Digartrefedd
(Ailgyfeiriad o Digartref)
Digartrefedd yw sefyllfa pan nad oes gan berson gartref oherwydd nad oes digon o gartrefi ar gael, neu ni allant fforddio prynu neu rentu cysgodfan rheolaidd, diogel ac addas.
Rhesymau dros ddigartrefedd
golyguYn ôl astudiaethau diweddar, dyma rai o brif achosion digartrefedd:
- Diffyg stoc o dai fforddiadwy.
- Tlodi oherwydd diwethdra.
- Camdrin sylweddau.
- Problemau iechyd meddwl
- Trais yn y cartref
- Cyn garcharorion heb gartref i ddychweld iddynt wedi iddynt gael eu rhyddhau
- Trychinebau naturiol
- Dadfeddiant gorfodol - mewn rhai gwledydd, mae pobl yn colli eu cartrefi oherwydd gorchmynion gan y llywodraeth er mwyn datblygiadau cyhoeddus neu breifat. Yn aml mae'r iawndal yn annigonol er mwyn dod o hyd i gartref newydd.
- Gorfod ad-dalu morgais, a'r unig ddewis yw gwerthu'r tŷ.