Deir al-Balah

(Ailgyfeiriad o Deir el-Balah)

Dinas yng nghanol Llain Gaza, Palesteina, sy'n brifddinas y dalaith o'r un enw yw Deir al-Balah (hefyd: Deir el-Balah neu Dayr al-Balah (Arabeg: دير البلح‎). Yn 2006 roedd ganddi boblogaeth o 49,751. Mae'n gorwedd rhwng dinas Gaza i'r gogledd a Khan Yunis i'r de. Ceir traethau i'r gorllewin ar lan y Môr Canoldir a thyfir palmwydd datys yn y llannerchau.

Deir al-Balah
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth49,751 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Deir al-Balah Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Arwynebedd14.7 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.419°N 34.3516°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'n safle hynafol. Darganfuwyd mynwent sy'n dyddio o Oes yr Efydd yno. Sefydlwyd mynachlog yn Deir al-Balah gan y Santes Helena o Gaergystennin yn 372 OC. Bu ym meddiant y Croesgadwyr a chafodd ei chipio oddi wrthynt gan Saladin.

Heddiw mae Deir el-Balah yn un o gadarnleoedd y mudiad Hamas. sy'n rheoli Llain Gaza, gyda 13 allan o'r 15 sedd ar gyngor y ddinas. Aelod o Hamas, Ahmad Kurd yw'r maer ers Ionawr 2005. Ceir gwersyll ffoaduriaid yn y ddinas. Mae'r ddinas wedi dioddef o sawl ymosodiad gan Israel ers yr Intifada Al-Aqsa yn 2001.

Rhyfel 2008-2009 golygu

Ar y 5ed o Ionawr 2009, adroddwyd fod llongau rhyfel Israel wedi saethu ar Deir al-Balah gan ladd tua deg o bobl.

Dolen allanol golygu