny i'r pistyll am botelaid o ddŵr am ei fod mor bur.

Tua 1959 yr oedd helynt efo Glyn Davies, Tŷ Brith, a oedd yn ceisio pwmpio dŵr y pistyll i'w dŷ ei hun gan gymryd dŵr llawer o bobl gan gynnwys Mrs Jones ei hun. Dyna'r amser y cafodd ei chartref ddŵr o'r tap gyntaf rhag ofn helynt arall.

Cafodd ei gŵr operasiwn ar ei fraich chith a thorrwyd darn o'r asgwrn i ffwrdd wrth ei ysgwydd gan wneud y fraich yn llai na'r llall wedyn. Felly nid oedd gwaith iddo a bu rhaid magu tri mab ar 18s 6d yr wythnos (7/6 State Insurance, 7/6 am gymryd y post, a'r mab hynaf yn cael ychydig yng Nglofa Plas Power). Cafodd Mr Jones ei daflu allan o'r Yswiriant yn 46 oed am nad oedd ganddo digon o stampiau.

Cymrodd Mrs Jones y post allan am 11 ½ mlynedd tua 1922-1933 0 lythyrdy'r Mwynglawdd. Yr oedd gofyn iddi fod yno erbyn 5.30am i nôl y llythyrau a'u cymryd i Minera hall ac i fyny'r Hen Ffordd. Yr oedd i fod yn ei hôl erbyn 9 ond yn aml yr oedd hi'n methu hyn oherwydd yr eira. Cafodd y King's Shilling, ac os oedd rhaid iddi dalu amdanynt allan o'r swllt cyn cychwyn allan, a chael y bobl i dalu'n ôl iddi i wneud y swllt i fyny eto.

Aeth i Ysgol Y Mwynglawdd o dan Miss Harvey gan ddechrau yn 4 oed. Gorffennodd ei haddysg yn 13 oed yn Ysgol y Merched Penygelli lle mae'r hen Ysgol Gynradd rŵan. Yr oedd rhaid talu 4d yr wythnos bob bore Llun. At hynny yr oedd rhaid prynu llyfrau a slaten eu hunain.

Ni chafodd wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond dysgodd sut i ddarllen Cymraeg yn nhai yr hen bobl. Ar ôl Ysgol Sul Saesneg yn yr eglwys, âi adref i newid a mynd syth yn ôl i wasanaeth Cymraeg ambell Sul. Câi yno bregeth Gymraeg a dysgodd emynau Cymraeg yno hefyd.

Bu hi mewn lle fel morwyn yn Lerpwl am bedair blynedd. A'i chariad, David Jones, yn dod ar y trên o'r Central Station Wrecsam ambell i brynhawn Sadwrn am swllt i'w gweld. Yn aml gofynnai i'w meistres gael dychwelyd efo fo i Goedpoeth ar y Sadwrn, aros dros nos, mynd i Eglwys y Mwynglawdd yn y bore, a chychwyn yn ôl i Lerpwl amser cinio Sul. Ac aeth David Jones hefyd a'i danfon i Lerpwl. Gwnaeth llawer o'i charu ar y trên.

Yr oedd hi'n forwyn yn Nhyn y Capel yn 16 oed, yn agor i fyny am 5.30am a gwneud rum poeth i'r gweithwyr plwm ar ei ffordd adref yn wlyb domen. Yr oedd clai o gwmpas ei hetiau caled, a chanhwyllau yn y clai.

Daeth y plismon â rhestr a lluniau meddwon arni i'w rhoi ar y wal, a nid oedd neb i werthu cwrw iddyn nhw.

Arnold, ei mab canol tua 50 oed, yn cofio Windsor, cymeriad o'r Nant, yn mynd i'r Calch bob diwrnod tâl, gosod cadach coch o'i flaen ar lawr, a disgwyl elusen gan y dynion. Nhw yn taflu ceiniog neu ddimau.

Yr oedd pâr o esgidiau iddi fynd i'r ysgol yn costio tri swlltt o siop John Harrison yn y Smelt, Owns o faco John Peel yn costio 10 1/2d o siop William Jones a ddechreuodd y siop Beehive gyntaf yn y Smelt, nesaf at gapel Bethel, cyn symud i Goedpoeth.

Pan glywodd heddiw (Mai 12eg 71) am farwolaeth Edward Mostyn yn 84 oed dywedodd nad oedd yn ei hoffi o gwbl. Cofio mynd i'w siop ar nos Sadwrn i brynu gwerth deunaw (swllt a chwech) o gig i wneud lopsgows at y Sul – methu fforddio chwaneg oherwydd prinder arian – ac iddo chwerthin am ei phen. Aeth hi allan o'r siop mewn dagrau ac heb y cig.

Mor ddrud mae cig heddiw. Cofio siop gig wrth Eglwys Coedpoeth ar waelod Assembly Road yn gwerthu “cig diarth” am rôt y pwys. Mae'n debyg mae cig o Seland Newydd oedd.

“Ancient Parish Rights” a glywodd ei thad gan Mr Wynne, Plas Gwyn, pan oedd hi'n eneth.

1 Forty Steps 2 Cafn Dŵr 3 Tŷ'n y pistyll

Yr oedd traddodiad fel mynachod yn mynd i fyny'r Forty Steps o Dŷ Brith yn siantio i'r “Chapel of Ease” a oedd ychydig yn nes at y ffordd na'r eglwys presennol.

Yr oedd pobl yn dod o'r Eglwyseg bob Sul ar gefn ceffylau i'r gwasanaeth yn “Sŵn y Gwynt” presennol, ac yna mynd i fyny'r Forty Steps i'r eglwys.

 

“Stockhouses oedd y tai wrth y bont ym Mhenybont. Gwaith y dyn oedd casglu unrhyw anifail a oedd yn rhydd ar y ffordd a'i gadw tan y bore, a chael y bobl i dalu amdanynt. Enw'r tŷ rŵan ydy Newbridge. Cyn adeiladu'r bont yr oedd rhaid mynd trwy'r afon. Hon yw'r bont gyntaf.

Pan adeiladwyd organ Eglwys y Mwynglawdd tua 1935 yr oedd ei gŵr allan o waith wedi brifo'i fraich a honno mewn sling. Bob dydd yr oedd yr adeiladwyr yn gofyn iddo chwarae nodau ag un llaw tra oeddynt yn gosod y peipiau yn iawn. Agorwyd yr organ gan Dr Bridge.

Llewelyn Kelly golygu

John Ellis Lloyd (Jac Spaniel) yn “fireman” yng Nglofa Plas Power, yn gyrru dynion i'w gwaith i lawr pwll a'u goruchwylio. Wedi camdrin rhai o'r dynion a'u twyllo'n ariannol. Cerddasant allan o'r gwaith, i fyny allt Plas Power, a'r rheolwr, Carrington Jones, ar ei holau i'w galw'n ôl.

J E Lloyd weithiau yn cynnal cyfarfod gweddi yn ei ystafell i lawr pwll, neu yn ceisio gwneud hynny. Nid oedd yn boblogaidd o gwbl gyda'r gweithwyr. Blaidd mewn croen dafad.

Bu J E Ll yn bregethwr ar gylchdaith Coedpoeth am amser maith. Dechreuodd yn hel “rag a bone” yn Southsea a dywedodd un i lawr pwll wrtho am fynd yn ôl i hel carpiau.

