Defnyddiwr:Rhyswynne/eisteddfod
2011
golyguGigs CYIG
golyguY cymro, 13 Mai 2011, Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith Mae'r gigs – a gynhelir ym mhrif glwb nos y gogledd, yr Orsaf Ganolog - yn dechrau ar Nos Sul gyda'r ffilm 'Separado!' a pherfformiad gan un o sêr ffilm Gruff Rhys, Rene Griffiths o Batagonia. Fe fydd criw rhaglen boblogaidd Ddoe am Ddeg yn arwain sesiwn gomedi ar nos Lun, gyda band lleol Dr Hywel Ffiaidd yn perfformio hefyd.
Fe fydd gan gigs y Gymdeithas flas gwleidyddol: ar nos Fawrth bydd Bryn Fôn a'r Band yn perfformio ar noson i godi ymwybyddiaeth o'r bygythiad i gymunedau Cymraeg. Fe fydd Mici Plwm yn cyflwyno 50 mlynedd o ganu roc dros y Gymraeg mewn cân a ffilm gyda Maffia Mr Huws, Heather Jones a Gai Toms ar y nos Fercher. Fe fydd nos Iau yn noson 'gwrthwynebu'r toriadau' gyda Mr Huw, Twmffat, Llwybr Llaethog, Crash Disco!, Dau Cefn a Llyr PSI yn chwarae.
Fe fydd Meic Stevens a'i fand, sydd yn teithio yn ôl o Ganada, yn brif atyniad y gig heddwch i gofio Hiroshima ar y Nos Wener gyda chefnogaeth Tecwyn Ifan, Gwilym Morys a Lleuwen Steffan. Yn cloi'r wythnos ar y nos Sadwrn bydd Bob Delyn a Geraint Lovgreen. Bydd yn noson unigryw - am y tro cyntaf mewn Eisteddfod fe fydd celf ymladd Kung-Fu a Taw-Kwondo yn ogystal â'r band lleol Mother of 6.
2017
golyguGwybodaeth o ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2017
2017 | 2016 | |
---|---|---|
Y Cronfeydd Lleol a Chyffredinol | 289k | 520k |
Ymddiriedolaeth Edwin Griffiths, UDA | 164k | 164k |
Rhoddion trwy ewyllys | 14k | 88k |
Awdurdodau a chynghorau Lleol | 345k | 346k |
Llywodraeth Cymru - Grant craidd | 589k | 599k |
Llywodraeth Cymru (cyfuniad o rai amrywiol) | 54k | 25k |
Cyngor Celfyddydau Cymru | 54k | 69k |
Cronfa leol
golyguRhoddwyd targed uchelgeisiol o £325,000 i drigolion Mon.
Adnodd cyfeilio ar-leiɲ
golyguAm y tro cyntaf eleni, roedd modd gwrando ar gyfeiliannau ar gyfer y darnau gosod ar wefan yr Eisteddfod. R
Cyngherddau y Pafiliwn
golyguNos Wener 4 Awst: A Oes Heddwch? Gan gymryd hanes enillydd y Gadair Ddu, Hedd Wyn, fel ysbrydoliaeth, dyma stori'r bechgyn a acth i'r rhyfel ganrif yn ol a'r gymuned a adawyd ar ol yma yng Nghymru. Nos Sadwrn 5 Awst: Gwyn Hughes Jones Cyfle i glywed hen ffefrynnau ac ambell gan newydd, yng nghwmni Gwyn a'r unawdwyr ifanc, Steffan Lloyd Owen, Meilir Jones, Llio Evans a Meinir Wyn Roberts. Gydag Iwan Llewelyn-Jones ar y piano ac Ensemble Siambr Rhys Taylor. Nos Sul 6 Awst: Cymanfa Ganu Mari Lloyd Pritchard yn arwain, gyda Seindorf Biwmares a'u harweinydd, Gwyn Evans yn cyfeilio. Yr organydd oedd Gres Pritchard. Nos Lun 7 Awst: Noson Lawen Ynys Mon Dilwyn Morgan yn cyflwyno Elin Fflur, Cor Glanaethwy, Eilir Jones, Wil Tan, Trio, Y Tri Trwmpedwr (Gwyn Evans, Gwyn Owen a Cai Isfryn), Bach a Mawr ac Edern. Nos Fawrth 8 Awst: Hynna Be Dl 0 - Y Sioe Lwyfan Criw Tudur Owen yn dod ynghyd gyda llond carafan o westeion wedi'u trefnu gan Manon, llond adlen o gerddorion wedi'u dewis gan Dyl Mei a digon o chwerthin gan Tudur i lenwi Elsan. Mymryn bach o sylwedd, fawr ddim swmp ond llond lie o hwyl - Hynna Be 'Di o! Nos Zau 10 Awst: Gig y Pafiliwn Huw Stephens yn cyflwyno Yws Gwynedd, Yr Eira, Alys Williams a Mr Phormula gyda Cherddorfa'r Welsh Pops Orchestra.
