Diane de Poitiers
Roedd Diane de Poitiers, Duges Valentinois (3 Medi, 1499 - 25 Ebrill, 1566) yn wraig llys ddylanwadol yn Ffrainc a gordderch Harri II, brenin Ffrainc.[1]
Diane de Poitiers | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Diane de Poitiers ![]() 3 Medi 1499, 9 Ionawr 1500 ![]() Saint-Vallier ![]() |
Bu farw | 25 Ebrill 1566 ![]() Château d'Anet ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | boneddiges breswyl, meistres frenhinol ![]() |
Tad | Jean de Poitiers, Seigneur de Saint Vallier ![]() |
Mam | Jeanne de Batarnay ![]() |
Priod | Louis de Brézé, seigneur d'Anet ![]() |
Partner | Harri II, brenin Ffrainc ![]() |
Plant | Françoise de Brézé, Louise of Brézé ![]() |
Llinach | Brézé ![]() |
llofnod | |

Bywgraffiad golygu
Brodores o ddinas Poitiers oedd Diane. Priododd yn 13 oed. Daeth yn adnabyddus am ei harddwch a'i phersonoliaeth atyniadol. Yn weddw brydferth yn 32 oed, enillodd cariad y Dauphin ifanc, bachgen ar y pryd a oedd eisoes yn briod â Catherine de' Medici. Pan esgynodd y dauphin i'r orsedd yn 1547 fel Harri II o Ffrainc roedd Diane mewn sefyllfa i ddylanwadu'n fawr ar fywyd y llys a'r deyrnas a chafodd ei gwneud yn Dduges Valentinois.
Ar farwolaeth Harri yn 1559 cafodd ei gorfodi gan Catherine de' Medici i ymneilltuo i'w chateau yn Anet.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Encyclopedia Britannica, Incorporated. 1970. t. 365.