Diwygiad 1904. Effeithiodd ar lawer ond am gyfnod byr. Bachgen ifanc, 15 oed, yn gweddïo'n gyhoeddus mewn capel llawn a dod i lawr wedyn gan ofyn “Be' wyt ti'n ei feddwl o hynny?”

Richard Hopwood, glöwr cyffredin, yn uchel iawn ei barch. Y dynion ddim yn meiddio rhegi o'i flaen.

Harri Warburton – cafodd tröedigaeth ar ôl bod yn ymladdwr. Pan roedd Rehoboth du fewn newydd yn 1909, cadwodd y sêt gapel lle gafodd dröedigaeth, a'i rhoi yn y tŷ.

Bandiau pres yn ei bri ar ddechrau'r ganrif. Yr oedd hyd yn oed un yn y Nant ond nid oedd llawer o siâp arni.

Rheolwr pwll glo Llay Hall yn cynnig cwpan arian i'r bandiau gystadlu amdani bob blwyddyn. e.e. Bandiau Brymbo, Rhos, Coedpoeth. A'r cyntaf i'w ennill dair gwaith yn ei chadw. Coedpoeth oedd hwnnw, a daeth y gwpan ymhen amser yn eiddo Mr Evie Parry. Yn ddiweddarach, rhoddodd hi fel gwobr flynyddol mewn carnifal ac mae hi yn awr yn Gwersyllt.

Y gystadleuaeth – martsio o ben Salem Road ar hyd y ffordd fawr yn chwarae, a'r beirniad yn gwrando yn lloft ffrynt John Wilcock a'r bleind i lawr.

Clybiau yn boblogaidd. Dynion yn talu efallai chwe cheiniog yr wythnos ac yn cael wyth swllt yr wythnos yn ystod salwch. Y swm yn gostwng os oedd y salwch yn faith. “Wrth gwrs Lloyd George ddaru lladd y clybiau yma.”

Clwb y Golden Lion ag 800 o aelodau unwaith. Unwaith y flwyddyn yn martsio i lawr Penygelli, ar hyd Llewelyn Road, i fyny i'r Ugain Tŷ ac yn ôl i gael cinio.

Neuadd y Plwyf, Coedpoeth, 1896. Yr achlysur cyntaf oedd Eisteddfod Capel Siôn, Talwrn. Hon yn eisteddfod fawr. Un band o Flaenau Ffestiniog yn cystadlu. Tro cyntaf i'r neuadd gael trwydded oedd er mwyn i Gapel Adwy'r Clawdd gynnal drama. Yr oedd hyn cyn gadael ysgoldy. Ond nid oedd Neuadd y Plwyf yn cael ei gosod i bob Tom, Dic a Harry. Y capeli oedd yn ei defnyddio fwyaf ar y dechrau.

Rehoboth. Yr oedd yr hen organ ar lawr y capel tua dwy neu dair rhes o'r Sêt Fawr. Yr organydd oedd Philip Jones, athro gwaith coed, ond bu raid iddo beidio am iddo ddechrau colli ei glyw. Adeiladwyd llofft yr organ newydd flynyddoedd cyn cael yr offeryn newydd, ac yno yr oedd tua chwech o seti i'r côr. Yr un amser, wrth gwrs, adeiladwyd yr ysgoldy fawr, a bu rhaid codi cyrff o'r fynwent a'u hail-gladdu. Dyna un rheswm pam mae'r ysgoldy ddim mwy. Mae dwy dabled o leiaf yn wal y cyntedd cefn i gofnodi mangre beddau, ond heb ysgrifen arnynt. 1905. Cafwyd organ newydd. Cronfa Carnegie yn cynnig cymorth ar yr amod fod y capel yn codi'r gweddill. Yr oedd gan lawer o aelodau ardal a rhestr o aelodau ac aethant o gwmpas yn wythnosol i gasglu 3c, 6c, etc. Cwblhawyd mewn chwe mis.

Organ Rehoboth. Yr oedd Llew Kelly yn sefyll ar ben Caradoc Road yn wlyb domen un diwrnod pan welodd lorri tu allan o'r capel, a dynion yn cario i mewn rhannau o'r organ. Buont yma am bythefnos yn rhoi'r organ yn ei lle. Gwerthpwyd yr hen organ i Gapel Bathafarn am £13 a dyna lle mae hi heddiw.

1909. Cafwyd tu mewn newydd i Rehoboth. Mae'n cofio edrych o gwmpas y capel a'r lle yn hollol wag – dim ond pedair wal. Cafodd y lle, hyd yn oed, bileri newydd i ddal yr oriel. Gwerthpwyd yr hen seti gyda drysau arnynt am ddeunaw yr un. Cafodd Ll K un a gwnaeth 'sideboard' ohoni, a rhannau o'r hen bulpud ar ei chorneli.

Thomas Patrick Jones (Twm Penymynydd) golygu

Siop barbwr yn y Shade, mewn tŷ, a gedwyd gan Siôn Blunt a Liz Blunt, ei wraig. Siafio yn costio un geiniog, a thorri gwallt dwy geiniog.

Yn 1892 aeth efo llanciau eraill i Southsea i dynnu trol Osborne Morgan i'r Cross Foxes Coedpoeth. O. Morgan newydd ennill etholiad fel Liberal yn erbyn Syr Watkin Williams Wynn, Tory. Cafodd ei siarsio i fod yn fachgen da cyn cychwyn - “Rŵan, Penymynydd”. Ond taflodd fricsen trwy ffenestr siop yn Southsea, dwyn baner allan o'r ffenestr, a'i llusgo i Goedpoeth ar gefn y drol.

Cofio'r amser cyn adeiladu pont rheilffordd yn Bradley Road Wrecsam. Cofwyd hi wedi i Poli'r Hen Gegin cael ei lladd yno wrth croesi'r lein.

Sicr mai fo oedd y bachgen papur cyntaf yn y pentref. Gwerthu Y Faner Goch bob Sadwrn. Ei dad oedd yn gyfrifol am werthu dros Gee Dinbych. Ceiniog yr un. Y cyntaf bob Sadwrn oedd Bob Elis y clocsiwr, Wil Elis America, Mrs Williams y lein wrth Shepherd's Bush, Morton Cae Glas, Woodfine Cae Haidd lle yr oedd tŷ a siambr, i Benybont, ac i fyny allt y Vicarage. Cerdded hwn bob Sadwrn. Yr unig amser y deuai ei frawd efo fo oedd amser Calennig. Cael ychydig o fferins hwyrach.

Sôn am yr ymladd ceiliogod. Y garreg oedd uwchben y pulpud yng nhgapel Penybryn ag adnod arni oedd y garreg lle rhoddwydd y betiau gynt. Rhai o'r ceiliogod; Tom Sawyer, Peter Jackson, Jim Molyneux, Jack Kilrayne, Dick Curtis; enwau paffwyr.

Ar nos Wener, cyn yr ymladd, torri crib yr adar a rhoi menyn gwyrdd (menyn heb halen) arnodd. Sythu'r spurs, rhwbio a ffeilio nhw yn barod i'w rhoi ar draed y ceiliogod. Llad cyw gan adael i'r gwaed redeg dros india corn. Wedi i hwnnw sychu, yna ei roi i'r ceiliogod. Cyn yr ymladd, rhoi llond llwy o methylated spirits - “Yna mi ymladda'r diawl”. Yr oedd gan bawb ei ffordd ei hun o wylltio'r ceiliogod cyn yr ymladd. Rhai yn rhoi asiffeta.

