Ym meddygaeth, dialysis [sy'n tarddu o'r Groeg διάλυσις, diàlysis, (ymddatod), o διά, dià, (trwy), a λύσις, (lỳsis) (llacio neu hollti)], yw proses o gael gwared â gormodedd dwr, toddion a thocsinau o waed y rhai nad yw eu harennau yn gallu gwneud hynny. Mae'n cael ei gyfeirio ato fel therapi amnewid arennol.

Dialysis
Maththerapi amnewid arennol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall dialysis gael ei ddefnyddio yn y sawl sy'n colli'r gallu arennol yn sydyn o ganlyniad i anaf neu yn arafach o ganlyniad i glefyd ar yr arennau.

Mae dialysis yn cael ei ddefnyddio fel mesur dros dro yn achos anafiadau i arennau neu pan fydd unigolion yn disgwyl trawsblaniad arennau, ac fel mesur parhaol i'r rhai na all gael trawsblaniad am ba bynnag reswm.

Cynhaliwyd y dialysis llwyddiannus cyntaf yn 1943.

Cyfeiriadau golygu