Delwedd:Can y Cathreinwr.ogg

Can_y_Cathreinwr.ogg(Ffeil sain Ogg Vorbis, yn para 56e, 96 kbps, maint y ffeil: 657 KB)

Crynodeb golygu

  • Cân y Cythreiniwr.
  • O wefan Sain Ffagan, gyda chaniatâd Beth Thomas.
  • Geiriau traddodiadol.
  • Tâp AWC 4. Recordiwyd Medi 1953 gan Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), Rock House, Twynyrodyn, ger Gwenfô, sir Forgannwg. Ac yntau ond 13 oed dysgodd RT ganu'r tribannau hyn a'u bath wrth helpu i gathrain (sef gyrru neu symbylu) ychen a oedd yn aredig ar fferm Doghill yn Nyffryn Golych, ger Sain Nicolas.
Mi geso i 'ngwawdd i swpar
Gan ŵr bon(h)eddig (h)awddgar
A chal nidir wedi'i lladd
A phetar gwadd a wiwar! Ma–hw!
Mi geso i 'ngwawdd i gino
A chal pinclwns wedi'u stiwo,
Bara (h)aidd fel r(h)isgil co(e)d;
Ni cheso i 'rio(e)d well greso! Ma–hw!
Tri pheth sy dda gin grotyn
Yw gwraig y tŷ yn w(h)erthin
A'r crochon bach yn berwi'n ffrwd
A llond y cwd o bwdin. Ma–hw!
Tri pheth sy’n gas a lletwith
Yw (h)wch â iwc miwn gwenith,
Atgor gwan yn torri ton
A phac o gryddion llaw–w(h)ith! Ma–hw!
Tri pheth an-(h)awdd eu 'napod:
Dyn, derwan a diwarnod;
Y pren yn gou a'r dydd yn troi
A dyn yn ddouwynepog. Ma–hw!

Nodiadau golygu

Yn aml, llwgr ac anghyson ydoedd ieithwedd y gân hon fel y'i recordiwyd, a cheisiwyd unioni ar bethau wrth ei darparu ar gyfer ei chyhoeddi. Fe welir ei bod yn nhafodiaith Bro Morgannwg. Ers canrifoedd maith bu defnyddio caniadau neu alwadau o ryw fath i annog ychen i weithio. Cofnodwyd amryw enghreifftiau o'r penillion (ynghyd â'r alaw ddiweddol) a genid i'r wedd ychen yn y deheudir. Yno – ac ym Morgannwg yn benodol – y parhaodd yr arfer o aredig ag ychen hwyaf yng Nghymru (hyd tuag 1880). Ar fesur triban y mae'r rhan fwyaf o'r caneuon ychen a gadwyd o Forgannwg. Ceir ymhlith y rhain laweroedd o dribannau serch a thribannau trioedd, i enwi ond dau ddosbarth, ac amlygir yn y goreuon gynildeb ac arabedd anghyffredin. Unedau hunan–gynhaliol yw'r mwyafrif o'r penillion hyn eithr peth arferol wrth ddilyn y wedd aredig oedd llinynnu nifer ohonynt ynghyd a'u canu yn un gyfres.

Trwyddedu golygu

Cadwyd rhai hawliau
Priodoli’r AwdurI’w ail-ddefnyddio ar yr un amodau
Gosodwyd y ffeil hwn ar dermau trwyddedi Creative Commons, sef fersiwn 3.0 o'r trwyddedi Attribution ShareAlike

This file is licensed under the Creative Commons Attribution ShareAlike license version 3.0

Cc-by-sa-3.0 Creative Commons sef fersiwn 3.0 o'r trwyddedi Attribution ShareAlike http://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/

Hanes y ffeil

Cliciwch ar ddyddiad / amser i weld y ffeil fel ag yr oedd bryd hynny.

Dyddiad / AmserBawdlunHyd a lledDefnyddiwrSylw
cyfredol06:11, 17 Awst 201856e (657 KB)Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau){{Gwybodaeth |Disgrifiad = Cân y Cathreinwr |Ffynhonnell = https://amgueddfa.cymru/casgliadau/caneuongwerin/?id=1 |Awdur = Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), "Rock House", Twynyrodyn, ger Gwenfô, Sir Forgannwg. |Dyddiad = 1953 |Caniatâd = Nodwyd i mi gan y Curadur Beth Thomas, fod holl gynnwys Gwefan Sain Ffagan ar drwydded agored. |Fersiynau_eraill = }}
11:35, 22 Ionawr 201656e (614 KB)Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)Cân y Cythreiniwr. O wefan [http://www.amgueddfacymru.ac.uk/casgliadau/caneuongwerin/?id=1 Sain Ffagan], gyda chaniatâd Beth Thomas. geiriau traddodiadol. Mi geso i 'ngwawdd i swpar Gan ŵr bon(h)eddig (h)awddgar A chal nidir wedi'i lladd A phetar g...

Mae'r 1 tudalennau a ddefnyddir isod yn cysylltu i'r ddelwedd hon:

Statws trawsgodio

Diweddaru'r statws trawsgodio
Format Bitrate Download Statws Encode time
MP3 144 kbps Completed 06:11, 17 Awst 2018 2.0e

Metadata