Ar Sadwrn yr oedd yr ymladd, ond weithiau ar fore Sul.

Yr oedd hen warchae wrth Barnhill Cottages ar y ffordd i Wrecsam lle oedd dynion drwg yn cael eu rhoi. Adeilad bach sgwâr o gerrig, railings haearn a giât haearn, gyda mainc carreg.

Yr oedd tri lle ar y ffordd: 1 Rhwng y Five Crosses a'r Queen's Head 2 Penygelli, lle mae'r parc chwarae rŵan. 3 Barnhill Cottages, lle'r oedd yr hen warchae.

Dyn ymhob un o'r tri lle yn malu'r cerrig yn fân i'w rhoi ar y ffordd. Yn cael cyflog gan y Cynghor Plwyf. Dau ddyn oedd yn dod â'r cerrig mewn trol i'w malu – Denbigh Slasher oedd yn byw yn y Nant, a Twm Hooson Bwlchgwyn.

Cofio Enoc a Mary Den yn byw yn eu bwthyn wrth ochr y ffordd fawr. Coed tal o gwmpas. Coed afalau gwych a'r plant yn dwyn y ffrwyth. Ond yr oedd Carrington Cross Foxes eisiau nhw allan er mwyn adeiladu tai newydd. Llwyddodd i wneud hyn ac adeiladu Westminster House a Glasgow House.

Mehefin 20 1923 oedd diwrnod mawr yn ei hanes. Yr oedd ei wraig a'i blant wedi mynd i'r Salvation Army, a fo'n barod i fynd allan i hela cwningod. Cafodd dröedigaeth. Ac am 7.25 rhoddodd ei hun i'r Arglwydd yn yr 'Hall' o flaen pawb, o flawn Gorsedd Gras, yn sefyll fel yr oedd, rhwydi mewn un boced a ffuret yn y llall.

(Nos Lun, Hydref 25, 1971) John Burton, yn Dori, o Blas Y Mwynglawdd, yn dweud y buasai'n dod trwy Coedpoeth ar amser lecsiwn. Tad Twm Penymynydd, yn Liberal, dros chwe troedfedd ac yn llew o ddyn, gyda dau arall, yn gafael yn y ddwy ferlen, eu gollwng yn rhydd tua'r Mwynglawdd, a gadael Burton yn y drol ynghanol Coedpoeth. Ni ddaeth o byth trwy'r pentref eto ond âi i Wrecsam trwy'r Talwrn; na chyfrannu yr un ddimai i unrhyw achos “Yr ochr yma i Owen y Go (5 Crosses) wedi hynny.

Adeg lecsiwn yr oedd ei dad yn gwisgo hyd yn oed y ci mewn rhuban coch ac yn cael pawb i addurno pob peth.

Yr oedd yn perthyn i gôr cyntaf eglwys Coedpoeth, a Ned Roberts oedd yn eu dysgu. Practisio un Nos Sul am hanner awr wedi pump a chymerodd yr unawd yn yr anthem. Tua chwarter i chwech dywedodd Ned Roberts yn wyllt “Oh hell, man, he didn't die here”.


Bu helynt yng Nghapel Tabernacl y Bedyddwyr yn Park Road am fod llawer eisiau bod yn geffyl blaen. Gadawodd llawer i ffurfio eglwys arall. Un ohonynt oedd Twm Snogen a foddodd yn ddiweddarach ar y Lusitania. Prynu darn o gae ar Heol Maelor gan Williams o Brymbo a gwelodd Mr Jones y dywarchen gyntaf yn cael ei thorri. Wedi gorffen y capel newydd - “Bethesda” - aeth efo'i frawd Daniel i wasanaeth yno. Yr oedd y gweinidog wrth y ffynnon, a phan aeth i weddi a throchi'r cyntaf yn y dŵr, dyma Daniel yn dweud “Tyrd o 'ma Twm Uffern, maen nhw'n boddi pobl yma”.

Yr oedd pum bachgen ac wyth geneth yn ei deulu, ac allan ohonyn nhw i gyd y fo oedd yr unig un i droi'n grefyddol; er mai fo oedd y gwaethaf o'r cwbl ar un adeg, ymladd, potsio ar Sul, ceiliogod. Ond wedi ei dröedigaeth, treuliodd dros 48 mlynedd ar y stryd efo Byddin yr Iachawdwriaeth “heb slaten wrth fy mhen”. A magodd saith o blant yn grefyddol, pob un yn dal swydd bwysig yn y Fyddin ar draws yr wlad – Cumberland, Worthing, Dartford, Portsmouth. Enwau ei plant oedd Cyril, Ann Elen, Thomas Elwyn, Elsie, Percy, Phyllis a Delfryn. Mae Ann a Delfryn wedi dod yn ôl i Goedpoeth.

Amser y Rhyfel golygu

Cofion Dewi Humphreys; cyfieithiad gan LB

1942 9 Chwefror 1942

Gadawodd Elfyn, Emlyn, Wyn, Geoff, Glyn Lewis a finnau y bws 4.30 o'r ysgol ac aethom i fyny Heol Rhosbers. Troesom i'r chwith a dylinom llwybr nes tan cyrhaeddom tŷ. Roedd y Defiant gerllaw'r tŷ wedi i'w gwneud glaniad gorfodol. Colled hanner asgell oedd cwbl y difrod. Arhosom, yn siarad wrth y milwyr oeddent i fod i'w warchod, a daethom adref erbyn dechrau'r newyddion chwech o'r gloch.

Fy rhif cofrestr genedlaethol: ZkHD/108/3.

10 Ebrill 1942

Es i ar daith gerdded i Rhos efo Bobby, Emlyn a Teg yn y p'nawn. Aethom drwy fferm a daeth at wersyllfa lle oedd gynnau a chwiloleuadau ffug. Aethom i fyny arglawdd at gronfa ddŵr, lle dywedwyd gan ddwy ferch i fynd o 'na.

16 Ebrill 1942 Es i Gaer efo maam a thad. Es i oherwydd mod i ddim wedi dysgu cân i ganu yn y capel. Tra yna, gwelais 2 Hurricane wedi eu difrodi mynd heibio ar lori. Ar y ffordd adref, aethon ni i'r sinema yn Wrecsam.

31 Mai 1942 Gwyliais ar Home Guards Brymbo yn trio meddianu Coedpoeth, ond methon nhw, er daeth llawer ohonynt trwy ein rhengoedd wrth cuddio mewn casgenni ar lori.

6 Mehefin 1942 Dw i'n meddwl welais i'r awyren isaf mod i erioed wedi gweld heddiw. Bron wedi cyffwrdd y boplysen ar waelod yr ardd. Darganfuwyd bod y peilot yn Gwyn Blackshaw.

7 Awst 1942 Gweithiais yn y gwair am y chwech diwrnod diwethaf, a ches i chwe swllt a fy nhe pob dydd.

14 Tachwedd 1942 Cafodd Uncle Haydn ei bapurau i ymuno'r NFS ym Mae Colwyn. Roedd rhaid i Mr Ivor Jones, Beehive, fynd i'r un lle.

