Desolation Radio
Rhaglen podlediad yw Desolation Radio sy'n trafod gwleidyddiaeth Cymru a'r byd o safbwynt asgell chwith genedlaetholgar. Mae'r rhaglenni yn y Saesneg.
Cyflwynwyr
golyguSefydlwyd Desolation Radio yn 2016. Cyflwynir a sefydlwyr y rhaglen gan Dr Dan Evans[1] o Borthcawl a Nathan Cush.
Fformat
golyguMae'r ddau yn cyflwyno rhaglen, ar gyfartaledd, unwaith y mis. Caiff amrywiaeth eang o bynciau eu trafod mewn rhaglen sydd yn para oddeutu awr. Mae'r pynciau wedi cynnwys Brexit, comwinyddiaeth a Mudiad Sosialaidd Weriniaethol Cymru (Welsh Socialist Republican Movement) gyda Rob Griffiths, ôl-wladychu gyda Kirsti Bohata, Merched Beca gyda Rhian E. Jones, ymgyrch y Cwrdiaid dros annibyniaeth.