Dessau
Dinas yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn nwyrain canolbarth yr Almaen yw Dessau. Saif ar gydlif Afon Mulde ac Afon Elbe, i'r gogledd-ddwyrain o Halle an der Saale. Codwyd y dref Almaenig ar anheddiad Sorbaidd, ac o 1213 mae'r cofnod cyntaf o Dessau. Trigai cowntiaid, tywysogion, a dugiaid Anhalt yn Dessau o 1603 hyd 1918.[1]
Math | Ortsteil |
---|---|
Poblogaeth | 83,616 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dessau-Roßlau |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 182.81 km² |
Uwch y môr | 63 metr |
Gerllaw | Mulde, Afon Elbe |
Cyfesurynnau | 51.8342°N 12.2461°E |
Cod post | 06842, 06844, 06846, 06847, 06849, 06861, 06862 |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Symudodd y Bauhaus i Dessau o Weimar ym 1925, ac yno bu'r ysgol bensaernïol honno nes i'r Natsïaid ei chau ym 1933. Dynodwyd adeiladau Bauhaus y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1996, a Gerddi Dessau-Wörlitz cyfagos yn 2000. Ymhlith ei feibion a merched o nod mae'r athronydd Moses Mendelssohn a'r arlunwyr Friederike Julie Lisiewska ac Angelika Tübke.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Dessau, Germany. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mawrth 2018.