11 Ebrill 1943 Bu farw peilot yn Nhiwnisia dydd Iau. Gwyn Blackshaw o'r Adwy oedd o.

13 Mai 1943 Sinema:- Buddigoliaeth yn yr Anialwch. Da. Am symudiad ymlaen Prydeinig o El Alamein i Dripoli.

17 Mai 1943 Dechreuodd Wythnos “Wings for Victory” yn Wrecsam a'r fro, ac es i o gwmpas y dref cyn ysgol i weld modelau o'r awyrennau.

18 Mai 1943 Daw ein cinio i'r ysgol o'r Cantîn Prydeinig mewn tuniau.

23 Mai 1943 Gwisgais fy nhrowsus hir am y tro cyntaf.

24 Mai 1943 Es i i'r sinema; “In the rear of the enemy”

28 Mai 1943 Prynais bâr o 'plimsoles' am ddau swllt.

30 Mai 1943 Gwisgais fy nhrowsus hir eto, a byddaf yn parhau i wisgo nhw.

4 Awst 1943 Aeth Eric, John Price a finnau i Barc Wrecsam i weld 'Holidays at Home'. Ar ôl tipyn o ffrae am fynd i mewn am hanner pris, aethon ni i mewn a rownd y stondinau. Triais i sawl peth, ond triodd John bopeth a gwariodd pum swllt. Doedd 'na ddim byd drwg. Roedd yn arddangosfeydd gan dynion a merched yr NFS, a rasys ac arddangosfeydd cadw'n heini. Gorffennodd wrth fynd i'r babell fawr am luniaeth.

8 Medi 1943 (Dydd Mercher) Ildiodd yr Eidal. Dywedodd glöwr ar y ffordd adref o Bantwyll.

26 Medi 1943 Dydd Sul Brwydr o Brydain. Roedd yn orymdaith ac wedyn cynhaliwyd gwasanaeth yn ein capel.

24 Tachwedd 1943 Mae llawer o ddisgyblion ac athrawon i ffwrdd o'r ysgol efo ffliw. Mae epidemig enfawr.

25 Tachwedd 1943 Gan fod 7 athro a 211 disgybl i ffwrdd, mi gawn ni wyliau yfory.

14 Chwefror 1944 Sinema: 'Life & Death of Colonel Blimp'. Roeddwn yn drysu; doedd o ddim hyd yn oed marw. Mae o'n ennill VC yn Rhyfel Boer.

22 Chwefror 1944 Cafodd ddim ond tair o grempog heddiw, ond un ohonynt efo sydd lemwn go iawn.

21 Ebrill 1944 Deunawfed pen-blwydd y Frenhines Elizabeth heddiw, pan fod hi'n dod o oedran.

1 Mai 1944 Roedd yn orymdaith fawr yng Nghoedpoeth ddoe i ddechrau ymgyrch 'Saliwtio'r Milwr'. Oedd y safle saliwtio wrth y siop Co-op.

8 Mai 1944 Targed Coedpoeth yn ymgyrch 'Saliwtio'r Milwr' oedd £5000. Cyrhaeddwyd £7630. Targed ein ysgol oedd £1000, a chyrhaeddwyd £3200.

15 Mai 1944 Boddiodd bachgen yn E.W.S yn y parc heno.

25 Mai 1944 Heddiw aethon ni i glywed Y Gerddorfa Simffoni Llundain yn y Drill Hall, Stryd Poyser, Wrecsam. Roedd hi'n rhad.

5 Mehefin 1944 Mae'r goresgyniad wedi dechrau. Y peth ydyn ni wedi aros amdano ers pedair blynedd wedi dechrau.

6 Mehefin 1944 Meddyliais i basai pawb wrth eu boddau dros y goresgyniad – gorymdeithiau yn y strydoedd ac ati, ond cymerwyd y peth yn ddigyffro, pawb yn gweddïo basai ein lluoedd yn cael cyn lleied o feirwon â phosibl.

8 Mehefin 1944 Mae 'evacuees' yn dod yma heddiw (dim i dŷ ni). Cyrhaeddon nhw'n hwyr.

31 Gorffennaf 1944 Aeth i 'Top Farm' i weithio yn y gwair. Mi ges i te a swper a phum swllt. Aeth Eric hefyd.

1 Awst 1944 Codon teisi o wair yn y sgubor heddiw; yr un tâl â ddoe.

2 Awst 1944 Heddiw crafon ni'r caeau a chodon y gwair yn y sgubor. 5 swllt oedd ein tâl eto.

3 Awst 1944 Doedd 'na ddim gwaith i ni heddiw, felly arhoson ni adref.

4 Awst 1944 Chwynnon ni'r maip heddiw; hanner coron ein tâl.

5 Awst 1944 Chwynnu oedd ein gwaith eto heddiw, ond ymysg y moron a betys y maes. Tâl 2/6.

29 Tachwedd 1944 Des i waith cartref heno. Roeddwn yn rhy hwyr i ENSA, felly es i i lawr i'r clwb.

1945 17 Chwefror 1945 Penderfynodd fy mam, tad a finnau fynd i Lerpwl heddiw, yn benodol i weld sioe.

Dalom y bws 7 o'r gloch yn y bore, a cherddom i lawr y ffordd i'w ddal, achos fel arfer mae'n llawn gweithwyr. Roedd rhaid i ni aros am amser hir, a gan fod y bore'n oer, niwlog a gwlyb, daethom yn oer yn gyflym. Sut bynnag, roedd hi'n gynnes tu mewn y bws. Ar ôl i ni gyrraedd Wrecsam, dalom y trên 7.20 o'r orsaf Ganolog L.N.E.R. Cyrhaeddom Lerpwl tua 8.45 a chawsom byrbryd yng Nghaffi Boots. Roeddent cwsmeriaid cyntaf y diwrnod, ac roedd y staff yn glanhau'r cyllyll a ffyrc ac yn syllu arnom yn chwilfrydig. Tra oedden ni yna, rhuthron nhw i'r desg yn ymyl ein bwrdd i dderbyn eu cyflog.

Ar ôl ein byrbryd bach ond boddhaol, dechreuom siopa – tasg mod i a fy nhad ddim yn mwynhau, ond mae fy mam yn ei mwynhau'n fawr iawn. Aethom i rai o'r siopau mwyaf mod i erioed wed wedi gweld, ond roedd yr un mwyaf – Lewis's – wedi ei losgi yn ystod y cyrchoedd bomio a doedd dim ond yn gragen ddu. Welsom yn un o'r siopau – T.J.Hughes – arddangosfa'r Daily Mail o fomiau hedegog. Roedd yn llawer o luniau da a chopïau o fomiau'r R.A.F,, o 250 i 1200 o bwysau, y lleill bron tair gwaith uchelder o ddyn. Wedyn aethom i ystafell arall, a gwelsom modelau o awyrennau'r R.A.F., a pheiriannau go iawn, a gynnau, o gynnau gwrth-awyrennau enfawr i beiriannau saethu bychain. Ynghanol yr ystafell oedd y bom hedegog ei hun, peiriant weddol fawr, yn edrych fel awyren, ond heb injan. Yn lle peiriant arferol, gyrrwyd gan jet-yriant. Doedd ganddo ddim cynffon dal, ond tiwb metel. Trwy'r tiwb daeth y nwy i yrru'r bom ymlaen. Roedd y bom yn ddanheddog a rhydlyd, oherwydd saethwyd o i lawr bron yn ei gyfanwaith ac wedi bod yn arddangosfeydd tebyg dros yr wlad.

