Demograffeg yr Eidal

Demograffeg yr Eidal yw'r astudiaeth o niferoedd a nodweddion poblogaeth yr Eidal. Ar 31 Rhagfyr 2006 roedd poblogaeth yr Eidal yn 59,131,287. Roedd 30,412,846 o'r rhain yn ferched a 28,718,441 yn ddynion.

Tŵf poblogaeth yr Eidal

Dinasoedd golygu

Dinasoedd mwyaf yr Eidal, gydag ystadegau poblogaeth 2006, yw:

  1. Rhufain - 2,705,603
  2. Milan - 1,303,437
  3. Napoli - 975,139
  4. Torino - 900,569
  5. Palermo - 666,552
  6. Genova - 615,686
  7. Bologna - 373,026
  8. Fflorens - 365,966
  9. Bari - 325,052
  10. Catania - 301,564

Ieithoedd golygu

Eidaleg yw iaith swyddogol yr Eidal. Yn nhalaith Bolzano, mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Almaeneg fel iaith gyntaf, ac mae Almaeneg yn iaith swyddogol yno ar y cyd ag Eidaleg. Mae Ffrangeg yn gyd-iaith swyddogol yn Val d'Aosta,