Maes ʙ
golyguMaes B Torrodd Maes B Eisteddfod Ynys Mon bob record, gyda bron i 13,000 o bobl yn dod i'r wyl eleni. Roedd mwy nag erioed hefyd wedi prynu tocynnau ymlaen llaw fel rhan o'r cynllun bargen gynnar, gan atgyfnerthu llwyddiant y cynllun hwnnw ar draws pob cwmpas oedran. Golygodd y llwyddiant hwn ein bod ni wedi gorfod archebu strwythur mwy eleni er mwyn sicrhau bod lie i bawb yn y gigs gyda'r nos, ac erbyn diwedd yr wythnos roedd yn amlwg y byddai wedi bod yn fanteisiol cael ardal fwy ar gyfer y bar ynghyd a rhagor o staff hefyd. Chwaraeodd cyfryngau cymdeithasol ran flaenllaw yn y llwyddiant hwn, ynghyd a brand trawiadol a lliwgar. Roedd hi'n ugain mlynedd ers cynnal Maes l3 am y tro cyntaf yn Eisteddfod 1997 yn Y Bala ac yn hanner can mlynedd ers record eiconig Y Blew, Maes B, nol yn 1967, ac roedd y brand yn ddathliad o'r ddau beth yma mewn ffordd gyfoes a deniadol.
2019
golyguGwybodaeth o ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2019
Caed Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am y tro cyntaf eleni yn hytrach na’r pafiliwn arferol ac ychwanegwyd Pentref Plant i’r arlwy wnaeth yn sicr daro deuddeg.
2019 | 2018 | |
---|---|---|
Y Cronfeydd Lleol a Chyffredinol | 507k | 442k |
Ymddiriedolaeth Edwin Griffiths, UDA | 193k | 163k |
Rhoddion trwy ewyllys | 374k | 77k |
Awdurdodau a chynghorau Lleol | 345k | 345k |
Llywodraeth Cymru - Grant craidd | 603k | 603k |
Llywodraeth Cymru (cyfuniad o rai amrywiol) | 473k | 221k |
Cyngor Celfyddydau Cymru | 75k | 81k |
Cronfa leol
golyguRhoddwyd targed uchelgeisiol o £320,000 i’r gronfa leol ond llwyddwyd i godi ymhellach dros hynny a chyrraedd £401,000.
Cyngherddau y Pafiliwn
golyguCynhaliwyd cyfres o gyngherddau yn y Pafiliwn gyda’r nos ac am y tro cyntaf cynhaliwyd y gyngerdd agoriadol dros ddwy noson: Nos Wener a Sadwrn 2 a 3 Awst: Tylwyth Sioe wreiddiol llawn caneuon, straeon a champau acrobatig i'r teulu cyfan gan Myrddin ap Dafydd, Gwyneth Glyn a Twm Morys, gyda chwmni syrcas Fidget Feet. Nos Sul 4 Awst: Cymanfa Ganu Trystan Lewis yn arwain y noson gyda Huw Tregelles Williams ar yr organ. Nos Lun 5 Awst: Noson Lawen Aled Hughes yn cyflwyno Tara Bethan, Gildas, Eilir Jones, John Ieuan Jones a Ryan Vaughan Davies, Ceri Haf Roberts, Erin Gwyn Rossington, Sara Davies, Siriol Elin a Ruth Erin Roberts, CoRwst a Chôr Bro Cernyw, Côr Canwy a Chôr CantiLena, Hogie'r Berfeddwlad, Catrin Angharad Jones, Esyllt Tudur a Dylan Cernyw, ac Ilid Llwyd Jones Nos Fawrth 6 Awst: Te yn y Grug Cyfanwaith cerddorol a geiriol sydd wedi'i ysbrydoli gan un o weithiau llenyddol mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg, Te yn y Grug, gan Kate Roberts. Perfformiad gyda Chôr yr Eisteddfod. Nos Iau 8 Awst: Gig y Pafiliwn Diffiniad, Eden, Lleden, Huw Stephens Cerddorfa Welsh Pops Orchestra.
2022
golyguGigs CYIG
golyguhttps://calendr.360.cymru/calendr/2022/candelas-twmffat-mali-morgan-elwy/ Gigs Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Tregaron Clwb Rygbi Tregaroon, Tregaron 19:00, 30 Gorffennaf 2022 – 6 Awst 2022
Sadwrn Gorffennaf 30
Candelas
Twmffat
Mali Haf
Morgan Elwy
Sul Gorffennaf 31 Julie Murphy (gyda Ceri Rhys Matthews) Gwilym Bowen Rhys (gyda Gwen Màiri a Patrick Rimes) Cynefin Mari Mathias
Llun Awst 1 Bwncath Tant Bwca Eve Goodman
Mawrth Awst 2
Bragdy’r Beirdd a Cicio’r Bar yn cyflwyno YN Y GORS dan arweiniad Ifor ap Glyn
Mercher Awst 3 Adwaith HMS Morris Bitw Elis Derby
Iau Awst 4 The Joy Formidable Los Blancos Pys Melyn Eadyth
Gwener Awst 5 Mr Ynys Hap a Damwain Pasta Hull
Sadwrn Awst 6 Breichiau Hir Mei Gwynedd Clustiau Cwn Dienw
2023
golyguCronfa leol
golyguCronfa Leol Eisteddfod 2023 yn Pasio Hanner Miliwn 5 Awst 2023 (cyrchwyd 15.8.23) Wrth lansio Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn swyddogol o lwyfan y Pafiliwn Mawr, cyhoeddodd Llywydd yr Ŵyl, Liz Saville Roberts AS bod y gronfa leol wedi pasio hanner miliwn, a hynny am y tro cyntaf erioed Ar fore cyntaf yr Eisteddfod, roedd cyfanswm y gronfa wedi cyrraedd £503,610, gyda chymunedau ar draws Llŷn, Eifionydd ac Arfon wedi cyfrannu miloedd o bunnoedd drwy gynnal digwyddiadau a gweithgareddau, noddi gwobrau a thrwy godi ymwybyddiaeth lleol am yr ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf.
Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, “Bedair blynedd yn ôl, fe gawson ni darged ariannol uchelgeisiol o £400,000 ar ddechrau’r prosiect. Ac yna daeth COVID, gyda’r targed yn ymddangos yn bell o’i gyrraedd.
“Does gen i ddim byd ond parch ac edmygedd at ein holl wirfoddolwyr – o Abergwyngregyn i Aberdaron ac o Benrhyndeudraeth i Bontnewydd – am eu holl waith, eu hymroddiad a’u brwdfrydedd, Roedden nhw’n benderfynol o gyrraedd y targed, ac fe ail-ddechreuodd y gweithgareddau i gyd ar ôl COVID.
“Rydw i’n grediniol fod y targed ac awydd ein trigolion lleol ar draws y dalgylch i gefnogi’r Eisteddfod wedi helpu i ail-agor Llŷn, Eifionydd ac Arfon yn dilyn y pandemig. Fe ddaeth pobl yn ôl at ei gilydd. Fe ail-ddechreuodd y cymdeithasu ac fe lifodd yr arian i mewn i goffrau ein gŵyl.
“Felly heddiw, mae’n bleser cyhoeddi ein cyfanswm - hyd yn hyn. Ac mae’r arian yn dal i’n cyrraedd bron yn ddyddiol. A galla i ddim ond diolch i bob un o’n gwirfoddolwyr, pawb sydd wedi trefnu neu ddod i ddigwyddiad - ac yn fwyaf oll i’n Pwyllgor Cronfa Leol, a Dafydd Rhun y cadeirydd am ein harwain at y fath lwyddiant. Diolch o galon i bawb.”
Lleoliad gigs y Gymdeithas eleni fydd Gwesty’r Nanhoron yn Nefyn, ac maen nhw wedi brandio’r gigs wythnos fel ‘Gigs Cae yn Nefyn’, gan gyfeirio nôl at gân boblogaidd y grŵp Anweledig, a’r ŵyl o’r un enw a gynhaliwyd yno am rai blynyddoedd tua throad y Mileniwm.
Bydd y Gymdeithas yn cynnal gigs bob nos yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan ddechrau ar nos Sadwrn 5 Awst pan fydd Chroma yn brif atyniad gyda chefnogaeth gan Ffenest, Hap a Damwain a Bookhouse.
HMS Morris fydd prif artist nos Sul gyda chefnogaeth gan Ani Glass, Crinc a Mr Phormula.
Bydd blas lleol iawn i nos Lun gyda’r ffefrynnau o Lŷn, Cowbois Rhos Botwnnog , yn hedleinio a chefnogaeth gan Plu, Tant a Tegid Rhys.
Barddoniaeth fydd yr arlwy ar y nos Fawrth gyda chriw Bragdy’r Beirdd yn cynnal ‘Parti ar y Pafin’, sydd eto’n gyfeiriad at y gân Anweledig.
Mae nos Fercher yn addo bod yn dipyn o barti hefyd gydag un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, Bwncath, yn cloi’r noson gyda chefnogaeth gan Twmffat, sef y band sy’n cael eu harwain gan brif ganwr Anweledig, Ceri Cunnington.
Roedd denu The Joy Formidable, band sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol ers sawl blwyddyn, i berfformio yn eu gigs yn Eisteddfod Tregaron llynedd yn dipyn o sgŵp i’r Gymdeithas. Bydd y band roc, a ddaw yn wreiddiol o’r Wyddgrug, yn ôl ar y nos Iau eleni ac yn arwain noson sydd hefyd yn cynnwys Papur Wal, Pys Melyn a Mali Hâf.
Bydd tipyn o gyffro am gig nos Wener hefyd wrth i brosiect diweddaraf Mark Roberts, MR, berfformio gyda chefnogaeth gan Los Blancos, Maes Parcio a’r band o Lŷn a ffurfiodd yn y 90au, Nar, wneud comeback.
Bob Delyn ar Ebillion fydd yn cloi’r wythnos yn eu ffordd ddihafal, gyda chefnogaeth gref gan Gai Toms a’r Band, Estella a’r band ifanc, Mynadd.
Wythnos gymysg i fusnesau bro’r Eisteddfod
Elin Wyn Owen 15/8/23