Ar ôl siopa, penderfynom fynd am ginio da yng Nghaffi Cooper's. Siaradodd fy nhad efo dyn a oedd efo'i wraig wrth y bwrdd nesaf, a dywedodd wrthon fod o'n dod o Frymbo o fod o'n ei nabod o. Cawsom ginio ardderchog, dilynwyd gan hufen iâ – y cyntaf mod i wedi blasu ers sawl blynedd oherwydd cyfyngiadau'r rhyfel. Ar ôl cinio aethom ar daith fach ar wib trwy ran o Lerpwl – ar wib oherwydd dechreuodd y sioe ar hanner wedi dau. Gwelsom ardaloedd cyfan o flociau o adeiladau wedi eu gwastatau gan fomiau Almaeneg, ac eglwysi'n sefyll allan, heb eu cyffordd gan y distryw hwn. Oedd yn arwyddion ym mhobman, yn dweud bod busnesau wedi gorfod symud i rannau eraill y ddinas oherwydd gweithgareddau'r elyn. Roedd yn amlwg fod ysbryd y bobl ddim wedi dioddef oherwydd y rhyfel, achos cerddent o gwmpas yn hapus, ac roedd gan bron bob un ferch ei milwr, fel arfer yn un Americanaidd. Doedd yna ddim llawer o filwyr Prydeinig, ond cannoedd o Americanwyr. Roedd yn gannoedd o forwyr o lawer o wledydd – Prydeinig, Americanaidd, Norwyaidd, a Phwylaidd – a llawer yn Tseineaidd yng ngwisg llyngesol Prydeinig....

28 Chwefror 1945 Yn ystod yr egwyl yn yr ysgol heddiw, gofynnodd J.M.Roberts os dw i eisiau mynd efo tîm gyntaf yr ysgol, yn chwaraewr wrth gefn, i Langollen i chwarae yn erbyn tîm y Peirianyddion Brenhinol... Roedd eu llety yn dŷ mawr atafaeledig, a deimlodd i mi yn hen westy. Roedd ein ystafell newid yn y garej tu allan, a thra newid, cafodd llawer ohonom bwniad achlysurol ar bêl-ddyrnu ag oedd yno. Ymddangoswyd y garej i fod yn ystafell gampfa, achos oedd hi'n llawn matiau a pheli-ddyrnu. Aethom i'r brif ystafell yn hwyrach i chwilio am de. Aethom syth i mewn a gwnaethom daith fer adolygiad. Cafodd y milwyr hyd yn oed ystafell chwaraeon, efo bwrdd biliards llawn-faint ynddi. Methais weld yn pellach i'r ystafell, oherwydd y cymylau mwg sigarêt. Dywedwyd wrthom y gwasanaethwyd ein te yn y gegin tu alla, ac aethom yno, lle dywedwyd wrthon buasai ein te'n barod mewn tua hanner awr....

27 Mawrth 1945 Cafodd y côr cyngerdd yng Nghapel Cana, Tanyfron, heno. Cyfarfyddon ni yn yr Adwy a cherddasom dros y caeau. Ni allodd rai cyrraedd erbyn 6.15, felly archebodd Miss Hilda tacsi i ddod â nhw'n hwyrach. Roedd saith i fod i fod ynddi, ond yn y diwedd, darganfuwyd bod un deg tri wedi heidio...

Ar ôl y cyngerdd, cawsom ymborth yn ystafell ysgol i'r cefn, efo brechdanau wy go iawn a digonedd o gacenni a the. Reodden ni wedi cael pregeth oddi wrth Miss Edwards am roi cacenni yn ein pocedi fel gwnaethom ym Mylchgwyn, felly gwnaethom ymddwyn yn weddol da. Cerddasom yn ôl adref a chawsom hwyl, er gwaetha'r brithlaw.

2 Ebrill, dydd Llun y Pasg ....Dechreuon ni o'r diwedd tua 11.15, ac aethom i fyny'r Hen Ffordd i Fwlchgwyn, ond aethon ni ddim trwodd; cyrhaeddom lle dim yn bell o'r 4 Crosses. Ar y ffordd roedden ni wedi gweld sieliau'n ffrwydro a'r rhos i'r chwith, saethid gan gynnau a'r dwyn tywod, a phan edrychon ni'n ofalus, gwelsom dynion yn symud ar y twyn. Dw i'n meddwl saethon nhw fortarau, achos doedden nhw ddim yn mynd yn bell; gwelsom cymylau o lwch a fflamau dim ond hanner milltir o'r twyn. Lle arhoson ni, roedd yn dipyn o ddadl am ba ffordd ddylen ni fynd, achos roedd yn ffordd yn mynd at 4 Crosses ac yn yn cyfeirio at y rhos. O'r diwedd, dilynom y lôn ac ar ôl i ni droi gornel, gwelsom arwydd efo llythrennau cochion, yn dweud bod hi'n beryglus cyffwrdd â gwrthrychau amheus ar y llawr, achos y milwyr wedi bod yna arr gad-drefnyddion.

8 Mai Dydd Mawrth VE-Day Cawson gŵyl o'r ysgol heddiw, yn unol â'r gŵyl genedlaethol oherwydd ein buddugoliaeth yn Ewrop. Roedd y diwrnod ag arhosom arno ers Medi 1939 – pum mlynedd a hanner yn ôl – pum mlynedd a hanner o'r rhyfel gwaethaf yn hanes dynolryw – hyd yn hyn. Yr oedd cannoedd o faneri yn Wrecsam ddoe, a lot o sôn am heddwch. Ond am unwaith roedd y sôn yn gywir – basai VE Day y diwrnod dilynol. Roedd Coedpoeth yn llawn baneri – cafodd mam Jac yr undeb mawr yn hongian o'n ffenestr blaen ar bolyn lein, ond doedd hynny ddim yn effeithio yn ein ysbryd. Daeth lein o fwnting o'n ffenestr blaen i un o ffenestri'r Cross Foxes, ac oedd y Stryd Fawr i gyd yn ddisglair efo baneri. Yn dod i fyny'r bryn o Wrecsam, gwelwyd tair baner mawr hongian dros y ffordd; Prydeinig, Rwsiaidd, ac Americanaidd.

Ymddangoswyd Jaciau'r undeb a'r lliwiau coch, gwyn a glas pobman. Gwisgodd plant bach ffrogiau coch, gwyn a glas; gwisgodd pobl, hen ac ifanc, rhosglymau – unrhyw beth yn y lliwiau addas, ond y peth mwyaf pwysig, chwifiodd plant Jaciau'r undeb yn wallgof, achos oeddent yn hapus.


Ymddangosodd baneri pobman – ar geir, beiciau, pramiau, unrhyw le oedd yn bosibl ei rhoi un; ond doedd dim ots beth oedd y baner. Doeddwn i ddim adnabod llawer ohonynt ynWrecsam, yn arbennig ar Stryd yr Abad. Dw i'n meddwl y gwnaeth pobl roi cwiltiau allan; unrhyw beth i ddangos wrth bobl eraill bod nhw'n wladgarol, ac i wneud y lle yn siriol.

Er oedd pawb yn hapus iawn, daeth neb yn ein ardal yn mor wallgof â gwnaethon ym 1918 ar öl y fuddugoliaeth arall. Arhosodd pobl yn weddol synhwyrol. Doedd 'na ddim fawr o yfed – dim llawer, beth bynnag; efallai achos doedd 'na ddim llawer o gwrw, a phan oedd ar gael roedd o'n braidd yn ddrud. Doedd 'na ddim bloeddio, gorymdeithio, a phobl yn aros ar y strydoedd trwy'r nos yn canu – dim byd bebyg. Er oedd pobl yn hapus, oeddent yn ymreoli ei hunain, ac aeth llawer i weddïo.

Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch yn y bore yng Nghapel Salem ond doedd 'na ddim llawer yna, achos meddyliodd y mwyafrif a chynhalier y diwrnod dilynol. Es i i dŷ Anti Margaret efo neges, ond doedd neb gartref, a des i yn ôl a sefais efo John Pryce tu allan y capel, ac ymunwyd gan llawer arall o'r côr, ond gwasgarom cyn bo hir ac es i adref am ginio.

Yn y p'nawn glawiodd hi hen wragedd a ffin. Os bydd hon yn dywydd fuddugoliaeth, dyn o'r Isedliroedd ydw i. Roedd y strydoedd yn wag oherwydd y glaw trwm, heblaw am y grwpiau o bobl yn nrysau siopau. Roedd y tywydd yn hollol wahanol i'r diwrnod cynt, ag oedd tywydd fuddugoliaeth perffaith dros yr wlad i gyd, yn ôl y radio. Galwais i am Eric yn y p'nawn, a cyfarfûm â Geoff wrth siop Hugh Parry, a daeth Eric i lawr y lôn yn syth. Doedden ni ddim wedi penderfynu lle i fynd, ond dywedais i dylen ni fynd o' 'ma, neu basen yn cael ein trochi. Aethom i'r Rock, i drio lochesi o dan y coed, Erbyn i ni gyrraedd, roedden yn wlyb dros ben, ac aethom o dan y coed ac wedi dod yn wlypach erioed. Doedd 'na ddim pwrpas aros yno, felly aethom adref. Roedd fy mam wedi mynd i'r gwely i bendwmpian, a ches i fy nghecri gan fy nhad. Roedd fy ngwallt cyrliog wedi dod yn syth ac yn wastad ar fy mhen achos oedd o mor wlyb. Roedd fy nhad mewn hwyliau mor ddrwg, meddyliais buasai o ddim yn fy nghaniatáu mod i'n mynd allan, ond yn ffodus, dywedodd o ddim byd.

Roedd i fod yn fath o arddangosfa tan gwyllt gan Gorfflu'r Gwylwyr Brenhinol, yn tannu rocedi a ffaglau. Yn wreiddiol, basen nhw wedi cael eu defnyddio fel rhybudd bod lluoedd y gelyn yn glanio yn ôl yn 1940-41, ond yn ffodus doedd ddim wedi bod angen. Erbyn pedwar, roedd y cymylau wedi clirio, a roedd hi'n anarferol o braf. Es i allan am bump, a chyfarfûm aelodau'r côr wrth y Cross Foxes. Tra siaradom, daeth y band, a chwaraeodd gerddoriaeth gwladgarol. Roedd llawer o bobl wedi ymgasglu, yn ystyried maent o Goedpoeth, yn ymylu'r palmentydd, neb yn gwisgo côt, ac yn ymddangos ffrogiau lliwgar.

Roedd yn ymarfer côr yn yr ysgol gynradd am 7yh, achos roedden ni i fod i ganu caneuon addas a'r Rock, rhwng tanio'r ffaglau. Parhaodd yr ymarfer am ddim ond awr, a gwnaethon ni – neu nhw – ddawnsio a chwarae gemau am dri chwarter awr; Fedra i ddim – a dw ddim eisiau – dawnsio. Roedd gan bawb hwyl, dw i'n gwybod. Doedd y mwyafrif ddim eisiau mynd adref, a basen yn well aros yna, dawnsio tan oedd hi'n amser mynd i'r Rock. Ond doedd Miss Edwards ddim yn caniatáu hynny.

Aethom adref i wrando ar Mr Churchill siarad a'r radio, cyn y newyddion naw o'r gloch, cyhoeddi'n swyddogol bod y rhyfel yn Ewrop ar ben. Wedyn, ar ôl swper, es i allan a chyfarfûm â'r côr yn Ffordd Penygelli. Arhosom yno am sbel, a gan fod hi'n debyg o lawio eto, es i adref i nôl clogyn fy mam, achos dydy o ddim yn rhy drwm ond yn rhoi lloches da. Tra mynd ar hyd Ffordd Penygelli at y Rock, gwelsom a chlywsom y rocedi, a rhedom yna.

Roedd yn tywyllu erbyn hyn, ond gwelais y Rock i gyd yn y gyfnos, a channoedd o bobl yn sefyll ar y maes pêl-droed., a rhai'n sefyll a'r Rock, yn edrych i lawr a'r cae. Ar ôl taniwyd sawl ffagl, canodd y côr 'There'll always be an England'. Wedyn mwy o ffaglau, wedyn 'Rule Britannia', wedyn mwy o ffaglau a chanom chorale, ac wedyn y ffaglau olaf. Tanient efo cymylau cochlyd o fwg, yn drifftio at y pentref ei hun.

Pan dannir y ffaglau, aeth y côr yn wallgof, a bloeddiasant. Ynghanol y bloedd olaf, rhoesant deirbloedd i'r R.O.C. Ac arweiniodd fy nhad y bloeddi, er fod o'n Brif Gwyliwr – dim yn gynnil o gwbl, meddyliais, a ches fy embaras.

Roedd yn goelcerth enfawr ym Mharc Wrecsam gyda'r nos, ac aeth mwyafrif y côr i'w weld. Gofynnais i fy nhad a mam am ganiatâd a dywedon nhw ddylwn i fynd am dro, ar yr amod mod i ddim yn mynd i Wrecsam a mod i'n dod adref ar amser rhesymol. Caethom lot o hwyl tra cherdded yn araf i lawr. Cyfarfuasom sawl dyn wedi meddwi yn cerdded i fyny o'r dref, a chawsom hwyl ar eu pennau nhw; doedden nhw ddim yn mwynhau hynny.

Ar ôl pasio Bottom Lodge, penderfynais i i droi'n ôl ac yn mynd adref. Llawer eraill wedi troi'n ôl efo fi, a chawsom lot o hwyl ar y ffordd adref. Tra dychwelyd, roedd yn cawod ysgafn o law, a roeddwn hapus mod i wedi ddod â'r clogyn.

Aeth tua chwech ohonyn o dano fo. Hanner ffordd i fyny Pwll y go, eisteddom ar wal ar ochr y ffordd, gan fod ni mor flinedig Doedd Eric a finnau ddim eisiau mynd adref achos meddyliom bon ni'n cael cweir oddi wrth ein mamau.

Sut bynnag, pan gyrhaeddais adref am 11.45, ces i gyfarchiad cynnes, i fy mawr syndod, ond clywais bod gan Eric cystwyad ofnadwy.

Felly gorffennodd Diwrnod VE i mi. Ces i amser gwych, ond tra gorwedd yn fy ngwely, yn meddwl am y diwrnod, roedd rhaid i mi feddwl am y miloedd o fywydau wedi colli er mwyn rhoi diwrnod mor hapus i ni.

