Yn namcaniaeth Farcsaidd mae diriaethu yn cyfeirio at y modd y caiff cysylltiadau cymdeithasol eu gwneud yn bethau i'r graddau y cânt eu mynegi gan y berthynas rhwng nwyddau traul. Hynny yw, y modd y trawsffurfir cysylltiadau cymdeithasol dynol yn gysylltiadau rhwng nwyddau traul a gynhyrchwyd gan ddyn ac sydd yn annibynnol o ddyn. Yn ôl Marcsiaeth, rhywbeth i'w gyfnewid ar y farchnad rydd yw nwydd traul ac nid yw ei werth yn amlygiad o'r llafur a grynhowyd ynddo: nid yw'n diwallu angen. Golyga diriaethu fod y cysylltiad rhwng angen a'r gwaith i'w wneud gan yr unigolyn i'w ddiwallu yn cael ei golli: o ganlyniad, mae'r rhaniad llafur yn cael ei ystyried yn naturiol ac yn rhagflaenydd unrhyw waith a gyflawnwyd gan yr unigolyn. Mae'r cysylltiadau sy'n ynghlwm wrth y rhaniad llafur eu hunain yn cael eu trin yn yr un modd â nwyddau traul bellach.

Cyfeiriadau golygu

[1]