Defnyddiwr:Rhyswynne/Fy Nghymru i

Rhyswynne/Fy Nghymru i


Cyfrol o ysgrifau am Gymru a Chymerictod ydy Fy Nghymru i, a olygwyd gan R. Gerallt Jones ac a gyhoeddwyd gan Gwasg Gee ym 1961. Mae'n cynnwys ysgrifau byrion gan 12 o Gymry Cymraeg ifanc y cyfnod (cyfartaledd oedran oedd 30), ac mae sawl un wedi dod yn ffigyrau cyhoeddus amlwg mewn gwahanol feysydd. Isbennawd y gyfrol ydy: "Nifer o agweddau personol ar Gymru a Chymreigrwydd hanner ffordd dryw'r ugeinfed ganrif".

Y cyfranwyr

golygu
  • Sylfeini Cenedl, Gwilym Prys Davies (35 oed ar y pryd)
  • Cymru'r Gweinidog, Meirion Lloyd Davies (30 oed)
  • Y Rhaid Sydd Arnaf, Islwyn Ffowc Elis (36 oed)
  • Profiad Offeiriad, Norman Hughes (35)
  • Pedair Milltir, Bobi Jones (31 oed)
  • O Arfon i Loegr i Fôn, R Gerallt Jones (27 oed)
  • Nyni Oedd i Amddiffyn, Dewi M. Lloyd (31 oed)
  • 'Gobeithiaw A Ddaw Ydd Wyf...', Eigra Lewis (22 oed)
  • Tystiolaeth Y Ddafad Ddu, E. G. Millward (31 oed)
  • Cymru A'r Gwyddonydd, Glyn O. Phillips (33 oed)
  • Cymru Gymraeg A'r Gwleidydd, Emrys Roberts (29 oed)
  • Cymru A'r Celfyddydau, John Rowlands (23 oed)