Dydd Marcher 9fed Mai

Heddiw, ymgasglwyd y côr yn ymyl y Llew Coch, yn disgwyl am fws Johnson's i fynd â'n nhw i'r ysbyty Americanaidd yn Eglwys Wen i ddiddanu'r milwyr. Cyfarfyddon ni am 6, ond roedd y mwyafrif yna erbyn 5.30, y meddyliais yn arwydd da o frwdrydedd mawr. Roedd pawb yna mewn da bryd, heblaw am Sylvia, ag oeddem i fod i gyfarfod yn Stryd Fawr Wrecsam. Roedd y côr yn fywiog ac yn ddoniol a swnllyd, ond doedd y gyrrwr a'i wraig ag eisteddodd efo ni, ddim yn poeni. Pan gyrhaeddom Wrecsam doedd na ddim arlliw o Sylvia yn aros yna amdanom, felly arhosom am tua chwarter awr, yn canu'n frwd, a gwnaeth dorfeydd ymgasglu i'n gwrando arnom, ond poenodd Miss Edwards. Ni chyrhaeddodd Sylvia, felly aethon ni hebddi.

Ar ôl siwrnai braidd yn hir, yn cynnwys croesi'r ffin i Loegr, cyrhaeddom y wersyllfa. Ar ôl aros tu allan am tua phum munud, dywedir atom bod neb yn disgwyl parti'n cyrraedd, ond y buasai'r milwyr hapus i wrando arnom. Roedd y côr y siomedig, yn arbennig Miss Edwards. Ond aethom tu mewn i'r wersyllfa, a gwelwn pa mor fawr oedd y lle. Rhannwyd mewn adrannau gwahanol, ac oedd y gwardiau ar wahan ac mewn cytiau bach. Roedd pob gward am fath gwahanol o anafiad – rhai am freichiau, rhai am goesau, a rhai am y corff. Doedden nhw ddim yn hollol ar wahan, gan oedd yn llwybr concrid cul neu goridor rhyngddynt. Cafodd y coridorau doi, ategir gan bileri.

Mewn rhai wardiau, fel dywedais, triniwyd anafiadau i goesau, a chawsom adwaith da gan y milwyr a'r nyrsys. Ond yng Ngwardiau ar gyfer coesau, na fedrent ddangos eu gwerthfawrogiad wrth guro dwylo, ond gweiddont a gofynnont am fwy. Yng gwardiau ar gyfer y corff roedd hi'n bron amhosib iddynt symud a chafodd bron popeth ei wneud ar eu cyfer nhw.

Roedd gwelyau yr achosion braich a chorff yn arferol, ond roedd gwelyau'r achosion coes yn llawn pwysiau a phwlïau i godi'r coesau. Defnyddiwyd bagiau bach fel pwysau. Tra siarad efo un Americanwr, fel dywedon ym mhob gward, cyffyrddais i fag a gofynnais “be' sy tu mewn?” Cyn gynted a chyffyrddais i'r bag, neidiodd o a dywedodd “Paid a chyffwrdd y bag hwnna. Achos taset ti wedi ei godi, buasai fy nghoes yn syrthio'n drwm.” Dywedodd a ddefnyddir peledi plwm i fod yn bwysau.

Roedd yn anhygoel gweld yr holl bobl o genhedloedd gwahanol yn yr ysbyty – Americanwyr go iawn, negroaid, hyd yn oed Tseineaid, a ni Prydeinwyr. Roedd hefyd yn amrywiaeth o ddynion. Ymddangosodd rhai yn swil, eraill yn dawel ond edrych yn galed, roedd yn negroaid efo gwar praff, a syllodd yn wgus atom, ac oedd y Tseineaid i gyd braidd yn dawel.

Canon ni yn y gwardiau i gyd, a siaradon ni â'r milwyr i gyd, a heblaw am eu hacennau gwahanol a ffordd o siarad, roedden ni'n iawn efo nhw. Siaradant am eu profiadau yn y rhyfel, a dw i'n meddwl cafodd rhai ohonynt eu hanafu yn yr un sgarmes, achos busai un yn dweud “Dywedais i ddylet ti ddim wedi mynd i'r goedwig honno, Texas, achos cefaist ti dy saethu yno, yn syth ar ôl i mi gael fy saethu.” Siaradodd yr Americanwyr o brydferthwch Lloegr, a'r lletygarwch a gawsent, ond roedd mwyafrif eu sgwrs am eu cartrefi yn America, ac yn annisgwyl, meddyliais i am y fath yma o ddynion mawr a chryf, am eu mamau.

Roedd rhai wedi gorwedd yn eu gwelyau am dua 6 mis, rhai eraill am efallai wythnos.Disgwylodd rhai am fynd adref cyn bo hir, a roedd rhaid i rai ohonynt yn aros yn yr ysbyty am fisoedd i ddod.

Ar ôl i ni fynd i'r gwardiau i gyd, gwahoddwyd i'r ystafell Croes Coch, lle cawsom baned o goco a darnau mawr o gacen, a chawsom fwyta cymaint a hoffem, ond rheolasom ein bolau. Tra bwyta, roedd hi'n bosib chwarae snwcer neu dennis bwrdd, neu ddarllen y llyfrau bach yn y llyfrgelloedd miniatur yno, neu syddo'n isel yn y cadeiriau breichiau niferus. Y peth a ddysgodd pawb o'r Americanwyr tra chwarae snwcer oedd bod y bêl binc i fod i fynd ynghanol y peli cochion, ac un o'r cochion lle buasen ni'n rhoi y pinc.

Dw i'n meddwl bod y côr i gyd, gan gynnwys Miss Edwards, wedi mwynhau pob munud y noswaith, ac yr oedd lletygarwch yr Americanwyr yn glodfawr tu hwnt. Ar ôl dweud Hwyl Fawr a Diolch, aethom adref yn y bws, lle cawsom lot o hwyl. Roedd Stryd Fawr Wrecsam o dan ei sang, yn dal i ddathlu Diwrnod VE – dawnsiant yn y stryd i ddau accordian. Cyrhaeddom adref tua 11.30 yh.

9 Mehefin 1945

Daeth Wyn, fy ewythr ifanc, adref ar seibiant o'r Almaen, yn gynnar y bore 'ma. Mae o'n gweithio efo staff daear yr RAF. Y tro diwethaf daeth o'n ôl ar seibiant, daeth â ni lawer o gofroddion ac anhregion, gan gynnwys hen helm dur Almaenig i mi, a gafodd twll bwled yn mynd i mewn un ochr a tu allan o'r llall. Cafodd ei gyfarch gan bawb, a dywedodd bron pawb wrtho pa mor dda edrychodd o.

Hefyd yr wythnos 'ma, daeth dyn lleol, efo cyfenw T----, ac ei deulu'n byw yn nhŷ cyngor Bryn Offa, adref o'r Almaen ar ôl iddo fod yn garcharor i'r Almaenwyr dros pum mlynedd. Yn ystod ei garchariad, ni chafodd o lot o gwrw, felly mae o wedi gwirioni drosto, ac wedi bod yn feddw'n aml.

Roedd heno un o'i nosweithiau meddw. Gadawodd y Royal Oak, ar draws y ffordd tra oedd y tafarn yn cau ac o'n i'n sefyll ar y stryd. Daeth o allan efo'i frawd ac roedd y ddau ohonynt yn feddw; y milwr yn feddwi'n llwyr. Dadleuon nhw am ferch bod y ddau eisiau, ac o'r diwedd daeth yn frwydr rhyngddynt.

