Die Kunst der Fuge

Cyfansoddiad anorffenedig gan Johann Sebastian Bach yw Die Kunst der Fuge ("Celfyddyd y Ffiwg"). Fe'i ysgrifennwyd ym 1748 a 1749, ac fe'i gyhoeddwyd yn 1751 ar ôl iddo farw. Fe'i ystyriwyd yn un o uchafbwyntiau arddull gwrthbwyntiol cyfnod y baróc.

Seilwyd yr holl waith, i ryw raddau, ar y thema (neu pwnc) syml canlynol:

Mae'r symudiadau fel a ganlyn:

Ffiwgiau cyffredin:

1. Contrapunctus I a
2. Contrapunctus II: ffiwgiau 4-llais ar y prif bwnc.
3. Contrapunctus III, a
4. Contrapunctus IV: ffiwgiau 4-llais ar wrthdröad y prif bwnc, h.y., y pwnc a'i ben i lawr.

Ffiwgiau lle defnyddir y pwnc ynghŷd â'i wrthdröad:

5. Contrapunctus V:
6. Contrapunctus VI, a 4 in Stylo Francese:
7. Contrapunctus VII, a 4 per Augmentationem et Diminutionem: Mae hefyd yn defnyddio'r dull o hanneri neu ddyblu hyd nodau'r pwnc

Ffiwgiau deublyg a thrifflyg, efo dau neu dri pwnc yn ôl eu trefn:

8. Contrapunctus VIII, a 3: trifflig.
9. Contrapunctus IX, a 4 alla Duodecima: deublyg
10. Contrapunctus X, a 4 alla Decima: deublyg.
11. Contrapunctus XI, a 4: trifflig.

Ffiwgiau drych, lle gellir gwrthdroi'r sgôr cyfan, gan rhoi fel, petai, dau ffiwg am bris un:

12. Contrapunctus XII, a 4:
13. Contrapunctus XIII, a 3:

Canonau:

14. Canon alla Octava:
15. Canon alla Decima in Contrapunto alla Terza:
16. Canon alla Duodecima in Contrapunto alla Quinta:
17. Canon per Augmentationem in Contrario Motu:

Ffiwg anorffenedig:

18. Fuga a 3 Soggetti (Contrapunctus XIV): Ffiwg trifflig, pedwarblyg o bosib, mewn 4 llais. Seilir y drydedd pwnc ar enw Bach: B♭–A–C–B♮.