Defnyddiwr:Xxglennxx/Gramadeg

Helo chi'r ddau. Iawn, dim problem. Ond, gan edrych ar y cywiriadau wedi'u gwneud gan Sanddef, dwi'n drysu,
  • Pam ydy'n "rhaid fydd crynhoi yma" yn lle "rhaid bydd crynhoi yma", oherwydd dyw 'rhaid' ar ei ben ei hun yn achosi treiglad, dydy o?
Nag ydy. Rhaid yw, rhaid oedd, rhaid fydd, nid rhaid mae, rhaid roedd, a rhaid bydd Sanddef 01:02, 5 Mawrth 2010 (UTC)
  • O'n i'n meddwl ceir priflythyren i'r gair "Siawnsri" (i gyfleu "Chancery")?
Dydy hynny ddim yn rheidiol Sanddef 01:02, 5 Mawrth 2010 (UTC)
  • Roedd brawddeg wreiddiol yn "drwy gyfrwn gwritiau", felly newidiais i "drwy gyfrwn writiau", ac wedyn ffeindiais i allan mai "cyfrwng" yw'r gair go iawn, felly nid bai fi yw hynny - camsillafiad rhywun arall sydd.
"gwritiau" ydy Sanddef 01:02, 5 Mawrth 2010 (UTC)
  • A ddylai "chwaraesai" fod yn "chwaraeasai" (berf to play, ie)?
Mae'r "a" yn diflannu ar ôl "a", "ha" ac "ae" Sanddef 01:02, 5 Mawrth 2010 (UTC)
  • Gan fod Siamanaeth yn grefydd, a ddylai fod â phriflythyren? Hefyd efo Paganiaid a Neo-baganaidd???
Nid yw na siamanaeth na neo-baganiaeth na phaganiaeth yn grefyddau penodol. Enwau dosbarth o gredoau ydynt.
  • Pam nad yw "dewiniaeth" yn treiglo'n feddal ar ôl "Duwies"?
Nid oes ganddo rôl ansoddeiriol.Sanddef 01:02, 5 Mawrth 2010 (UTC)

Os allwch chi egluro hyn imi, wedyn y bydd yn gwella fy sgiliau iaith. Diolch. Xxglennxx 00:43, 5 Mawrth 2010 (UTC)

Ah, cŵl. Diolch, Sanddef. Xxglennxx 01:05, 5 Mawrth 2010 (UTC)