Disgyrrwr caled
Teclun bychan i gadw neu storio gwybodaeth (DASD) digidol ydy'r disgyrrwr caled. Mae ganddo un neu ragor o adrannau (Saesneg: platter) ar droell-fodur trydan (motor driven spindle) o fewn cas metel caled. Caiff y data (sydd wedi ei storio'n fagnetaidd arno ei ddarllen gyda teclun tebyg i nodwydd hen droellwr recordiau sy'n arnofio ar glustog o aer uwch ei ben.[1]
Crewyd y ddisg storio gwybodaeth cyntaf gan IBM yn 1956. Ers hynny dyma'r dull mwyaf poblogaidd i storio data gan idduynt fod yn rhan allweddol a mewnol o bob cyfrifiadur a grewyd, bron. Mae eu gallu i storio mwy a mwy o wybodaeth wedi cynyddu ers y pumdegau drwy systemau RAID ayb - a hynny yn aruthrol.[2] Maen nhw'n troelli'n gynt hefyd, a'r data'n cael ei ddarllen a'i sgwennu'n gyflym iawn drwy Serial ATA (SATA) neu Serial attached SCSI (SAS).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ What is hard disk?, Webopedia.com; 24-06-2010.
- ↑ Magnetic Storage Handbook 2nd Ed., Section 2.1.1, Disk File Technology, Mee a Daniel, (c)1990,