Llywodraeth seneddol

(Ailgyfeiriad o Democratiaeth seneddol)

Ffurf ar lywodraeth a chanddi adran weithredol sy'n cael ei gyfreithlondeb democrataidd o senedd neu gynulliad deddfu tebyg yw llywodraeth seneddol neu ddemocratiaeth seneddol. Fel arfer, corff etholedig ydy'r ddeddfwrfa, a'i swyddogaethau yw craffu ar ddeddfwriaeth ac awdurdodi'r gyfraith statudol, arolygu a rheoli gwariant cyhoeddus, goruchwylio gweithgareddau'r adran weithredol, a chynrychioli etholwyr y wlad. Mae'r mwyafrif o lywodraethau seneddol yn defnyddio pwyllgorau i graffu ar ddeddfwriaeth a phroses y gyllideb. Yn y mwyafrif o systemau seneddol, mae swyddogion yr adran weithredol, hynny yw gweinidogion y llywodraeth, yn aelodau'r senedd.[1]

Gwahanol systemau seneddol o gwmpas y byd:      Gweriniaethau seneddol a chanddynt oruchafiaeth dros bennaeth y wladwriaeth.      Gweriniaethau seneddol a chanddynt arlywydd sy'n dibynnu ar gefnogaeth y ddeddfwrfa.      Breniniaethau cyfansoddiadol sy'n ymddiried awdurdod yn y senedd.

Cyfeiriadau golygu

  1. David Robertson, The Routledge Dictionary of Politics 3ydd argraffiad (Llundain: Routledge, 2004), tt. 368–9.