Gwahanwyd gan feddwon eraill, ond rodd rhaid i dua chwech ohonynt yn dal J----, y milwr. Roedd hi'n anodd i hyd yn oed chwech ei ddal, achos oedd o fel ci cynddaredd ar dennyn, yn tynnu a thrio dianc. Yn y cyfamser, gwnaeth ei frawd ei ddaroswng efo gwawdiau a geiriau dirmygedig am wersylloedd Almaeneg. Yn holl flinedig gan ei ymdrechion, rhodd ei ben ar ysgwydd ei frawd ac wylodd y ddau fel babanod, ac wedyn llewygodd J---- ac roedd rhaid ei ail-ddeffro gan ei guro dros ei wyneb. Cariwyd adref. Yn ystod popeth, doedd 'na ddim arlliw o blismyn, ond ymhen chwarter awr roedd y ddau ohonynt, a sarjent o Frymbo, yn cerdded i lawr y stryd.

5 Gorffennaf 1945

Pleidleisiodd y mwyafrif yr wlad heddiw; Yr oedd yr etholiad cyffredinol cyntaf am bron 10 mlynedd. Roedd yr un plaid wedi bod mewn grym am gymaint o amser achos bod y rhyfel wedi torri ar draws, felly ni chynaliasid etholiad. Yn ystod yr amser hyn, mae pobl wedi blino'r Blaid Geidwadol – y Toriaid rhonc – a basai'n well ganddynt y Blaid Lafur.

Yng Nghoedpoeth, fel pobman arall, daeth gwleidyddiaeth y pwnc llosg. Dadleuodd hen ddynion ar gorneli, eraill ar ei ffordd i'r gwaith, dywedodd merched i'w gilydd mewn ciwiau i ba blaid eu gŵyr wedi ymaelodi, a buasai hyd yn oed plant bach yn gofyn i'w gilydd “be' wyt ti?”

Roedd fy nhaid yn Rhyddfrydol, fy nhad yn Llafur, ond dim yn radical fel oedd rhai eraill y buasai mynd yn wallgof efo pobl eraill oedden yn aelodau rhyw blaid arall. Dw i ddim yn siwr os oedd fy mam yn Geidwadol neu Ryddfrydol, ond dw'n cofio'r dadlau ffrwd dros y bwrdd.

Roedd yn ddynion Llafur go iawn yng Nghoedpoeth, ond dilynodd eraill y mwyafrif. Tasai gen i bleidlais, buaswn i'n bleidleisio'n rhyddfrydol, ond mae'r ornest rhwng y Ceidwadwyr a Llafur.

Canlyniad yr Etholiad: mwyafrif enfawr yn genedlaethol; Tirlithriad.

14 Awst 1945

Daeth yr Ail Ryfel Byd i ben heno. Roeddwn yn cysgu pan ddeffrowyd gan clychau, hwteri a thân gwyllt Daeth Eric i alw amdanaf, ac es i allan i'r dorf, gwisgo dim ond trowsus, fest, siaced a sliperi. Roedd pawb yn gweiddi, canu, ac yn orfoleddus. Ond yma ac acw, ymgasglodd grwpiau, canu'n drefnus, wedyn gorymdeithiodd pawb fel defaid i'n capel, lle cynhaliwyd gwasanaeth ysgogol, a chanwyd y Corws Haleliwia ar yr organ. Cynhaliwyd y gwasanaeth tua dau o'r gloch y bore, a roedd pawb yn hanner gwisg – pawb, heblaw am y Parch Môn Jones, ag oedd yn dderbyniol o leiaf. Gwisgodd rhai yn ei byjamas efo côt drostynt, tra oedd rhai wedi gadael eu dannedd adref. Ond yr oedd yn wasanaeth gwefreiddiol er gwaethaf popeth, a chefais teimlad rhyfedd yn fy mol.

1946

11Chwefror 1946

dosbarthwyd coco yn yr ysgol heddiw. Rhowyd hanner pwys i bawb sy eisiau, ond wnes i ddim. Ein dogn o rodd Canada i Brydain ydy o.

25 Chwefror 1946 Es i efo Moira heno i Neuadd y Pentre, i gyngerdd gan Madame Beattie Jones a'i pharti. Yr oedd yr un olaf y Cyngherddau Cysuron; mae'r lles ohonynt yn talu am gysuron i'r lluoedd ac anrhegion croeso adref. Roedd y cyngerdd i fod yn ddiweddglo mawr...

14 Mawrth 1946 Yn ymarfer côr heno, cafodd pawb bapurau i fynd o gwmpas yn casglu at gronfa Croeso Adref. Ei henw y tro yma yw 'Milltir o Geiniogau' Os cwblheir hyn, ychwanegir £209.50 i'r cronfa.

7 Mehefin 1946 Gyda'r nos roedd yn dderbyniad dinesig i'r milwyr dadfyddinedig yn Neuadd y Plwyf. 3 côr, y band ac adroddiad oedd ar y rhaglen. Rhoddodd Mr H Ellis Hughes yn araith fendigedig.

8 Mehefin 1946 Addawyd tywydd braf heddiw, a disgwylodd pawb gwŷl wych, ond pan effrois yn y bore oedd hi'n bwrw glaw'n ddrwm ac oedd yn niwl trwchus. Cliriodd yn hwyrach yn y bore, ac es i efo Moira ac ei frawd Percy, ar seibiant o'r fyddin, i Gapel Salem ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch. Doedd o ddim mor lawn a ddisgwylais.

Ar 4.30 roedd i fod i orymdaith go fawr o gyn-filwyr ac aelodau'r amddiffyn gwladol. Erbyn 4, roedd hi'n bwrw eto a gwlychwyd y dorf fechan. Erbyn 5, roedd y mwyafrif wedi mynd adref, ond clywsom y band yn dechrau chwarae, ac aeth dad a finnau i fyny'r grisiau i weld yr orymdaith. Roedd yn sioc gweld ei faint; roedd tua 50 o gyn-filwyr a 25 o'r amddiffyn gwladol. Gwisgodd pawb yn eu dillad eu hun, a gwisgodd y mwyafrif cotiau, er bod hi wedi stopio glawio. Roedd yn dipyn o fethiant.

Aeth yr orymdaith i'r Rock, lle trefnasid chwaraeon, ond canslwyd. Chwaraeodd y band sawl darn, wedyn cyhoeddodd H Ellis Hughes bod bwyd dros ben o amrywiol bartïoedd ar gael i fwyta yn yr Adwy. Bron cyn iddo orffen siarad, carlamodd hugeiniau o blant o'r Rock i gael parti ychwanegol. Wedyn gadawodd y band yn fuan.

Gyda'r nos es i efo Moira i'r sinema i weld 'Bring on the Girls'. Roedd y tywydd yn braf a'r awyr ffres pan ddaethom yn ôl allan. Es i adref am swper ac oedd Nain Talwrn a Baertha yna.

Wedi swper, cyfarfûm â Moira ar waelod Bryn Tabor ac aethom i'r arddangosfa tân gwyllt a choelcerth ar y Rock. A sut arddangosfa oedd hi! Ar òl pum munud o dân gwyllt arferol, tannwyd bocs £25 o dân gwyllt gan wreichionen. Hedfanodd rocedi, bron yn taro pobl, ac oedd tân o goleuon llachar. Tra chilio o'r fflamau, syrthiodd sawl a chafodd eu sathru. Chafodd neb ei brifo'n wael. Wedyn enynnwyd y coelcerth, a chawsom amser da canu a dawnsio o'i gwmpas. Es i â Moira adref, a chyraeddais i adref tua 1.30yb.