Dibwyllo
Mae dibwyllo (a elwir hefyd yn gasleitio) yn ymadrodd llafar a ddiffinnir yn fras fel twyllo rhwyun er mwyn gwneud iddynt gwestiynu eu cof eu hunain.[1] Mae'r term Saesneg (gaslighting) yn deillio o deitl y ffilm Americanaidd Gaslight o 1944, er na ddefnyddiwyd y term yn eang yn Saesneg nac yn Gymraeg tan ganol y 2010au.[2]
Math | cam-drin seicolegol, psychological manipulation, narcissistic abuse |
---|
Gellir defnyddio'r term hefyd i ddisgrifio person (sef "dibwyllwr" neu "gasleitiwr") sy'n cyflwyno gwybodaeth ffug i rywun, yn aml fel rhan o ymgyrch, i wneud iddynt "amau eu cof eu hunain o ddigwyddiadau ac i amau eu pwyll".[1] Yn aml, mae hyn er mantais i'r dibwyllwr ei hun, ond nid yw dibwyllo yn fwriadol bob tro.[3]
Dulliau cyffredin o ddibwyllo
golyguGwahanol dechnegau a ddefnyddir gan ddibwyllwyr i gamdrin eu dioddefwyr, fel drysu. Ar wahân i ddrysu, gallant ddefnyddio dulliau eraill gan gynnwys:[4]
Cuddio neu gelu ffeithiau
golyguMae'r camdriniwr yn esgus nad yw'n deall y dioddefwr.
Cwestiynu
golyguMae'r camdriniwr yn cwestiynu cof y dioddefwr er bod y dioddefwr wedi cofio digwyddiadau yn gywir.
Newid y pwnc
golyguMae camdriniwr yn newid pwnc y sgwrs a chwestiynu meddyliau'r dioddefwr ac wedyn yn rheoli'r sgwrs.
Trifialeiddio
golyguMae'r camdriniwr yn rheoli meddyliau'r dioddefwr, ac yn gwneud iddynt gredu nad yw eu meddyliau a/neu eu hanghenion yn bwysig.
Anghofio a gwrth-ddweud
golyguMae camdriniwr yn esgus anghofio yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd; gall y camdriniwr gwrth-ddweud neu oedi pethau fel addewidion sy’n bwysig i’r dioddefwr. Tra bo pawb yn anghofio a gwrth-ddweud weithiau, mae'n bwysig nodi bod dibwyllwyr yn gwneud hynny'n rheolaidd heb gyfyngiadau allanol go iawn. Gall y dibwyllwr greu neu ffugio rhwystrau artiffisial i ganiatáu iddo'i hun wadu neu ohirio'r hyn sy'n bwysig i'r dioddefwr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Gaslighting". BydTermCymru. Llywodraeth Cymru. 21 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
- ↑ Yagoda, Ben (12 Ionawr 2017). "How Old Is 'Gaslighting'?". The Chronicle of Higher Education (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
- ↑ DiGiulio, Sarah. "What is gaslighting? And how do you know if it's happening to you?". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
- ↑ "Gaslighting Definition, Techniques and Being Gaslighted | HealthyPlace". HealthyPlace (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.